Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddiwyd

ddiwyd

Wedi'r cyfan, does dim cymhelliad i'r bobl weithio'n ddiwyd, ac felly, yn naturiol ddigon, mae pawb yn symud wrth eu pwysau.

'I ba beth y gwnaed y Cymry?' , meddai'n guchiog rhyw dro, 'I durio y ddaear i'r Sais, a'i arbed ef rhag gweithio.' Loes calon iddo ef oedd gweld cynifer o Saeson yn ymgyfoethogi ar draul y Cymry, yn ysbeilio crombil y ddaear o 'frasder oesoedd' ac yn 'ddiwyd gasglu i'w llogellau gynnyrch trysorau ein gwlad'.

Bydd disgyblion yn gweithio'n ddiwyd ar amrywiaeth o dasgau ysgrifenedig gan amlygu gonestrwydd, ymroddiad a dychymyg.

Gweithiai JE yn ddiwyd a thawel gan gano pen trymaf y baich ei hunan bob amser.

A bu'r ddau fachgen fenga wrthi'n ddiwyd yn hel cnau a ffrwythau.

Yn ystod y chwe blynedd hynny ymgymerodd yn ddiwyd â'i ddyletswyddau pwysfawr a thrigai yn llys yr esgob ym Matharn, ger Cas-gwent.

Ymarferai saethu yn ddiwyd, hefyd.

Ma nhw di bod wrthin ddiwyd yn hyrwyddor mini-albym newydd, ac yng nghanol y gigs i gyd, daeth y bois i mewn i'r stiwdio yma ym Mrynmeirion i recordio sesiwn acwstic 3 cân - ac maen swnion WYCH. mae'r traciau i'w clywed ar Gang Bangor gydol yr wythnos, a bydd cyfle i ennill copiau o'r CD wedi eu harwyddo.

Ag yntau yn hogyn fferm roedd ganddo nifer o gelfi ffermio cynnar i ennyn diddordeb y plant a bu'r plant yn ddiwyd yn creu rhaff wair.

Gwyddai fod ei frawd yn meddwl y byd ohonynt ac wedi eu hel yn ddiwyd ers chwe mis bron ...

Ers amser cyn ei farwolaeth caniatâi'r rhyddid mwyaf i mi; ac ni fyddai'n gofyn imi wneud ond y nesaf peth i ddim yn y siop os gwelai fi'n ddiwyd gyda'm llyfrau, ac nad oeddwn yn segura.

Rhoddodd ar ddeall inni y buasai'n ein gadael ar ein pennau ein hunain pe baem yn mynd ymlaen efo'r gwaith yn ddiwyd a di-stwr.

bu'n ddiwyd iawn yn ceisio cael rhagor o gefnogaeth i achos heddwch gan drigolion prydain.

Roedd catharsis y noson flaenorol wedi gadael ei ôl, fodd bynnag; cleisiau glasddu a chlwyfau dwfn ar ei ddyrnau a'i goesau, ond eisoes roedd ei system fetabolig gyflym yn gweithio'n ddiwyd i ddileu'r rhain.