Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddiymadferth

ddiymadferth

meddai, braidd yn ddiymadferth eto, ond roedd sylw hwnnw wedi'i hoelio ar y ffordd o'i flaen.

Nid oeddynt fel crefyddwyr, ychwanegodd, wedi sylweddoli aruthredd yr amgylchiadau a'u goddiweddodd, ac o'r herwydd yr hyn a wnaed oedd chwarae'n ddiymadferth â'u hymylon heb sylweddoli fod wyth deg y cant o'r boblogaeth y tu allan i'r eglwysi.

At hyn eglura fod mudiad heb gylchgrawn 'yn fud a diamddiffyn, yn ddiymadferth ac yn gwbl anabl i gerdded rhagddo'.

Y mae'r angen am gymod rhwng Duw a dyn yn codi o gyflwr pechadurus dyn, a'i anallu hollol ddiymadferth i fedru gwneud dim o'i ran ei hun.

Pethau'n mynd i'r gwellt heb i mi wneud dim byd i frwydro yn erbyn hynny; dim ond gorwedd yn ddiymadferth o dan ergydion creulon y tawelwch a adawai glwyfau a chleisiau newydd o ddieithrwch bob eiliad.

Ar hyn, rholiodd y chwilen drosodd yn ddiymadferth.

Yn 1999 bu Llew a Nia mewn damwain car ddifrifol a gadawyd Nia yn gwbl ddiymadferth.

Wrth ddweud yn negyddol fod y mudiad yng Nghymru yn 'ddiymadferth ac yn gwbl anabl i gerdded rhagddo' heb Yr Ymofynnydd, gellid casglu bod y cylchgrawn, yn ôl ei olygydd, yn gefn a chanllaw sicr i'r Undodiaid, a hynny drwy un o'r cyfnodau mwyaf anodd yn hanes y traddodiad rhyddfrydol, a chrefydda yn gyffredinol.

Ac yno y maent yn siglo mor ddiymadferth â'r gwymon gyda'r cerrynt.

Eto nid oeddent yn ddiymadferth, ddieuog.

Diamau mai gwasgfa'r fagl am ei gorff yw'r eglurhad, a'i fod yn bur ddiymadferth pan ryddhawyd ef ohoni.