Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddoethineb

ddoethineb

Ond y neges bwysicaf i'r cadwriaethwyr oedd bod yn rhaid i ddoethineb a phrofiad yr oesoedd gael cyfle i ymdreiddio i gof yr hil o'r naill genhedlaeth i'r llall.

Y mae rhan sy'n cyfresu dymuniadau y gwyr sy'n awchu am naill ai ddoethineb neu wybodaeth neu ieuenctid parhaus neu arian.

Yn raddol fe ddaw'r hen bâr, ac yn arbennig yr hen ŵr, o gryn ddiddordeb i'r adroddwr, sydd yn ei weld fel cynrychiolydd yr hen ddiniweidrwydd gwerinol a wrthgyferbynnir â bydol-ddoethineb y byd sydd ohoni.

Ceisiodd dyn ar hyd yr oesoedd fesur fy modolaeth, ac, yn ei ddoethineb, erbyn hyn, wedi llwyddo, a sylweddoli mai fi ydyw mesur ei fodolaeth ef o'i grud i'w fedd.

Cais syml i benderfynu sylfeini ydoedd, ac ni synnai "A.E" pe byddai "cenhedloedd penllwyd gan ddoethineb wleidyddol" yn dirmygu'r ymgais i "sefydlu meddwl gwleidyddol gan genedl hunan- lywodraethol newydd, neu ddamcaniaethau am wareiddiad yn cael eu trin o gwmpas crud Gwladwriaeth yn ei babandod".

(b) Awdurdodwyd y Prif Swyddog Technegol i ddefnyddio'i ddoethineb parthed cyfarwyddiadau ar arwyddion (ar wahân i enwau'r strydoedd).

Ychydig iawn mae Daz yn ei ddweud trwy'r ddrama, ond mae'r hyn y mae'n ei ddweud yn ddoethineb.

Gwyddent am ei ofal a'i waith dros y dref ar hyd y blynyddoedd ac roeddent yn barod i wrando ar ei brofiad a'i ddoethineb.

Yr oedd ei bwyll a'i ddoethineb, heb sôn am ei brofiad maith mewn llywodraeth leol, yn rhoi gwerth ar ei gyfraniadau i'r pwyllgorau y gwasanaethai arnynt.

Plygwn ger dy fron, y Creawdwr hollalluog, gan ryfeddu at dy nerth a'th ddoethineb.

Y ddoethineb gonfensiynol yw bod ysgolion pentrefol yn unedau cartrefol ac agos ond na allan nhw gynnig yr un safon o addysg h.y. eu bod yn dda'n gymdeithasol ond nid cystal yn academaidd.