Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddoniol

ddoniol

mi geuson nhw row wedyn - Mrs Robaits yn deud y basa hi wedi medru tagu i farwolaeth - ond doeddan ni ddim yn medru peidio chwerthin, roedd o mor ddoniol.

Clywsom jôcs gwirioneddol ddoniol am ei yrfa yn Llanrwst yn y stôr ac fel saer - 'roedd o'n fwrddrwg go iawn!'

Yn yr ail act cawn nifer o olygfeydd gwrthgyferbyniol, un o olygfa o'r eglwyswyr yn cynllwynio sut i gasglu camdystiolaeth ac yn gwledda gyda'r ysbi%wyr ar ddechrau'u taith; golygfa arall o Bentre'r Bobol lle mae arweinwyr Ymneilltuaeth yn ymgasglu i weld beth sydd yn digwydd, ac yma y cawn Lywelyn y Bardd yn ffroeni bradwriaeth, a'r Annibynnwr, Davies, yn cymharu'r hyn sydd yn digwydd â hen Frad y Cyllyll Hirion, ac yna ambell olygfa ddoniol lle mae'r ysbi%wyr yn holi plant yr Ysgol Sul ac yn eu baglu â'u cwestiynau, gan geisio tystiolaeth i'w gwneud yn ymddangosiadol dwp, ond lle mae'r plant yn tybio bod yr ysbi%wyr yn rhai twpach.

Mae'r cerddi'n ddoniol, yn ddiniwed ac yn annwyl.

Maent yn ffraeth, yn ddifyr ac yn ddoniol, weithiau.

Maen nhw'n chwerthin yn afreolus am ben jôcs nad ydynt yn ddoniol i neb arall.

Fodd bynnag, 'rydw i am geisio ateb cwestiynau sydd wedi eu gofyn lawer o weithiau i mi - "Ydi dy dad yn un mor ddoniol ar yr aelwyd ag ydi o yn gyhoeddus?" Neu bellach wrth gwrs "Oedd o?" (Ydi mae'n anodd dweud 'Oedd o?' am nhad.

Mae ei ddisgrifiad ohono yn ei lyfr, fodd bynnag, yn flÚr ar adegau, os nad yn ddoniol, ac mae'n brawf o gymysgwch ei feddwl.

'Dwi'n cofio unwaith mam wedi gwneud cwstad wy, a thrwy rhyw anffawd disgynnodd matsian i'r cwstad, heb i mam sylwi, fe gyrhaeddodd y fatsian ar blât 'y nhad, ac yntau'n troi at Glyn, fy mrawd, a deud 'Gymi di hanner y fatsian 'ma efo fi Glyn?' Os bydda ni'n digwydd mynd i rywle i gael bwyd wedyn, tŷ ffrindia' neu gaffi, ac os bydda rhywun yn cynnig cwstard, mi fydda ni i gyd fel un yn dweud, "Oes 'na fatsian yno fo?" 'Roedd nhad yn ddoniol pan oedd o wedi gwylltio hyd yn oed, dyma ddwy enghraifft sy'n dod i'r cof.

Mae yna stori ddoniol y buasai THP-W yn ei hoffi, rwy'n meddwl, a all fod yn gymhariaeth werinaidd i hyn, a dim mwy.

Mi 'roedd nhad yn gwylltio'n gacwn, am ychydig eiliadau, a wedyn fel bo cyffur hiwmor yn treiddio mewn i'w wythiennau a'i holl gorff a'i feddwl yn cael ei ddylanwadu, mi fydda fo'n mynd yn fud ac fel fyddech yn gweld, bron yn clywed, olwynion ei ymennydd yn troi ffwl sbid i geisio cynhyrchu llinell ddoniol i ddod allan o'r gwylltineb.

Deud rhyw fath o stori-ddoniol neu jôc oedd y gystadleuaeth stori fer yma.