Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddull

ddull

Ond ofnaf y buaswn i, yn y cyflwr hwnnw, wedi herio Goliath i ymryson yn ei ddull ei hun a'i wahodd i alw Og, Brenin Basan ato, i'w helpu.

Dyna ddull Natur o'i diogelu rhag ymosodiadau ei gelynion.

Yr hen ddull o amaethu a arferid yno hyd y diwedd, gyda cheffylau gwedd yn tynnu'r offer i gyd.

Daeth ataf a rhoi ei law ar fy ysgwydd yn ei ddull cu a thadol (a bu ei gyffyrddiad grasol yn help nid bychan i mi ddeall ystyr seicolegol 'tadolaeth Duw', reit siwr).

Drwy ddefnyddio dulliau dysgu gwahaniaethol gellir cynnal hyder a diddordeb disgyblion sy'n dysgu drwy ddull dwyieithog.

Yn ei ddarlithiau Reith dywedodd, " Mae gwyddoniaeth yn newid holl ddull dyn o fyw; mae syniadau gwyddoniaeth yn newid y ffordd mae dyn yn meddwl am y byd ac amdano'i hyn".

Fel yn bennaf oll y cadwasom yr ystyr a llafurio bob amser i'w adfer yn gwbl gywir, felly yr ydym â'r parch mwyaf wedi cadw priod ddull y geiriau yn gymaint ag i'r Apostolion wrth lefaru wrth y Cenhedloedd ac ysgrifennu atynt yn yr iaith Roeg eu cyfyngu eu hunain i ymadrodd bywiog yr Hebraeg yn hytrach na mentro ymhell trwy ystwytho eu hiaith i lefaru fel y llefarai'r Cenhedloedd.

Eithriadau: Myfyrwyr Prif Ddull Mathemateg.

"Stand, turn, march," ebe'r athro yn ei ddull awdurdodol, ac allan â ni, yn weddol drefnus nes mynd o'i ŵydd, ond wedi hynny yn bur wahanol.

Mae'n siop brysur a chyfeillgar gyda'r hen ddull o werthu yn dal.

Yr oedd yn ddull newydd, tymhestlog, rhy frochus hyd yn oed i Thomas Charles o'r Bala, y gwr y byddai clywed John Elias yn bwrw drwyddi'n codi croen gwydd arno.

Pe byddai'r nwydd newydd o werth masnachol mae'n siŵr y bydd rhywrai yn chwilio am ddull i'w addasu.

Pan ddychwelodd, roedd wedi cael profiad o fywyd gorllewinol ac roedd ei syniadau'n llawer rhy ddieithr i hen ddull ei dad o lywodraethu.

Chwarae teg i'r Llywodraeth, trwy ryw bedair canrif o lywodraethu Cymru, er pob tro ar fyd, er pob newid ar ddull y Senedd a moddion llywodraeth, er pob chwyldro cymdeithasol, ni bu erioed anwadalu ar y polisi hwn o ddiddymu'r iaith Gymraeg yn iaith weinyddol mewn na swydd na llys nac unrhyw ysgrif gyfreithiol.

Yn ardal Caerdydd, nid oedd pobl yn medru dewis rhwng Christmas a'i gymydog a'i ffrind, Griffith Hughes, y Groes-wen, pregethwr tebyg iawn i Christmas o ran ei ddull.

Mae'n arwyddocaol fod y fersiwn hwn, lle bynnag y bo priod-ddull y Ffrangeg yn gofyn am eiriau nad oes dim yn cyfateb iddynt yn y gwreiddiol, yn dynodi'r ychwanegiadau hyn trwy eu hargraffu mewn print manach.

Nid cred negyddol yw hon, ond yn hytrach sylfaen i ddull cadarnhaol ac ymosodol o weithredu.

Roedd Pamela'n gobeithio'i fod wedi newid ei ddull o fyw, ond fe'i siomwyd.

Yn wir, yr oedd ei ddull o chwarae a'i ymddygiad ar y maes yn batrwm i fechgyn ifainc.

Natur sy'n cynhyrchu pren wedi'i garegu trwy ddull arbennig.

Nid yn uni~ yr oedd deun~dd ei bregethau'n wahanol, ond hef~!d ei ddull o'u traddodi."

Mae lleoliadau athrawon yn ddull cost effeithiol o ddatblygiad proffesiynol sydd wedi'u cynllunio i gyfarfod ag anghenion y cynllun datblygu ysgol a datblygiad gyrfaol yr unigolyn.

Yr hyn sy'n newid yw ei ddull ffurfiol ef o fynegi'r profiad wrth iddo arbrofi â thrin a thrafod paent.

Nid ar unwaith yr enillwyd hyder gan na darllenwyr nac ysgrifenwyr pan ddaethpwyd i gyfansoddi stori%au ysgrifenedig, ond datblygodd llenorion Ffrangeg diwedd y ddeuddegfed ganrif ddull ymwâu themâu ac anturiaethau a dyfodd yn ddyfais naratif tra chywrain yng ngweithiau rhyddiaith y ganrif ddilynol.

Geill gŵr digon anllenyddol ysgrifennu'r iaith yn lân ei phriod-ddull, ac yn gain ar dro.

Yn ôl esiampl yr Ysgrythurau eu hunain, rhaid rhoi'r flaenoriaeth i briod-ddull yr iaith y cyfieithir ohoni wrth gyfieithu'r Ysgrythurau.

Gyda'i ddull lliwgar o adrodd stori a'i hymestyn o fodfedd i filltir, fe aeth yn rhan o'n chwedloniaeth, o'n traddodiad a mesur o'i ddylanwad ar gymdeithas yw fod ei straeon yn dal yn fyw, ymhell ar ei ôl.

Er bod testun fel hwn yn rhoi cyfle i'r beirdd gyfeirio at y Rhyfel, awdl yn yr hen ddull a gafwyd gan aelod o'r hen do, J. T. Job, heb gyfeirio o gwbwl at y lladdfa.

Rhaid chwilio am ddull haws o farchnata wrth imi heneiddio!

Pa ddull bynnag o gynnal eich pwysau y byddwch yn ei ddewis, dylech barhau i bwyso'ch hun yn eithaf reholaidd.

JE Caerwyn Williams, yn ei ddull manwl arferol, a sicrhaodd gywirdeb y testun, ac achubodd hefyd ar y cyfle i ychwanegu, o'i wybodaeth hynod eang am lenyddiaeth Cymru ac Ewrop yn y cyfnod canol, doreth o nodiadau tra defnyddiol ar fanylion iaith a chynnwys a fydd yn goleuo'r testun mewn modd amheuthun i bawb a fydd yn ei ddefnyddio.

Diau i'w ddull o ysgrifennu effeithio ar lawer un arall, oherwydd darllenid ei weithiau, yn erthyglau a llyfrau, gan bob llenor o Gymro yn gyson am dros ddeng mlynedd ar hugain.

Gwir fod ei feiddgarwch ymadrodd yn nyddiau Caerdydd wedi peri i Laud ei ddisgrifio fel "bold, ignorant young fellow% ond, wrth gwrs, ni wyddai Cradoc ddim am y feirniadaeth ac ni newidiodd ei ddull.

A rhagddo i ddangos angenrheidrwydd y gwaith hwn, ei ddull, a'i ddiben, ond gan wneud hynny mor asttus fel y mae'n anodd iawn ei ddilyn.

Dyna'r hen ____ (berwai Wiliam wrth gofio amdano'n awr) yn gwrthod rhoi clwt iddo ryw brynhawn yn yr haf, yn ei ddull cyfrwys.

Y gwir ironig amdani yw mai eu pregethau print--a'r mwyafrif ohonynt, onid pob un, yn bregethau' a bregethwyd' mewn rhyw ddull neu'i gilydd'--yw eu cynnyrch cyhoeddedig mwyafanwreiddiol.

A derbyn mai'r asiant cynhyrchu, yn y pendraw, a ddylai gael penderfynu rhwng cyflogi neu gomisiynu er mwyn cyflawni gwaith, y mae angen rhai canllawiau pellach i egluro'r disgwyliadau o safbwynt cyflogi, yn arbennig yn y tymor byr wrth symud drosodd at ddull newydd o ariannu projectau.

Meddyliwch am ddull o gyflwyno eich syniadau.

Dyna ddull rhai fel Lindsay Davenport ac Anna Kournikova beth bynnag.

Nid bod unrhyw amheuaeth ynglyn â Phrotestaniaeth Meyrick a Young ond yr oedd eu dull o feddwl yn bur wahanol i ddull meddwl dyn fel Ferrar a raddiodd mewn diwinyddiaeth.