Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dduwioldeb

dduwioldeb

Nid rhyw fath o sadistiaeth obsciwrantaidd oedd yn ysgogi'r hen frodyr ond ymwybod digon realistig a'r posibilrwydd y gellid camgymryd disgleirdeb meddwl am dduwioldeb calon.

Yn y spectrwm cenedlgarol yr oedd hefyd y math o dduwioldeb hiraethus a ddyheai am ymwared i'r bobl Iddewig ond a ymddiriedai nid mewn unrhyw fraich o gnawd ond, gan ddilyn Eseia a phroffwydi eraill, yn nerth ysbrydol yr Arglwydd.

Gan fod yr aelodaeth yn galw gweinidog atynt, yr oedd modd iddynt wneud eu dewis ar sail profion o dduwioldeb a amlygwyd ym mywyd y pregethwr.

Mae'n fwy na phosibl fod geiriad y salmau hyfryd hyn o dan ddylanwad cenadwri Iesu ei hun ond i fesur y maent yn adlewyrchu mudiad o dduwioldeb gwlatgar wedi ei liwio gan ddyhead y proffwydi gynt am gyfiawnder.

Enillodd y rhain fri mawr, am ddysg yn ogystal ag am dduwioldeb, pan sefydlwyd hwy yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Mae Bayly'n adnabyddus am ei gyfraniad at y bywyd ysbrydol yn ei lyfr Yr Ymarfer o Dduwioldeb.

Nid oes dim yn y pethau hyn yn feithrinfa a magwraeth i dduwioldeb a bywyd sanctaidd.

Mae'r portread yn gwneud tegwch, fel y dylai, ag arbenigrwydd ei waith fel pregethwr a gweinidog ac fe'i gwna'n amlwg iawn ein bod yn delio â dyn o dduwioldeb dwfn a didwyll.