Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddw+ad

ddw+ad

Y Sbaenwyr oedd yr Ewropeaid cyntaf i ddwad i wybod am siocled ac yr oedd o'n drît oedd yn toddi yng nghega rheini ymhell cyn i neb arall gael eu dwylo arno fo.

Boed y ddrama'n dda neu'n sal,mae'n rhaid i'r cyrtan ddwad i lawr ar y diwedd, ac mae rhai a fu ar lwyfan hanes yn siwr o fod wedi rhoi mwy o'r byw mewn bywyd na llawer arall.

"Wn i ddim fasa chi'n licio peth," meddai, "fasa fo'n wahaniaeth yn y byd gen i ddwad â dau." "Ardderchog, Mrs Roberts," meddwn innau'n ddigon awchus.

Gwasgodd Cadi fraich Huw, "Diolch i chi, Huw, am ddwad â ni yma." Rhoddodd Huw ei ben i lawr yn swil a gwrido, ond gwenodd yn hapus.

Roedd Ifor yn dal i ddisgw'l iddo fo ddwad yn ei ôl ers misoedd!

Ei gyrru'n gynddeiriog a wnâi trwy rincian am ei wreiddiau a'i ddyletswydd o a hithau i wrthsefyll pobl ddwad yn mynnu eu hawliau a chodi eu lleisiau hyd yr arfordir.

Ond 'does dim rheswm i fod o'n dal mor ddrwg o hyd; disgwyl i bethau ddwad yn well mae dyn." "Wir, ddaw o ddim," meddai Ann Ifans, gyda'r ysbryd trychinebol hwnnw sy'n nodweddu pobl lawen.

dacia, i be' oedd eisio i ti ddwad i'r lle 'ma 'rioed?

'I be ar y ddaear oedd arnat ti isio gwisgo sgidia fel 'na i ddwad i le fel yma?' gofynnodd Merêd yn dechrau colli amynedd.

Dyna ichwi ddeg ohonynt rwan heb denant na theulu, a mwy eto i ddwad wrth gwrs.

Ydi ynta'n 'i chyfri hi'n anrhydedd i ddwad aton' ni?" Pam, o pam y mae'n rhaid i mi siarad mor watwarus?

Dydi rhai o'r hen bobl ddwad yma'n hidio ffeuen amdanon ni bobl y pentref...'

Mae arna'i ofn y cenllysg mawr sy'n bygwth o'r mynydd, dwi'n siŵr ei fod o am ddwad ar fy ngwarthaf mewn dau funud i 'ngholbio fi'n ddu las ac wedyn fy nghladdu fi yng nghanol yr eira, felly plîs Morys, gofyn iddi eto gawn ni fynd i'r tŷ.

Yn disgwyl i Hywyn arall ddwad o'r Ddinas a byw hefo fo ar yr wyneb unwaith eto.'

Fe arbedwyd Sinema'r Coliseum, hanner canllath oddi wrtho, ddwy flynedd yn ôl am fod y brodorion a'r bobol ddwad, fel ei gilydd, o'r farn ei fod yn achos gwerth ei achub.

Waeth iti ddwad hefo mi ddim.'

'Wyt ti am ddwad i chwarae'r peiriannau hap ar ôl cinio?'

Plîs gawn ni ddwad i wrando ar stori?'

Gan Catrin Owan y cawn frechdan wrth ddwad adra o Ysgol Llanrhuddlad, cyn wynebu'r tair milltir trwy'r caeau am Frynteg lle'r oeddem yn byw.A dyna fyddai Catrin Owan yn ei ddweud wrtha'i bob dydd, 'Tasat ti yma ddoe mi fasat wedi cael jam arni!'.

Wel rŵan, i mi ga'l deud wrthach chi ble i ddwad.

ac os ceith o ddwad i mewn, a geith Ifan y Glaw ddwad hefo fo?

Rhyw ddrama fach roedd Glyn a finna wedi'i pharatoi oedd honna rhag ofn i Ffransis ddwad ar ein gwartha.