Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddwbl

ddwbl

Ar ei gais, tynnais fy nghrys, plygu'n ddwbl dros ymyl y soffa, ac aros felly yn fy nghwman i ddisgwyl y nodwydd.

Mae yna safon ddwbl ym mater yr iaith y mae plant yn cael eu haddysg trwyddi.

Yr oedd gofalu bod y cylchgrawn yn cyflawni'r swyddogaeth ddwbl yma'n hollbwysig i'r golygydd, canys gwyddai ef o brofiad am gymaint a ddymunai gadw ei fudiad hereticaidd yn fud, a'i dewi am byth, os yn bosibl.

Yn ail adran y gwaith ar Ddirywiad Ystad y Goron nodir mai afradlonedd Henry Vll a chostau rhyfeloedd yn erbyn yr Alban a Ffrainc a fu'n gyfrifol am y gostyngiad ac er i'r mab, Henry Vlll,godi £1,000,000 drwy werthu tiroedd yr abatai costiodd y rhyfel rhwng Ffrainc a Sbaen ddwbl hynny gan achosi cryn ostyngiad yn yr ystad.

Câi'r Ymofynnydd fantais ddwbl o'r ffaith fod y golygydd yn ŵr cyhoeddus ac yn gymeriad cenedlaethol.

Ymhen tridiau câi drafferth i lusgo'i gorff ar hyd llwybr yr ardd, gan ei fod yn ei ddau ddwbl erbyn hynny.

Cefais fy nghyhuddo unwaith o 'ddwgyd' yr enw oddi wrth y baswr lleol adnabyddus Jac Pennar Williams, ond gellid dadlau fod gennyf ddwbl hawl y cantor hynod hwnnw, hynod ei ddawn a'i lais - er ei fod, gyda llaw, yn gerddorol anllythrennog.

(Gellir defnyddio ffordd sydyn yn hytrach na chlicio botwm sydd â ffram ddwbl arno, fel y botwm OK hwn, sef trwy bwyso RETURN ar yr allweddell) Fe ddylech gael ffenestr fel hyn:

Druan bach, nid yw ei adenydd ffansi ond megis rhai gwybed bach wrth ymyl rhai eryr dau-ddwbl yr estate agent pan fo'n disgrifio fferm sydd ganddo i'w gwerthu.