Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddwfn

ddwfn

Gall rhywfaint o'r dŵr drylifo yn ddwfn dan ddaear i wely'r graig.

A bellach yr oedd Prydain Fawr yn gwthio'i llaw 'yn ddwfn i'w llogell aur' er mwyn gwneud

Roedd y ddau gynhyrchiad hwn wedi eu gwreiddio'n ddwfn yng Nghymru a'i gwerthoedd.

Rhaid bod ein gwreiddiau yn ddwfn iawn.

Does dim eisio cloddio'n rhy ddwfn i'w darganfod.

"Dyma ichi dair cangen o hen dderwen fawr, a'i gwreiddiau'n ddwfn yn naear Cymru," a thynnodd y lle i lawr.

Denir y gloynnod gan eu lliw a'u harogl ysgafn a gwthiant eu tafodau hirion yn ddwfn i'r neithdar yn yr ysbardun hirgul.

Y mae ein cydymdeimlad a'i briod Pam a Bethan y ferch, Mrs Landeg Williams ei fam, a Jennifer Alexander ei chwaer, a'i theulu yn ddwfn ac yn ddidwyll.

Udodd yn ddwfn yn eu gwddw wrth iddi ymlusgo at y milwyr yn eu lloches.

Anadlodd yn ddwfn wrth fynd trwy'r drws a theimlo'r heli'n pigo'i ysgyfaint.

Mae'r helflaidd yn syrthio â'th saeth yn ddwfn yn ei ystlys.

Bu'n swyddog ym Myddin yr India ac yno fe ddrachtiodd yn ddwfn o ffynnon imperialaeth.

Nid trio dweud ni'n well na rhywun arall a bod gennym ni ryw neges ddwfn ydym ni.

Fe'i bwriadwyd ar gyfer barddoniaeth, nid 'masnachaeth'; 'sidanwisg' ydoedd 'a roddwyd/Am feddyliau'r nef i ni'; mamiaith ydoedd a'i gwreiddiau'n ddwfn yn serch cartrefi Cymru:

Wedi cyfarchiad neu ddau, safodd wrth ben y bwrdd, ei ddwylo'n ddwfn ym mhocedi'i gôt fawr, ei draed ar led a'i gorff yn siglo o'r naill ochr i'r llall.

Gellir gweld ogof Lloches Lewsyn yn y graig lefn sy'n codi'n serth o'r dþr ar ochr ddwyreiniol Llyn Cerrig Llwydion Isaf ond rhaid cymryd gofal wrth fynd ati gan mor ddwfn ac iasoer yw'r dþr yn y fan honno.

Fe arwain at galon wedi caledu, a chydwybod wedi ei glwyfo'n ddwfn.

Anadlodd yn ddwfn.

"Cymer arnat o leiaf dy fod di'n mwynhau dy hun, er mwyn popeth", sibrydai wrtho yn biwis, a sylweddoli'n sydyn fod amarch Lowri Vaughan wedi treiddio'n ddwfn i'w gwneud hi mor ddi-hwyl.

Er bod y Bwrdd Cynulleidfaol a'i fys yn o ddwfn ym mrwes yr Academi Annibynnol, yn wahanol i'r Bwrdd Presbyteraidd, nid oedd yn gyfrifol am benodi Saeson.

Ynteu a yw'r clwy llenydda wedi bachu mor ddwfn fel bo raid rhuthro'r pin at y papur ar amrant megis, ac ymlwybro o'r gwely i wneud hynny?

Gallai'r tyddynnwr o Slaf ymdeimlo â natur byw a bod yr un mor ddwfn â rhyw Voltaire soffistigedig.

Neidiodd y rhyfelwyr ar ei chefn gan dorri ei chnawd â chledd a chyllell, gyrru eu gwaywffyn yn ddwfn iddi a hyrddio cerrig at ei phen.

"A'r bobl yn llwgu," ochneidiodd Jean Marcel yn ddwfn.

Anadlai'n ddwfn mewn ofn.

Y mae'r dadleuon ysgrythyrol a ddefnyddiai yn datgelu'n glir mor ddwfn oedd ei wybodaeth Feiblaidd.

Yr oedd yn ŵr manwl, fel y dywedais, ac ni allai oddef harum scarum o broffeswr; ond gan nad beth a fyddai colledion a diffygion dyn, os credai Abel ei fod yn onest, cydymdeimlai'n ddwfn ag ef.

Roedd hi'n hawdd dychmygu mai fel hyn yr oedd dathliadau'r Sofietiaid; mae arferion yn treiddio'n ddwfn.

Mae Tai Eryri wedi tyfu o'r gymuned gyda'i gwreiddiau yn ddwfn yn yr ardal ac mae'n sensitif i nodweddion a hinsawdd yr ardal ac yn gallu ymateb i'w hangen.

Aeth ymadroddi tebyg i ac yn y blaen, yn ddwfn i'r ymwybyddiaeth, a bu rhaid i mi eu carthu allan trwy gynorth Ratz a'r athro Saesneg yn Ysgol Uwchradd, Aberaeron sef WE Jones a hanai o Went ac a oedd, fel minnau, wedi gorfod yn ei dro ymlafnio i'w waredu ei hun rhag y math ymadroddi a ystyriem yn llediaith.

Yn syml.' Eisteddodd McClure ar ymyl y ddesg gan ochneidio'n ddwfn.

ardal sy'n ddwfn ei chynhysgedd cynefinol...

Tynnodd Del eu hoglau'n ddwfn i'w hysgyfaint.

Cariad pob Comi a Nash yr ochr 'ma i Glawdd Offa, boed e'n ddyn neu'n ddynes.' Gwthiodd Dilwyn ei ddwylo'n ddwfn i'w bocedi a chymryd anadl ddofn cyn troi i wynebu Gary Jones.

'Gwthiodd Iestyn ei ddwylo yn ddwfn i boced ei gôt ac aeth ias fach o gryndod trwyddo.

Dyna ein gosod ni yn dwt yn ein safle cymdeithasol priodol, ebe Meg wrthi'i hun, gan blannu'r digwyddiad yn ddwfn yn ei chôf.

Y mae ein dyled ni'r Cymry'n ddwfn i'r bobl a'r mudiadau a frwydrodd yn ddiymarbed dros y blynyddoedd i sicrhau na châi'r cyfrwng cyfathrebu pwerus a dylanwadol hwn foddi ein hiaith a'n diwylliant a'n traddodiadau cenedlaethol.

Ymladdodd Vera am ei hanadl, ei dynnu mewn yn ddwfn a'i lyncu'n awchus er mwyn ei chadw'i hun rhag llewygu.

Anadlodd yn ddwfn cyn codi'r ffôn a siarad eto.

Dyma Jini yn mynd yn ddwfn i boced ei sgert ac yn tynnu allan lyfr bach, bach - y llyfr lleiaf a welais i erioed.