Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddwyrain

ddwyrain

Y ceir hynny o ddwyrain Ewrop a oedd yn gwneud i berchenogion Skoda deimlo'n swanc.

Ond er prinned yw'r cyfeiriadau uchod, ac er nad oedd llawer iawn o gysylltiad rhwng y rhanbarthau hyn a'r taleithiau eraill yn y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ar ddeg, eto, pan gododd Casnodyn ym Morgannwg yn y ganrif ddilynol, gwelir yn ei waith holl nodweddion canu cymhleth y Gogynfeirdd, ffaith sy'n awgrymu fod traddodiad barddol cyffelyb wedi ffynnu yn y de-ddwyrain yn ogystal yn y canrifoedd blaenorol.

Wynebwch y blwch tua'r gogledd neu'r de ddwyrain fel nad yw yn llygad yr haul nac yn wynebu tywydd gwlyb.

Cafodd y beirdd hyn gyfle hefyd i gymdeithasu â phrydyddion eraill yng nghymoedd de-ddwyrain Cymru, a hwy oedd y cyntaf i feistroli'r cynganeddion a mesurau cerdd dafod.

A deallaf mai di-ongl yw meidroldeb: yn begwn gogledd a de, myfi yw'r newyddian sy'n croesi'r ynys i'th ddwyrain.

Aeth yr awyren hebddo ac wedi ail-bacio'i fagiau roedd ar ei ffordd i dde-ddwyrain Twrci.

Cydsyniais yn eiddgar, gan weld cyfle i grisialu fy syniadau fy hun am fanteision ac anfanteision uno dwy ran y wlad, ac i fynegi sut rydw i - fel brodor o'r hyn a arferai fod yn Ddwyrain yr Almaen - yn teimlo erbyn hyn.

Gosodwyd y cerrig sylfaen gan Master Lloyd Mainwaring, Bwlchybeudy, a Mr ET John, aelod seneddol tros Ddwyrain Dinbych, a oedd hefyd yn Gymro gwladgarol, ac yn siarad yr iaith.

Anelu tua'r de-ddwyrain dros gefnen greigiog Blaen Rhestr i'r hen ffordd las a throi i'r chwith heibio Carn Ricet i gyrraedd yn ôl i'r car.

Rhan o'r deffroad hwn oedd y Cymdeithasau Taleithiol; ond rhan arall, fwy arwyddocaol o bosibl, oedd y cymdeithasau Cymreigyddol a gododd fel grawn unnos trwy'r wlad yn ystod yr ugeiniau a'r tridegau, ac yn enwedig yn y cymunedau diwydiannol newydd yn ne-ddwyrain Cymru, a oedd yr adeg honno bron yn uniaith Gymraeg.

Gyda channoedd o gefnogwyr ymosododd ar drefi yng ngogledd ddwyrain Cymru a'u llosgi.

Byddai'n rhaid i ni hedfan i Istanbul, wedyn i Diyarbakir yn ne-ddwyrain y wlad, cyn teithio i'r ffin mewn ceir.

Dewiswyd 25 o unawdwyr ar gyfer cystadeleuaeth eleni, cystadleuaeth sydd yn cynnwys gynrychiolaeth gref o ddwyrain Ewrop - o Belarus, Bulgaria, Croatia, Georgia, Latvia, Macedonia, Gwlad Pwyl, Romania, Russia, Slovakia a'r Iwcrain.

Maen nhw'n ymfalchi%o yn y ffaith nad o'r Sanscrit y daeth eu hiaith nhw; mae tafod y Casiaid yn perthyn yn agos iawn i eiddo'r Khmer yn ne-ddwyrain Asia.

Bu'r pwyllgorau rhanbarth yn weithredol ym Morgannwg Ganol, De Morgannwg a De-ddwyrain Dyfed / Gorllewin Morgannwg, gan gydlynu gweithgareddau'r canghennau lleol.

Yr oedd golwg lewyrchus ar Lundain a'r canolbarth a siroedd de-ddwyrain Lloegr tra oedd y drefedigaeth Gymreig yn llusgo byw dan amrywiaeth o enwau a'i galwai yn bopeth ond yn famwlad cenedl.

Yn drydydd, cynhaliwyd cynhadledd undydd yn Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru yn Wrecsam ar 8 Mawrth 1996.

Neithiwr clywsom gantores ysgubol o Ddwyrain Ewrop.

Y drwg ydi wrth gwrs bod cyn lleied o swyddi yn y maes yng Nghymru; yn ne ddwyrain Lloegr y mae'r rheini.

Bwrw 'mlaen i'r gogledd-ddwyrain dros Drum Nantygorlan i gyrraedd Nantyrhestr a dilyn honno i'w blaen.

Doedd dim modd dadansoddi'n gwbl oeraidd yn erbyn cefndir fel yna; roedd tynged y ddwy wlad, beth bynnag, i raddau helaeth yn cael ei benderfynu fil o gilometrau i'r de-ddwyrain, ym Moscow.

Boncath Pentref yng ngogledd ddwyrain yr hen Sir Benfro yw Boncath.

Er enghraifft, gall lluniau sy'n dangos datblygiadau yng nghynlluniau amaethyddol De-Ddwyrain Asia gael eu dangos mewn rhaglenni a chynyrchiadau cwbl wahanol i'r ni wreiddiol.

Phillips, Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru Cyflwyniad Carwn yn gyntaf ddiolch i'r Gymdeithas am roi'r anrhydedd i mi drwy fod yn Llywydd Anrhydeddus am eleni.

Yn ne ddwyrain Cymru y cafodd y ffydd newydd fwyaf o afael ar y dechrau, ac oddi yno y daeth rhai o'r cenhadon (y seintiau) cyntaf.

Dadleuai rhai, megis yn arbennig D. J. Davies, Pantybeiliau, fod y Blaid yn gwario gormod o'i hadnoddau ar yr ardaloedd Cymraeg gan esgeuluso'r rhanbarthau poblog Seisnigedig yn y De-ddwyrain.

Credir bod rhannau o ddwyrain Affrica, lle bo AIDS yn endemig, hynny yw, yn bresennol yn gyffredinol a chyson yn y boblogaeth, ond o bosibl heb ddangos ei effeithiau llawn ar y boblogaeth honno.

Fodd bynnag, mae unrhyw rai sy'n cyrraedd o Ddwyrain Ewrop ac sy'n gallu profi eu bod o dras Almaenig - ni waeth pa mor bell yn ôl - yn cael eu derbyn yn ddinasyddion llawn yn gwbl ddidrafferth.

"Efallai y bydd rhai pobol yn dweud, 'os dyna safon iaith ysgolion Cymraeg y De-ddwyrain, byddai'n well hebddyn nhw'." Iddo ef, nid bratiaith yw'r gymysgedd o Gymraeg a Saesneg sy'n cael ei siarad gan bobol ifanc y deffroad iaith, gyda'u cam dreiglo a'u brawddegau 'anghywir'; iddo ef, mae hi'n dafodiaith ynddi ei hun, yn iaith yr oedd actorion amlwg fel Richard Lynch neu Jâms Thomas yn ei siarad pan oedden nhw'n iau.

Peiriannydd sifil o bentref ger Kirkuk yng ngogledd-ddwyrain Iraq oedd Azad Khder, a fu'n cerdded am bythefnos cyn cyrraedd Piranshahr.

Wedyn daeth Vladimir Moroz, baritôn o Belarus - un arall o'r cystadleuwyr safonol iawn sydd wedi dod o Ddwyrain Ewrop i gystadleuaeth eleni.

Pwy wyr nad yw'r nofel fawr a'r gerdd f`awr am y glowr Cymraeg nid i godi o faes glo tymhestlog y De, ond o faes glo llai trystfawr y gogledd-ddwyrain.

Ychydig filltiroedd i'r gogledd-ddwyrain o Vilnius, medden nhw, y mae canol daearyddol Ewrop; er bod gorwelion y llygad yr un peth, mae gwybodaeth fel yna yn newid ffrâm y meddwl.

Yng ngogledd-ddwyrain yr ynys y ceir y dystiolaeth amlycaf o'r Chwyldro Diwydiannol ym Môn.

Yn yr eglwysi drachefn y gwelid y rhan fwyaf o ddigon o gerfluniaeth y cyfnod, yn ddelwau o Grist a Mair a'r saint, yn feddfeini urddasol (yn enwedig yn y Gogledd-Ddwyrain) ac yn groglenni coed rhyfeddol o gywrain.

Brwydro ar strydoedd Llundain wrth i ffasgwyr ymosod ar bobl o ddwyrain y ddinas.

Aeth â ni am ychydig o filltiroedd trwy goedwig dew nes inni ddod at wastadedd eang ynghanol y jyngl; yno safai Anghor Wat yn ei holl ogoniant wedi'i amgylchynu â llyn; yn y dþr gwelem ychen gwyllt yn nofio'n urddasol fel y gwelem ychen lawer gwaith o'r blaen yng ngwledydd De Ddwyrain Asia yn nofio yn unrhyw ddwr y caent afael arno.

Diddorol yw nodi fod cyfartaledd uwch o staff colegau'r Annibynwyr yn Aberhonddu a'r Bala wedi'u haddysgu yng Nghymru'n unig ac na chafodd unrhyw athro gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ei addysg yng Nghymru'n unig mwy na staff colegau'r Bedyddwyr yn y De ddwyrain.

Byddai arfer mynaich y de-ddwyrain o dreulio amser yn Lloegr yn esbonio pa mor rhwydd y daw Kent, yn hytrach na Chaint, i feddwl ein hawdur, er iddo ddefnyddio'r ffurfiau Cymraeg Henffordd a Rhydychen.

Ar sail ei pherfformiad ysgytwol hi a Brenciu o Romania, mae'n bosib mai o Ddwyrain Ewrop y daw cantorion mwyaf cofiadwy cystadleuaeth eleni.