Dim ond rhyw bluen felen neu ddwy a fyddai ar ôl ohoni pan ddychwelai ein rhieni o Gaerdydd.
Wrth agor yr iet, a throedio trwy'r stecs sy ym mhob adwy, maen clo ar waith y dydd oedd canfod ymysg olion mynd a dod ôl olaf y fuwch ddi-ras na ddychwelai mwy.
Pan ddychwelai Dafydd Dafis a minnau o'r fynwent, dychmygwn glywed fy hen feistr yn dweud wrthym, ``Thanciw, Rhys thanciw, Dafydd Dafis; gwnaethoch yn dda,'' a Dafydd a minnau megis yn cydateb, ``Yr hyn a ddylasem yn unig a wnaethom i ti''.
Eisiau neu beidio, fe fyddai raid iddi wrando air am air ar yr hyn a ddigwyddodd yno pan ddychwelai ei thaid.