Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddyfal

ddyfal

Rhaid gweithio yn ddyfal eto i sefydlu dulliau mwy effeithiol o ddylanwadu ar y broses gynllunio.

Ym mis Rhagfyr 1999 gwelwyd un o dditectifs enwocaf Prydain Fawr, ynghyd â'i gynorthwyydd (byr, ond tra effeithiol) y tu allan i adeilad y Cynulliad yn chwilio'n ddyfal am Ms Butler.

Ar ôl bwyta dyma ddychwelyd at y car i ail-gydio yn y siwrnai adref, ond pan ddaethant at y lle y gadawsant y car, nid oedd yno, ac ar ôl chwilio yn ddyfal trwy'r maes parcio a thrwy'r dref, nid oedd lliw nag arlliw o'r car yn unman.

Bu Ffrainc yn ddyfal iawn yn canfod tywysogion fyddai'n rhoi eu cefnogaeth i Bab newydd Avignon.

Enghraifft yw Rowlands o'r modd yr oedd y Derwyddon yn cydio yn nychymyg hynafiaethwyr yr oes, wrth iddo chwilio'n ddyfal yn ei fro am y meini hirion, y cromlechau a'r carneddau y gellid eu cysylltu a hwy.

Yn sicr, bydd Dennis John yn chwilio'n ddyfal am flaenwyr i Benybont ar gyfer y tymor nesaf.

Llafuriodd yswain Gwedir yn ddyfal ac yn hir ar hanes ei dylwyth a bu'n chwilota am wybodaeth ddogfennol.

Holi'n ddyfal ar hyd a lled yr ardal anniben, debygwn i, ond dim hanes am neb eisiau saer.

Fe fydd raid wrth ddyfal donc þ tonciau trwm a thonciau aml þ cyn y torrir ystyfnigrwydd a difrawder y drefn lywodraethol sydd ohoni y dyddiau hyn.