Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddyfodiaid

ddyfodiaid

Nid porthmona merched roedd y newydd-ddyfodiaid hyn, merched gwyn neu ddu i foddio shechiaid Arabia, fel yn yr hen ddyddiau cyn i'r shechiaid fagu cyfoeth o'r olew.

Yn ystod y flwyddyn, tynnwyd sylw'r Swyddfa Gymreig yn gyson at bwysigrwydd y cynlluniau sydd gan yr awdurdodau i gynnal gwasanaeth athrawon bro a sefydlu canolfannau i hwyr-ddyfodiaid er mwyn goresgyn anawsterau sy'n codi o brinder athrawon a mewnlifiad disgyblion di-Gymraeg i ardaloedd Cymraeg.

Yn ogystal sefydlwyd canolfannau iaith ar gyfer cymathu'r hwyr-ddyfodiaid ac y mae'n fwriad i sefydlu rhagor ohonynt yn y dyfodol.

Yr ail elfen yw cyfraniad y mewnfudwyr a'r newydd- ddyfodiaid a ddaeth i'r cylch yn sgîl diwydiannu'r ardal, gwŷr megis Gomer ab Tegid a D.

Symudol yw'r boblogaeth nawr, ac er fod y newydd-ddyfodiaid, yn Gymry a Saeson, yn fwy amharchus o'r Sabath na'r oes o'r blaen, eto y maent hwythau yn parchu cymdogaeth dda ac y mae'r ddisgyblaeth gymdeithasol yn para yn ei grym.

Heblaw unigolion a theuluoedd fe ddaeth newydd-ddyfodiaid eraill i'n mysg yn ail chwarter y ganrif hon, sef y mudiadau newydd fel Sefydliad y Merched a Chlybiau'r Ffermwyr Ifainc, Cymdeithas y Capel, Dosbarth Allanol y Coleg a llawer o weithgareddau eraill a alluogodd y plwyf i ennill y lle blaenaf mewn cystadleuaeth sirol ar weithgarwch ardal wledig.

Yn ystod fy ieuenctid trigai oddeutu deg ar hugain o deuluoedd ym mhentref Cefn Brith, y cyfan bron a'u gwreiddiau yn yr ardal ar wahân i ddyfodiaid a ddaeth yno o ganlyniad i briodas.

Ymgynnull i wrando ar yr Adjutant yn traddodi araith o groeso i'r newydd-ddyfodiaid.

Dadleuir mai'r hwyr-ddyfodiaid, plant di- Gymraeg sy'n cyrraedd yr ysgolion yn saith oed ac yn hŷn, yw'r garfan sy'n achosi'r trafferthion.

Yn y sefyllfa bresennol gellir yn fras ddisgrifio lefel ieithyddol plant mewn pum categori: a) hwyr-ddyfodiaid; b) dysgwyr; c) dysgwyr da; ch) safon estynedig yn y Gymraeg; d) mamiaith.