Adlewyrchiad o'r haul rywfodd ar y dwr a hwnnw'n creu goleuni ar ol i chi ddygymod a'r lle.
Mi ddysgais i ddygymod â'r peth dros amser.
Ymhyfrydai ym mhob llwyddiant a chlod ac ni allai ddygymod â methiant.
A wyddoch chi, byddaf yn meddwl ei bod yn anodd iawn i unrhyw wraig ddygymod â gweld ei gūr allan o waith.
Rhaid iti ddygymod â hynny.
Y mae rhywun yn dod i ddygymod yn fuan iawn a'r ffaith fod pob un yn meddwl ei fod yn cymryd rhan mewn rali ond cymerodd ychydig mwy o amser imi sylweddoli mai osgoi rhyw dwll neu bant yn y ffordd y mae y gyrrwr o'ch blaen wrth gymryd tro cwbl annisgwyl a dirybudd ar ffordd agored.
O fewn y wlad gaeedig hon daeth y bechgyn i ddygymod â byw garw yr heliwr a'r Pen Cynydd gan ddysgu campau gwyr llys ac ymaflyd codwm.
A mwyaf a feddyliwn am hyn, mwyaf oll a dosturiwn wrthyf fy hun, ac amharotaf oeddwn i ddygymod â'r drefn.
Ond ni allai Harri ddygymod â'r meddwl o wrthod gwahoddiad ei feistr tir.
Sut y gallant ddygymod ag amgylchiadau sy'n ei gwneud hi'n angenrheidiol i'w llenorion eu lladd eu hunain?
Gan fod y reddf i chwilio am deth mor gryf mewn anifail sugno, ceir cryn drafferth weithiau i gael llo i ddygymod ag yfed o'r bwced.
Ond gall y cofio hwnnw fod yn achos cryn dristwch yn ogystal, gan nad yw'n hawdd i ddyn ddygymod â'r newidiadau sydd wedi digwydd mewn sawl cyfeiriad erbyn hyn.
Diolch, ddyweda i, fod sefydliadau cyfandir Ewrop wedi hen hen ddygymod â chymunedau sy'n siarad mwy nag un iaith, a hefyd cyn hyn, droeon, wedi cyhoeddi dyfarniadau yn erbyn y Sefydliad yn Llundain.