Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddyledus

ddyledus

gweithred o drosedd yw pob rhyfel, gan gynnwys rhyfel amddiffynnol, a phan eir i ryfel, meddai, ystyriwch hyn am funud : yn ôl pa safon neu wrth pa fesur yr ydych am reoli eich dialedd fel na fydd yn gallu bod yn fwy na'r union daliad sy'n ddyledus ichwi am yr hasliau a dreisiwyd neu'r anrhydedd a sarhawyd ?

Mae peth o'r clod yn ddyledus i Blas y Cilgwyn ei hun, sef y plas yn Adpar, Castellnewydd Emlyn, ergyd carreg o'r wasg argraffu gyntaf yng Nghymru.

Roedd Pwal wedi dod i Fodwigiad i dalu'r ail ran o'r arian oedd yn ddyledus am y buchod a brynasai yr hydref cynt.

Yr oedd yr Wyddgrug yn ddyledus am ei llwyddiant i'r chwyldro diwydiannol a chyfoeth mwynol y gymdogaeth.

Yn anffodus, er na fedrir gwadu na allai Dafydd ap Gwilym fod yn ddyledus i gorff o farddoniaeth werinaidd, nid yw'r fath gorff wedi ei gadw, tra cedwir corff o ganu cyfandirol yn ieithoedd Profens, Gogledd Ffrainc, yr Almaen, etc., sy'n cyfeirio at un ffynhonnell bosibl i'r dylanwadau a fu'n gweithio ar y bardd Cymraeg.

Pwrpas y rhan hon o'n llith ydyw dangos fod cytundeb rhwng ysgolheigion ynglŷn â dyled uniongyrchol neu anuniongyrchol Dafydd ap Gwilym i'r Trwbadwriaid (neu'r Trwferiaid) cyn i T Gwynn Jones sôn am ddyled y Gogynfeirdd iddynt, a bod rhai o'r ysgolheigion, megis W J Gruffydd a Lewis Jones, yn awgrymu mai trwy ddyled ei flaenorwyr yn y traddodiad llenyddol Cymraeg i'r Trwbadwriaid yr oedd Dafydd yn ddyledus.

'Roedd Tyndale yn hyddysg yn ieithoedd gwreiddiol y Beibl, ond mae'n amlwg fod ei fersiwn o'r Testament Newydd yn ddyledus i fersiwn Erasmus a'i fod yn gyffredinol yn drwm dan ddylanwad fersiwn Luther.

Credai L Chr Stern fod beirdd Cymru yn y ddeuddegfed ganrfi a'r drydedd ar ddeg yn gwybod am y farddoniaeth a oedd yn ei bri yn Ffrainc, a'u bod wedi dod dan ei dylanwad; a pharthed Dafydd ap Gwilym, efallai nad oedd yn uniongyrchol ddyledus iddynt, ond am ei ddyled anuniongyrchol nid oedd dim amheuaeth.

Roedd Derby'n ddyledus iawn i'w capten Dominic Cork am sgorio 83 heb fod mâs gan sicrhau buddugoliaeth i'w dîm gyda phedair pelawd yn weddill.

Y mae'n rhaid i chi ar bob adeg gydymffurfio a chyd- weithredu â'r drefn ddiogelwch berthnasol i'ch swydd, ac i roi ystyriaeth ddyledus i ddiogelwch eich cyd-weithwyr.

Os, drwy'r cyfryw salwch neu anallu, nad yw'r Artist yn gallu cwblhau ei waith gall y Cynhyrchydd derfynu Cytundeb Gwaith yr Artist drwy dalu i'r Artist yr holl daliadau sy'n ddyledus hyd at ddyddiad y salwch neu anallu.

'Rydym yn ddyledus i Charles Darwin am lawer o'n gwybodaeth o ddulliau peillio'r tegeiriannau.