Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddylem

ddylem

Efallai na ddylem fod yn gofyn a ddylai rhosyn y Tywysog Bach gael ei fwyta.

Dyna enghreifftiau yn yr oes 'oleuedig' hon o rai pethau na ddylem eu gwneud oherwydd eu bod, meddir, yn anlwcus, er nad ydym yn rhyw siwr iawn pam.

Tybed a ddylem ni fel cynulleidfa beidio â dibynnu gormod ar ragfarnau pobl eraill a mynd i'r theatr i weld ac i farnu drosom ein hunain?

Apeliodd ar bawb i beidio ag yngan gair am y peth, ac yr oedd sail ei apêl yn un o'r datganiadau mwyaf annoeth a glywswn yn fy myw, sef na ddylem mewn unrhyw ffordd sôn am y daith nac am nifer y dynion oedd yn yr uned rhag ennyn drwgdybiaeth y Rwsiaid a pheri iddynt gredu ein bod yn danfon nifer luosog o filwyr i Rwmania.

Proses a dderbyniem fel cwrs bywyd ymhen y blynyddoedd, ond nid nawr, ddim ym misoedd cyntaf ein cariad pan ddylem ddal i fod yn llawn o'r rhyfeddod hwnnw a lanwodd y dyddiau oddi ar i ni gwrdd.

Does bosib na ddylem ni fod yn poeni mwy am bethau felly nag am blannu maip yn San Steffan.

Felly ni ddylem am funud roi'r argraff i neb ein bod y tu hwnt i fethu.

Ni ddylem adael i wrthwynebwyr dwyieithrwydd gael monopoli ar ddehongliad y geirynnau yma.

Fe ddylem atgoffa ein hunain am hyn a gyflawnwyd mor ddiweddar drwy gemotherapi a brechiadau.

Ni ddylem anghofio bod rhesymau ar y pryd dros fod yn ochelgar.

Er bod y math o wybodaeth yr oedd Gradgrind yn ei geisio wedi troi'n ddihareb am ddiffyg dychymyg, ni ddylem anghofio'r rhesymau pam yr oedd y Fictoriaid yn mynd ar ôl ffeithiau, nac am y tro da a wnaed â'u disgynyddion trwy eu casglu.

Ond wrth i ni bwyso a mesur, ni ddylem ni ddangos unrhyw ddiffyg cydymdeimlad.

Pan fu esgob Llandaf yn ei holi, flynyddoedd cyn hyn, am fod ei waith yn tramgwyddo rheolau'r eglwys, dywedodd Wroth wrtho, "Mae eneidiau'n mynd i uffern, f'Arglwydd, yn eu pechodau; oni ddylem ymdrechu ym mhob modd posibl i achub eneidiau?" Ac yn ei lyfr, Glad Tydings, rhoes Cradoc fynegiant eithriadol ddeniadol i'r genadwri Gristionogol, mynegiant sy'n rhoi awgrym inni o'r ysbryd a oedd yn ysgogi'r gweithgarwch o dan Ddeddf y Taenu.