Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddynes

ddynes

'Esgusodwch fi, Mister Arlywydd,' meddai un arall o'r cynorthwywyr dan ei anadl, 'ond Mrs Thatcher yw'r ddynes hon, ac nid Mrs Gandhi.' Fe wn i hynny'n iawn,' meddai Brezhnev yn ddiamynedd, 'ond Croeso i'r Undeb Sofietaidd, Mrs Gandhi yw'r geiriau sy wedi eu sgrifennu ar y darn papur yma o'm blaen i.' Mae'r stori yn ddameg berffaith o'r hyn y mae'r bobl yn ei farnu a aeth o'i le yn hanes yr Undeb Sofietaidd.

A doedd y ddynes sy'n llnau'r lle ddim yn cofio'i gweld hi, chwaith." Bu tawelwch rhyngddyn nhw am eiliad cyn i Mam siarad eto.

'Allech chi ddim meddwl am ddwy ddynes mor wahanol i'w gilydd.

Syfrdanwyd y gyrrwr unwaith eto, gan fod y ddynes hon yn siŵr o fod dros ei saithdeg mlwydd oed, a'r ferch ifanc yn y llun heb fod yn hþn nag un ar bymtheg!

Bellach mae Kath yn ddynes fusnes lled-barchus.

Bwriwyd yn ei erbyn gan globen o ddynes ar ei ffordd i'r neuadd ddawnsio o'r stafell fwyta, lle bu hi'n amlwg yn rhy hir gyda'r gwin.

Neu ddynes mewn achosion eithriadol ac anamal.

Ei gas beth a fyddai cael ei erlid o'i dŷ ei hun, 'run fath a Dafydd Gruffudd, gan ryw geilioges o ddynes yn cwyno ei fod o dan ei thraed hi o fore gwyn tan nos.

Yr oedd yno un ddynes hefyd, ffermwr o Henllan.

Yna, byddwn yn ei gwylio yn cerdded ar hyd y briffordd am ryw hanner munud gan wybod ei bod o fewn canllath i'r ddynes lolipop a fyddain ei thywys yn ddiogel i'r ysgol.

Ond yr oedd rhywbeth yn anghysurus iawn gweld fod dwy ddynes yn Sir Fôn wedi cysegru eu bywyd i redeg ar ôl cathod er mwyn eu dal nhw i'w sbaddu - neu gweirio fel byddan nhw'n dweud ar yr ynys honno.

Toc dyna'r dyn ieuanc yn rhoi gwawch uchel: 'Diolch, etc.' Ac ymhen ychydig neidiodd y ddynes ieuanc i fyny gan weiddi a churo ei dwylo a chicio'r sêt, nes daeth rhywrai i fynd â'r ddau aflonyddwr allan i ddod atynt eu hunain.

Daeth tro ar fyd y ddynes sgrap yn 1993 wrth iddi hi a Glan gymryd yr awenau yn y Deri.

Eithr heno, wrth syllu i fyw llygad y fenyw-ddweud- ffortiwn hon ni chanfyddai Wil ddim oll namyn hen ddynes dlawd a diymadferth yn ceisio crafu ychydig o sylltau at ei gilydd drwy adrodd chwedlau ystrydebol a threuliedig wrth hen ferched anymwthgar ac wrth wŷr gweddw go deimladwy.

"Mae'n ddrwg gen i'ch styrbio chi, ond - " "Sorry, I don't speak Welsh," meddai'r ddynes.

Roedd hi'n gawres yn ymyl ei gŵr, yn ddynes gref, bum troedfedd a naw o daldra, yn llydan ei chorff ac o asgwrn cryf.

Cipiwyd un ddynes 78 oed o'i chartref i'r ddalfa, ac fe gafodd ei rhyddhau heb gyhuddiad yn fuan wedyn.

Dywedodd wrthyf fod rhywun wedi rhoi ar wybod iddynt, hynny yw, i Mrs Thatcher, mai fi oedd y person allai roi gwybod iddi a oedd dyn neu ddynes trin gwallt weddol ddibynadwy yn Llandudno.

Dilynodd yntau, ond yn lle cerdded ymlaen, trodd y ddynes o'r llwybr ac i mewn i un o gytiau moch y Goetra.

Cariad pob Comi a Nash yr ochr 'ma i Glawdd Offa, boed e'n ddyn neu'n ddynes.' Gwthiodd Dilwyn ei ddwylo'n ddwfn i'w bocedi a chymryd anadl ddofn cyn troi i wynebu Gary Jones.

Eisteddai'r hen ddynes yn syth fel gard yn ei gwely gan hoelio'i llygaid arna i, Os oedd hi'n marw, nid heno y digwyddai hynny, doedd dim sicrach.

Unrhyw un cofia; hen neu ifanc, dyn neu ddynes, ac mi fyddwn ni eisiau praw dy fod ti wedi gneud hynny.' Ciliodd Jaco yn ôl i'r cysgodion a daeth Mop i sefyll o'i flaen gan ysgwyd ei holl gorff yn synhwyrus.

A dyna'r dyn ieuanc yn ymestyn tros gwr y sêt lle roedd Hugh Evans ac yn gofyn yn lled ddistaw i'r ddynes ieuanc: 'Wyt ti am weiddi heno?' Troes hithau tan wenu, ac ateb: 'Ydwyf, os wyt ti am wneud.' Daeth y pregethwr i mewn, dechreuodd bregethu.

taswn i wedi galw'r ddirgel ddynes yn joanna southcott dyweder, fe fyddai yna adleisiau ond nid cymaint i'r cymry, hwyrach.