Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddynol

ddynol

Yr hyn nad yw byth yn absennol yw ymwybyddiaeth o arwahanrwydd cenedlaethol Cymdeithas, cymundod ddynol, yw cenedl.

Yr oedd yn ddyn reit agos i'w le mae'n debyg ond yn ei athrawiaeth cymerai olwg ry arwynebol a gobeithiol o'r natur ddynol.

Honnir ar siaced lwch Y Gaeaf Sydd Unig Marion Eames, er enghraifft - nofel sy'n trafod cyfnod Llywelyn Ein Llyw Olaf : Er bod cymdeithas wedi newid yn ddybryd ers yr amser hynny, mae'r nofel yn dangos nad oes terfynau amser ar ymateb y natur ddynol i broblemau oesol cariad, cenfigen, dyletswyddau a marwolaeth.

Iddo ef, yr oedd natur yr Iesu yn ranedig - yn ddyn ac yn Dduw - a rhaid oedd gwahaniaethu'n ofalus rhwng y ddau er mwyn osgoi pechod eilunaddoliaeth a ddilynai o ganlyniad i addoli yr hyn oedd yn ddynol yn ei natur.

Ochr yn ochr â hynny dechreuwyd ymwrthod â'r ddysgeidiaeth glasurol Gristionogol am effeithiau trychinebus pechod ar y bersonoliaeth ddynol.

Nid oedd ganddo fawr o ddiddordeb mewn un bersonoliaeth ddynol, heblaw wrth gwrs am Rachel gynt, a hynny ond am un cyfnod byr.

Gwelodd y cŵn beth a ddigwyddodd a gweithredu ar unwaith, fel pe baen nhw'n ddynol.

Gwelir pechod fel gwyriad yn yr ewyllys ddynol.

A phroblem i mi yw dychmygu pa fodd y gallant ysgwario eu cred a hanes y byd; ac am hynny hefyd yr ydwyf yn credu bod pob ymgais i addysgu'r bobl yn gam pwysig ar y briffordd sy'n arwain at iechydwriaeth yr hil ddynol.

Nofel antur sinistr yn astudio nodweddion mwyaf eithafol y natur ddynol.

Erbyn iddo gyfansoddi Meini Gwagedd, ac yntau yn ei weithiau diweddarach wedi pwysleisio gallu'r ewyllys ddynol, roedd wedi dechrau gweld mai hanfod bywyd yw'r ffordd y mae'r elfennau gwahanol wedi'u cyd-wau ynddo.

Gorfodwyd Prydain i sylweddoli gyda thristwch ei bod yn gwrthwynebu dynion a feddiannwyd gan ysbryd drwg, a chywilyddiwyd dynolryw o feddwl ei bod yn bosibl diraddio'r natur ddynol i'r fath raddau gan greulondeb, twyll a brad, a gweithredoedd anfad y

Mewn gair, yr oedd gyda'r perffeithiaf o blant dynion, a golyga hynny lawer iawn pan feddylir am amrywiaeth y natur ddynol, a phob peth y mae'r corff a'r meddwl a'r ysbryd yn sefyll drosto.

Nid oes, ac ni bu erioed, greadur dynol a fagwyd yn llwyr y tu faes i gymdeithas ddynol.

Syniai Saussure am iaith fel chwarae gwyddbwyll, lle y bo i'r darnau eu gwerth a'u swyddogaeth a lle y bo'n rhaid eu symud yn ôl rheolau arbennig; bod dwy wedd ar astudio iaith, sef y wedd syncronig, disgrifiad o gyfansoddiad iaith, ei sieniau, ei geiriau a'i gramadeg mewn cyfnod arbennig, a'r wedd ddeiacronig, y cyfnewidiadau sy'n digwydd i iaith dros gyfnod o amser; a bod rhai gwahaniaethau rhwng Langage, gallu cynhenid yr hil ddynol i gyfathrebu trwy gyfrwng arwyddion llafar confensiynol, la langue, y system ieithyddol fel y mae'n bod yn meddwl pawb sy'n defnyddio'r iaith, a la parole, arferion llafar ac ysgrifenedig y siaradwyr, yr unig wedd y gellir ei hastudio.

Fe ellid dweud fod hon yn agwedd radical tuag at realiti pechod, ei weld fel rhywbeth cynhenid yn y natur ddynol.

Mae ail fileniwm y cyfnod ers Crist yn tynnu at ei deryfn a'r hil ddynol, mae'n ymddangos, yn anterth ei wallgofrwydd.

Fe geir y teimlad mai'r amcan yw arddangos tebygrwydd y gorffennol i heddiw, er gwaetha'r gwahaniaethau arwyenbol, a hynny yn y pen draw er mwyn cyfleu'r syniad mai'r un yn ei hanfod yw'r natur ddynol ymhob cyfnod.

Y mae pechod yn ddrwg dyfnach na dim ond rhyw wyriad yn yr ewyllys ddynol.

Cynrychiolydd yr hil ddynol a'i dirprwy oedd Crist yn ôl syniadaeth Paul, a fu'n ufudd hyd angau'r groes a thrwy hynny gymodi dyn â Duw.

Doedd yr un weithred fudr gan aelodau'r hil ddynol yn ei synnu ef bellach.

Ac i Williams yr hyn sy'n cyfareddu pobl yw nid yn gymaint egwyddorion Iesu Grist, nid ei weithredoedd ym Mhalesteina gynt, nid hyd yn oed hawddgarwch ei bersonoliaeth ddynol.

Roedd canlyniad yr ymdrech mor amlwg - symud bwyd o gefn hofrennydd i'r blaen a'i basio trwy gadwyn ddynol i storfa'r gwersyll.

Cerddai ar hyd math o gulffordd wastad, ddinodwedd, o wlad gynefin ei lencyndod a phrofedigaethau'r wythnosau diwethaf tuag at diriogaeth ddynol a oedd bron tu hwnt i'w ddirnadaeth a'i ddychymyg.

Un o'r greddfau cryfaf yn y natur ddynol, yn ôl William McDougal yn yr hen glasur Social Psychology yw ofn, a byddai Pantycelyn a llu mawr iawn yn dweud Amen.

Ofn yr anwybod, ofn y duwiau - yr hyn a alwai'r Groegwyr gynt deisidaimonia; yr hen ofn hwnnw a fu'n llechu yn y galon ddynol erioed ac a fydd eto, bid siwr: ofn newyn, tlodi a dioddefaint; ofn poen, afiechyd a marwolaeth.

"O Iesu mawr," gwichiodd Morfudd, gan ddychmygu'r esgid fawr ddynol yn ymddangos unrhyw eiliad drwy bren y drws ac yn ei thrywanu rhwng ei choesau.

Ar waethaf y datblygiadau syfrdanol ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg, yr un yw'r natur ddynol o hyd ac mae'r gred fod anlwc a ffawd yn rheoli ein bywydau yn dal mor gryf ag erioed.

O dipyn i beth gorseddwyd yr argyhoeddiad deublyg fod Natur yn gyfundrefn fecanyddol yn gweithio yn ôl ei deddfau mewnol ei hunan a bod y bersonoliaeth ddynol, trwy ymarfer ei gallu i ddadansoddi ac ymresymu, yn gallu olrhain ac esbonio'r deddfau hynny a'u defnyddio i reoli byd Natur.

Trafod y natur ddynol a blerwch bywyd a wna'r ddrama.

Dysgwn am y natur ddynol mewn straeon eraill hefyd.

Yn yr un modd cyfoethogir y gymdeithas ddynol gan genhedloedd amrywiol.

Beth am y bersonoliaeth ddynol ei hun?

Duw a wyr, Mair, fe wnest ti gymaint drosti ag oedd yn ddynol bosibl - mwy na hynny bron, 'nghariad i." "Ond doeddwn i ddim yno pan oedd arni fy ngwir angen i..." "Os oedd hi wedi penderfynu erbyn hynny, yna doedd mo d'angen di na neb arall arni pan ddaeth yr amser.

Ond yr oedd John wedi gwrthod temtasiynaua deng mlynedd a deugain i beidio â bod yn ddynol.

Teimlwn fy mod wedi colli fy nghyfaill gwerthfawrocaf, a hynny ar adeg pryd yr oedd fy nyfodol, a siarad yn ddynol, yn dibynnu ymron yn gwbl arno.

Gwir fod D J yn rhoi o helaethrwydd ei gydymdeimlad a'i hoffter o'r natur ddynol ym mhob cyflwr, a Lingen yn dadansoddi'n oer heb flewyn ar ei dafod.