Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddyrys

ddyrys

Gollwng hwy, iddynt fynd i'r wlad a'r pentrefi o amgylch i brynu tipyn o fwyd iddynt eu hunain.' Atebodd yntau hwy, 'Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.' Meddent wrtho, 'A ydym i fynd i brynu gwerth ugain punt o fara a'i roi iddynt i'w fwyta?' Yr Arglwydd Iesu, yn ôl adroddiad Ioan, a gymerodd y cam cyntaf yn y sefyllfa ddyrys trwy ofyn i Philip: 'Lle y gallwn brynu bara i'r rhain gael bwyta?' Amcangyfrifodd Philip, y Swyddog Bwyd, debyg, ymhlith y deuddeg, y byddai eisiau o leiaf werth ugain punt o fara i roddi tamaid i bob un.

Yna gofynnais i un neu ddau arall sut beth oedd y cytundeb, a oedd yn un hir neu'n ddyrys i'w ddarllen.

Weithiau, mewn sefyllfa ddyrys, mae'n well gwneud hynny na cheisio pontifficeiddio.

Byddain fagddu ar rywun o droi at Tywyll Heno am gysur ar awr go ddyrys yn ei fywyd.

Mae'r ansicrwydd ynglyn â dyfodol Clwb Pêl-droed Abertawe mor ddyrys ag erioed, ar y cae chwarae ac yn y stafell bwyllgor.

Fe gafodd ei freuddwyd ddyrys neithiwr, a bu ar ddihun yn hir yn gofidio am Alan a Shirley a Beti ac, yn y diwedd, am Marged.

On'd dydi hi'n ddyrys, dywedwch?

Mae'n debyg y bydd y darllenydd lleyg - o safbwynt seiciatreg - yn cael rhannau o'r gwaith yn ddyrys ac weithiau'n anghredadwy; yn enwedig felly, hwyrach, pan fo seiciatryddion yn ymarfer eu credoau ynglŷn â gwadu ac amwysedd sy'n golygu y gellir maentumio mai'r gwrthgyferbyniol a amlygir neu a arddangosir gan yr hyn sydd fel pe bai'n gwrth- ddweud eu damcaniaethau.

Fe all y sefyllfa ieithyddol yn yr ysgolion hyn fod yn ddyrys gan achosi nifer o anawsterau.

Fe ddichon nad 'ailddwyfoli' yw'r gair mwyaf priodol i ddisgrifio'r dehongliad newydd ac amwys a gynigir yn y ddau bennill a ddyfynnwyd: erys Iesu'n ddyn, eithr dyn â photensial ynddo i 'hawlio rhyddid enaid o'r cnawd a'i ddyrys wead', i godi uwchlaw 'caethiwed drom' ystyriaethau bydol.