Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddysgeidiaeth

ddysgeidiaeth

Yma mae ganddo ddysgeidiaeth, ac fe all apelio at eiriau yr Arglwydd Iesu i'w gefnogi - "nid myfi chwaith ond yr Arglwydd".

Felly fe gawn bobl eisiau mabwysiadu egwyddorion Iesu Grist neu gymhwyso ei ddysgeidiaeth at broblemau cyfoes yn y gobaith y gwnaiff hynny eu datrys.

Ochr yn ochr â hynny dechreuwyd ymwrthod â'r ddysgeidiaeth glasurol Gristionogol am effeithiau trychinebus pechod ar y bersonoliaeth ddynol.

Oakley, Cymrawd o Goleg Balliol, a Rheithor Eglwys Margaret Street yn Llundain, y gyntaf o eglwysi'r brifddinas i roi lle amlwg i'r ddysgeidiaeth Dractaraidd.

Cynnar iawn, wrth gwrs, yw'r gerdd (neu'r ddwy gerdd) yn Llyfr Du Caerfyrddin, ond yr unig ffeithiau pendant yno yw ei bod yn cyfeirio at hanes am Drystan a March (sef yr elfen fwyaf sylfaenol yn yr hanes), a hanes arall am 'ddial Cyheig' - cymeriad na wyddys fawr ddim amdano, ac na ddaw ar gyfyl hanes Trystan mewn unman arall." Yn ôl y ddysgeidiaeth hon, felly, y mae'n rhan o swyddogaeth y llywodraeth i ddefnyddio'r gyllid lywodraethol i reoli galw cyfanredol yn yr economi er mwyn sicrhau lefel cynnyrch gwladol sy'n cyfateb i gyflogaeth lawn.

Roedd y ddysgeidiaeth honno'n sen ar yr Ysgol Sul, ar ddyn, ac ar Dduw.

Y mae a wnelo llawer o ddysgeidiaeth Crist â chreu cymdogaeth dda lle y mae cariad rhwng cymdogion.

Mewn dychryn mawr, gwrandawodd pob un o'r dawnswyr ar ddysgeidiaeth y sant, ac er mwyn eu cadw'n Gristnogion, torrodd Samson lun croes ar y garreg.

Er gwaethaf pob ymosodiad a phob gwrthglerigiaeth, fodd bynnag, prin yr amheuid dim ar ddysgeidiaeth yr Eglwys yn gyffredinol.

I'r gwrthwyneb, mynnai'r ddysgeidiaeth swyddogol fod gwerth sacramentaidd arbennig mewn gwrando'r gair heb o anghenraid ei ddeall.

Ni olygai hyn eu bod bob amser yn wrthwynebol neu yn feirniadol o ddysgeidiaeth yr Eglwys.