Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddywedir

ddywedir

Caiff eu noddwr ei foli ganddynt yn y dull traddodiadol, fel y gellid disgwyl, ac y mae'r hyn a ddywedir ganddynt am ei groeso brwd a'i ddiwylliant yn arbennig o werthfawr o safbwynt astudio'r traddodiad nawdd.

Felly, beth bynnag a ddywedir i'r gwrthwyneb, y mae'n cyfrannu i'r diwylliant Saesneg, gan haeddu cerydd ei gyd-Gymry o'r herwydd.

Ni thybir ei fod yn uniongyrchol berthnasol i bwnc yr ysgrif hon, gan nad yr un o angenrheidrwydd yw'r hyn a ddywedir yn yr Hen Destament am y syniad o genedl â'r hyn a ddywedir am y syniad o Israel.

Heb arboeni am 'gywirdeb' a 'heresi' yr athrawiaethau mewn dialog (neu, yn achos Llyfr y Tri Aderyn, trialog) a llythyr a cherdd, y mae'n gymaint haws astudio nid yn unig yr hyn a ddywedir ond hefyd yr awen honno a gais yr hyn sydd y tu cefn a'r tu hwnt i'r cyfryw athrawiaethau, gan adnabod a gwerthfawrogi eto ac eto ac eto ymdrech y dychymyg dynol i herio ein maith maith anwybod.

Gwelir oddi wrth yr hyn a ddywedir droeon am bobl Dduw yn llyfr Deuteronomium fel y mae'r syniad hwn yn tanlinellu arbenigrwydd cenedl Israel:

Ted Huws, yr Ardd yw'r awdur, ac yn y cyflwyniad i'r llyfryn, dyma a ddywedir - "Ymroes Ted o ddifri i'r ymchwil ar ei destun.

Tra adnabyddus yw'r hyn a ddywedir yn y Pedair Cainc am Wydion a Lleu yn mynd tua Chaer Aranrhod yn rhith beirdd o Forgannwg.

Ym mrwydr Baddon fe ddywedir iddo ef ei hun ladd naw cant a thri ugain o filwyr y gelyn.

Oherwydd nid ar gred y mae eich pwyslais, ond ar gredo; nid ar deimladau a meddyliau personol ond ar fformiwla amhersonol; nid, os mynnwch, ar yr hyn a genfydd dyn ond ar yr hyn a ddywedir wrtho gan ei eglwys.

Dyna fy safle i yn hollol glir; safle sy'n codi fe ddywedir efallai, o om.

Am yr un rheswm ychydig a ddywedir yn yr efengylau am Selotiaeth ac am broblemau arbennig Palestina, a'r canlyniad yw fod y gair 'Galilea', yn enwedig, wedi mynd i awgrymu i laweroedd wlad o lonyddwch eidulig.

Anaml y mae'r fath beth yn digwydd ac fe ddywedir gan 'wyr y wasg' bod hynny'n arwydd o fodlonrwydd ac mai dim ond pan geir gwrthwynebiad ac anghytundeb y daw ymateb i bapur newydd gan mwyaf.

"Dychymmygion penboeth a gorwyllt" oeddynt yn nhyb golygydd yr Haul, "rhuthriadau esgeler", "cableddau didor a ddywedir yn erbyn urddas".

Y gwahaniaeth hollbwysig rhwng cyseptau fel hyn a rhai yr astroffisegwyr yw bod yr hyn a ddywedir ganddynt hwy yn ffeithiau ac nid yn ddyfaliadau neu ddychmygion awenyddol, barddonol.