Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddywedwn

ddywedwn

Yr oedd milgi yn arwydd o ryw ddileit mewn chwaraeyddiaeth, bron na ddywedwn mewn hapchwaraeyddiaeth.

Bron na ddywedwn fod undonedd gwastatiroedd yn groes i natur y Celt a hynny am ei fod o bosib wedi etifeddu tueddiadau sy'n medru ei godi'n sydyn i'r entrychion, a bod undonedd yn lladd ei ysbryd.

Dyma chwi gemegydd, fe ddywedwn ni, yn astudio rhyw wedd ar gemeg y dderwen ym mhen draw'r ardd.

Bu adeg pan reolwyd ein llenyddiaeth gan bregethwyr - yn awr disgwylir i bob aelod o staff adrannau Cymraeg y Brifysgol fod yn llenor, bron na ddywedwn bawb sydd wedi graddio yn y Gymraeg.

Fe ddywedwn bellach y dylai dyletswyddau'r naill fwydo gofynion y llall.

Ddywedwn ni fod 'y frwydr' drosodd.

Mi ddywedwn i mai go brin y mae unrhyw reswm i beidio â bwyta pryd fel hyn o dro i dro ond peidio â'i wneud yn arferiad dyddiol a pheidio â bwyta gormod ar y tro.

Yr ydyn ni i gyd wedi gwneud pethau gwirion pan yn ifanc ond yn wahanol i Mr Hague yn sylweddoli gorau po leiaf ddywedwn amdanyn nhw wedi inni gallio rhywfaint.

'Bron na ddywedwn ei fod yn dyheu am gael marw'n ifanc.

Fe ddywedwn i fod pedair ysgyfarnog yn pori mwy nag un ddafad.

Wrth gytuno'n llwyr â hynny, fe ddywedwn innau y bydd y broblem hon yn un o'r pynciau pwysicaf a fydd yn wynebu Huw Jones wrth iddo gamu i'w swydd newydd.

Dim gormod o gyfartaledd rhwng y ddwy iaith yn y fan honno, ddywedwn i.