Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deallusol

deallusol

I ymgyrraedd at hyn, dadleuai, dylai fod gan bawb ran ym mywyd y genedl - y bywyd ysbrydol, deallusol ac economaidd.

* bod y cwricwlwm yn cyfrannu at holl dwf a datblygiad pob plentyn, yn hyrwyddo eu datblygiad deallusol, emosiynol, cymdeithasol, corfforol a diwylliannol.

Mae siarad ag Eryl Ellis am eiwaith yn sicr yn cynnig cipolwg ar fyd artistig, deallusol cynhyrchu theatr; cawn yr argraff ei fod ar fin ehangu ar y theori%au dwfn, abstract, a syniadau a iaith gymhleth, aruchel yr athronwyr celfyddydol.

Wedi fy arswydo gan dlodi difenwol fy mhobl sy'n byw mewn gwlad gyfoethog; wedi fy nhrallodi gan y modd y cawsant eu hymylu yn wleidyddol a'u mygu yn economaidd; wedi fy nghynddeiriogi oherwydd y difrod wnaed i'w tir, eu hetifeddiaeth gain; yn pryderu tros eu hawl i fyw ac i fywyd gweddus, ac yn benderfynol o weld cyflwyno trefn deg a democrataidd drwy'r wlad yn gyfan, un fydd yn amddiffyn pawb a phob grwp ethnig gan roi i bob un ohonom hawl ddilys i fywyd gwâr, cysegrais fy adnoddau deallusol a materol, fy mywyd, i achos yr wyf yn credu'n angerddol ynddo, ac ni fynnaf gael fy nychryn na'm blacmêlio rhag cadw at yr argyhoeddiad hwn.

Y patrwm crefyddol hwn oedd cyfrwng artistig Cymraeg y ganrif ddiwethaf, yn ogystal a'i sail yn foesol a deallusol.

Sef o ryw fan deallusol lle nad oes odid neb yn colli cwsg ynghylch iawn amseriad y Farn Fawr nac yn debyg o lindagu ei gystedlydd os nad yw'n cytuno gant y cant ag ef ynglŷn â natur y Drindod ac arwyddocâd symbolaidd y planedau; ond man, serch hynny, lle cydymdeimlir ag amcanion yr ysgrifennwr crefyddol fel ag amcanion pob llenor.

Nid ar gyfer y cyffredin diddeall megis myfi yr ysgrifennai SL, ond ar gyfer cylch dethol a deallusol bychan iawn.

Diolch i sgript ardderchog Jonathan Myerson ac animeiddwyr talentog yng Nghaerdydd, Llundain a Mosgo, rydyn ni wedi creu ffilm sydd nid yn unig yn llawn cywirdeb deallusol a safonau artistig uchel, ond sydd hefyd yn hwyl.

Gwelir effeithiau hyn yn eglur yn ei drafodaethau ar y pynciau diwinyddol a oedd yn ganolog i fywyd deallusol ei oes.

Ond ar ôl hynny, gostyngodd yr angerdd a chafwyd pregethu mwy rhyddieithol, mwy deallusol, llai teimladol.

Fodd bynnag, yr oedd dau beth a amlygai eu hunain yn fwyaf arbennig - yn enwedig yn y portread o Annigoni - ceinder ac artistri y gwaith ffilmio a sylwedd a dyfnder deallusol y sylwebaeth.