Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

debygwn

debygwn

Go brin, debygwn i, y byddai ysbeilwyr o'r Alban a'r Almaen wedi cyrraedd mor bell â Maes Garmon, a hynny mor fuan ar ôl i'r Rhufeiniaid adael.

Campus ar dywydd fel heddiw, debygwn i.

Nefoedd i blanhigion yw gwarchodfa fel hon, a nefoedd ar y ddaear i bob naturiaethwr, debygwn i.

Holi'n ddyfal ar hyd a lled yr ardal anniben, debygwn i, ond dim hanes am neb eisiau saer.

Parhad ydi hon, debygwn i, o bregeth debyg rai blynyddoedd yn ôl gan Arglwydd y Bwrdd Iaith ein bod ni'r Cymry bellach wedi 'troi cornel'. Difyr oedd sylwi mor barod oedd eraill megis Prys Edwards i amenio hyn, gan gytuno fod protestio a 'ballu yn hen ffasiwn, ac mai'r cyfan oedd rhaid ei wneud bellach oedd gwenu'n glên a 'hyrwyddo'. Roedd dyddiau dod ben ben â'r Sefydliad drosodd.