Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dechreuais

dechreuais

Yn raddol dechreuais synhwyro amdani fel person, nid fel ffatri storiau.

Cyn gynted ag y dechreuais siarad llanwyd neuadd y Cyngor â storom o stŵr o dan arweiniad ffyrnig yr enwog Mrs Bessie Braddock, AS a ddigwyddai eistedd yn union o'm blaen.

Ac ar ôl teithio ychydig, fe darawodd fy mhen glin yn erbyn carreg finiog, a dechreuais waedu'n ddrwg.

Dyna pryd y dechreuais ama' bodolaeth Santa Clôs...

Byddai Eisteddfod yn cael ei chynnal yn y capel bob blwyddyn yn y gwanwyn ac yno y dechreuais gystadlu.

Daeth Margaret Thatcher ataf ac fe'm cyflwynwyd a dechreuais siarad â hi.

Dechreuais daflu lein ar draws ac i lawr.

Dechreuais fy ngyrfa pan osodwyd yr haul yn ei le, a'r bydoedd ar eu llwybrau o'i amgylch, pan wahanwyd golau ddydd oddi wrth dywyllwch nos, a phan drefnwyd a tymhorau i ddilyn yn eu tro.

Yn wir, 'roeddwn yn y coleg diwinyddol yn Llandaf cyn magu digon o ddiddordeb i fynd i wrando ar Fritz Kreisler a oedd yn ymweld a Chaerdydd ar y pryd; ac nid tan fy nyddiau yn gurad yn Y Waun, Sir Ddinbych, y dechreuais wrando o ddifrif ar symffoniau a phedwarawdau Beethoven, Mozart a Schubert.

Rwan dechreuais feddwl: "Beth sydd yn hon ys gwn i?

Dechreuais ymesgusodu eto - ond ymlaen yr aeth Emli, fel llanw'r mor ymhlith cestyll tywod y plant ar y traeth.

Dechreuais arni'n eiddgar i hel pentyrrau ohonynt ynghyd; yr oeddwn yn barod i wario rhai ugeiniau o bunnau yno.

Dechreuais boeni wedyn sut i ddod oddiarni ar ddiwedd y daith gan fy mod i'n gweld y sgis ar fy nhraed fel llyffethair.

Felly, a bod yn onest nid o gariad at yr iaith y dechreuais i ddysgu, ond o reidrwydd mewn ffordd, rhyw deimlad o fod yn Gymro yn gallu siarad a phobl.

"Edrychwch ar ei ôl o'n ofalus nes cyrhaeddwn ni'r gwersyll newydd." "Reit, syr." Ond wedi meddwl am y peth dechreuais deimlo braidd yn flin fod y Capten mor hunanol, a phan ddaeth y lori heibio i lwytho'n taclau, a minnau'n helpu gyda'r gwaith, dechreuais ddyfalu sut y gallwn i ei ffidlan hi i gadw fy ngwely.

Nos Wener, wrth i ni baratoi i adael Iran, dechreuais anesmwytho.

Gan mai 'cariadon' oedd y gair pwysicaf yn fy ngeirfa erbyn hyn, dechreuais feddwl tybed a fu ganddi gariad erioed.

Yna dechreuais weiddi ac hyd yn oed sgrechian, ond yr hyn a weithiau fel brec arnynt oedd llond ceg o Gymraeg na fuaswn yn ei defnyddio'n gyhoeddus adre!

Dechreuais ei brocio i ddweud ei stori'n uchel.

Dechreuais deimlo'n falch i mi fentro allan.

Yn ddeg ar hugain y dechreuais i ddysgu'r Gymraeg o ddifrif.