Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deddfau

deddfau

b) fod cyfeiriadau at statws Saesneg fel iaith swyddogol yn neddfwriaeth Ewrop, ac chyfeiriadau at ddefnydd swyddogol o'r Saesneg mewn deddfau a chonfensiynau eraill, e.e. yn San Steffan ni chaniateir defnyddio unrhyw iaith heblaw Saesneg.

Nid yw'r deddfau eu hunain yn newid ymddygiad dros nos ond maent yn sail i adeiladu polisïau eraill arnynt.

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Cynllunio, mewn ymgynghoriad â Chyfreithiwr y Cyngor a Chadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, i roddi rhybuddion gorfodaeth dan y deddfau cynllunio ynglŷn ag unrhyw ddatblygiad marchnad awyr agored (ar y Sul neu unrhyw ddiwrnod arall) ac i erlyn mewn unrhyw achos yn codi o'r rhybuddion hynny.

Mae llywodraethau yn gyson yn newid hen ddeddfau a phasio rhai newydd yn eu lle -- deddfau sydd yn fwy addas ar gyfer yr oes.

Rhoddodd wybodaeth drylwyr am y deddfau sy'n ymdrin ag addysg grefyddol, ac am y sefyllfa yng Ngwynedd.

Beth bynnag arall oedd ym meddyliau'r seneddwyr wrth basio deddfau o'r fath, y mae'n amlwg eu bod am ysbeilio'r Gymraeg a'r Wyddeleg o unrhyw statws cyfreithiol ac i wrthod unrhyw le iddynt ym mywyd gwleidyddol Cymru ac Iwerddon.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyma Jerwsalem; fe'i gosodais yng nghanol y cenhedloedd, gyda gwledydd o'i hamgylch, ac y mae wedi gwrthryfela'n waeth yn erbyn fy marnau a'm deddfau na'r cenhedloedd a'r gwledydd o'i hamgylch, oherwydd y mae'r bobl wedi gwrthod fy marnau, ac nid ydynt yn dilyn fy neddfau.

Ni all deddfau Addysg Seisnig ddelio gyda'r materion hyn.

Un o'r pethau cyntaf a wna gwledydd ar ôl sefydlu seneddau newydd (fel yng Ngwlad y Basg a Catalunya) yw pasio deddfau Iaith Newydd.

'Cyfeillach,' yn arbennig ddechrau'r gerdd : Ni thycia eu deddfau a'u dur I rannu'r hen deulu am byth, Cans saetha'r goleuni pur O lygad i lygad yn syth.

Yr oedd y deddfau hynny'n rhoi'r un breiniau i bobl Cymru â phobl Loegr, ond ar yr amod eu bod yn ymwrthod â'r Gymraeg.

Mae'r agwedd meddwl a greodd y Deddfau Uno'n dal yn hynod fyw.

Maent i'w gweld mewn rheolau a deddfau, mewn blaenoriaethau, a hefyd yn ymddygiad rhai oedolion ac ieuenctid.

Os yw meddwl, teimlo ac ewyllysio i'w hesbonio, fel cylchdro'r planedau, yn ôl deddfau haearnaidd y method gwyddonol, yna ofer sôn am bersonoliaeth rydd.

Dyna oedd fy marn innau hefyd (er gwaethaf dyfarniad Bae Colwyn): nid oes sôn o gwbl yn y Deddfau Cysylltiadau Hiliol am 'iaith'.

Un o'r camau cyntaf a gymerir gan wledydd wedi iddynt ennill ymreolaeth yw pasio deddfau iaith newydd.

Nid mater o ddeddfu negyddol yw hi o hyd er mwyn creu rhwystrau, ond mae deddfau yn fodd i ymrymuso a rhyddfreinio unigolion a chymdeithas, creu amodau ffafriol ar gyfer datblygiad, a danfon neges glir a phendant ynglñn â gwerthoedd cymdeithas.

ychydig o effaith a gafodd adfer y deddfau hyn ar alltudiaeth ei hunan.

Mae deddfau yn danfon negeseuon clir ynghylch yr hyn sy'n dderbyniol o fewn cymdeithas.

Rhoddodd y llywodraeth derfyn ar weithgaredd a chyhoeddiadau sawl mudiad adain dde, ac er nad oeddent yn gweld angen creu deddfau newydd, llymach, roeddent yn addo cryfhau'r rhai a oedd yn bod eisoes.

A daeth i ddeall ymhen hir amser nad oedd deddfau prynu a gwerthu mewn ffeiriau Cymreig yn cynnwys cymaint o wirionedd, nac mor bendant, ag egwyddorion rhifyddiaeth.

O dipyn i beth gorseddwyd yr argyhoeddiad deublyg fod Natur yn gyfundrefn fecanyddol yn gweithio yn ôl ei deddfau mewnol ei hunan a bod y bersonoliaeth ddynol, trwy ymarfer ei gallu i ddadansoddi ac ymresymu, yn gallu olrhain ac esbonio'r deddfau hynny a'u defnyddio i reoli byd Natur.

Sylfaen y deddfau hyn yw cydnabod Catalaneg fel priod iaith Catalonia a rhoi statws swyddogol iddi.

Ei huchelgais oedd cynnwys popeth y tu mewn i rwydwaith achos ac effaith a deddfau haearnaidd symudiadau mecanyddol.

'Yn America heno, mae'r bobol dduon yn griddfan dan y deddfau gwahanu; ac yn Ne Affrica heno; ac yn Kenya heno; ac yn Nigeria heno.

Hefyd yn achos deddfau hawliau'r anabl, camwahaniaethu ar sail hil neu ryw, nid deddfau i'r sector cyhoeddus yn unig ydynt.

(a) Rheolaeth Datblygu o ddydd i ddydd yn gyffredinol gan gynnwys (ond nid er cyfyngu ar hawliau'r Pwyllgor mewn unrhyw fodd) ymdrin â'r rhelyw o geisiadau unigol am ganiatâd cynllunio neu dystysgrif defnydd sefydlog neu faterion o'r fath a phob gweithrediad yn deillio o'r cyfryw a hefyd pob mater ynglŷn â gorfodaeth yn codi o'r Deddfau Cynllunio ac unrhyw Is-ddeddfau a Rheoliadau a wneir dan y Deddfau hynny gan gynnwys rheolaeth ar hysbysebion, coed, adeiladau rhestredig a materion o'r fath.

Wrth gymharu rhestrau o eiriau yn yr ieithoedd hyn sylwyd ar y cyfatebiaethau seinegol rhyngddynt a lluniwyd 'deddfau seinegol', sef fformiwlâu i ddynodi'r cyfatebiaethau hyn, ac aeth corff o ysgolheigion ym Mhrifysgol Leipzig yr Junggrammatiker, 'y gramadegwyr newydd', i gredu bod y 'deddfau' hyn yn ddieithriad, bod eglurhad i bob cyfuniad ac nad damweiniol oeddynt.