Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dedfryd

dedfryd

Yn amlwg mae'r firws hwn yn un peryglus iawn a heintiad ganddo'n gyfystyr â dedfryd o farwolaeth i fwyafrif helaeth y cleifion.

Roedd yn anodd ganddo gredu i'r tri swyddog lwyddo i gyrraedd diogelwch, ac am y dynion a adawyd ar ôl, roedd yr ergyd a glwyfodd y morwr wedi diasbedain fel dedfryd angau yng nghlustiau Dai Mandri.

O ystyried y mater o safbwynt ariannol yn unig, hawdd yw anghofio difrifoldeb sylfaenol y cyhuddiad o ddwyn, beth bynnag yw'r swm penodol, ac effaith dedfryd o euogrwydd o gyhuddiad o'r fath nid yn unig ar enw da a chymeriad y diffinydd ond hefyd ar ei swydd, ei deulu a'i safle yn y gymdeithas.

Y mae pawb yn ddarostyngedig ac yn gaeth i'r ddeddf a'i dedfryd (gyda chyfeiriad yma at y ddeddf Iddewig a'i hordeiniadau, Rhuf.

Bu o flaen llys fwy nag unwaith ac ym mis Rhagfyr roedd yn barod i wynebu dedfryd o garchar.

Gwylltiai hefyd pan gyhoeddid dedfryd megis 'Marwolaeth drwy ddamwain' neu 'Marwolaeth drwy ymyrraeth Duw' ar ddiwedd cwest i farwolaeth glo%wr, ac yntau'n gwybod o'r gorau mai esgeulustod y meistri oedd yn bennaf cyfrifol am y drychineb.