Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

defnyddid

defnyddid

Fe'i defnyddid gan wrachod yn eu swynion ac felly os darganfyddid un mewn tusw o flodau Calan Mai fe'i teflid ymaith ar unwaith.Cyfeiria'r enw arall - Mantell y forwyn - at siap y blodau a'r hen arferiad o daenu mentyll ar lwyni i sychu yn y gwanwyn cyn eu cadw tan y gaeaf.

(Tarddodd y goel hon mae'n debyg yn y Dwyrain lle defnyddid ambare/ l a pharasôl gan frenhinoedd a breninesau.) Gall gweinyddesau mewn ysbyty dystio ymhellach pa mor gryf heddiw yw'r gred gan lawer iawn o bobl na ddylid cymysgu blodau coch a gwyn - mae'n arbennig o anlwcus.

Ar Nos Calan Gaeaf defnyddid cnau i weld a fyddai cariadon yn priodi ai peidio.

Yn ôl un stori, defnyddid dau ych i gludo'r cerrig o Graig y Foelallt.

Ar yr un pryd, ceid llawer o swyddi cyffredin mewn tref a phentref lle defnyddid y Gymraeg yn gyson fel cyfrwng naturiol cyfathrebu, megis mewn siop, gweithdy a swyddfa.

Gellid defnyddio pren cerddinen i wneud ffon i ddewino am fetalau ond gyda'r gollen y cysylltir dewino dwr ac fe'i defnyddid i wneud hudlath gan y Derwyddon.

Gall hon gnoi a thorri drwy styllod llidiardau, trwy lwyni mewn gwrychoedd a thrwy netin cryf yn union fel pe defnyddid siswrn pwrpasol at y gwaith.

Yn nes ymlaen defnyddid y seleri gan y ddau deulu i storio glo, ond adeg fy ngeni yr oedd deuddyn newydd briodi yn byw yn y ddwy seler.

Ynddo defnyddid gweledigaethau hynod, arwyddion a delweddau dirgel, rhifau cyfrin, a disgrifiadau nerthol i ddynodi chwerwder y frwydr rhwng y wladwriaeth a phobl Dduw; a'r sicrwydd hefyd mai gan Dduw oedd yr oruchafiaeth ac mai Iesu a gyhoeddid yn y diwedd Yn Frenin brenhinoedd ac Arglwydd arglwyddi.

Galwai yma yn aml iawn a chan fod Edward yn defnyddio'r baco main arferai weiddi lathenni cyn dod i'r golwg, "Ydi'r hen faw hen faco 'na gen ti?" Llanwai ei getyn ar unwaith a châi flychiad o fatsys i geisio ei thanio gan ddefnyddio iaith nas defnyddid yn yr un Seiat ar ôl pob methiant.

Dyma ddefnyddio'r hen fesur Cymreig i bwrpad cymdeithasol, fel y defnyddid ef gynt.

Cyn dyfeisio peiriant torri lawntiau defnyddid gwyddau i gadw tyfiant glaswellt i lawr, mae hwythau hefyd yn pori'n glos i wyneb y ddaear.