Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

defnyddwyr

defnyddwyr

Hefyd, pan mae defnyddwyr y gwasanaeth yn prosesu gwybodaeth eu hunain, maen nhw nid yn unig yn effeithio ar fywydau defnyddwyr eraill y gwasanaeth ond hefyd ar ddatblygiad y gwasanaeth ei hun.

Rhaid i wasanaeth da, sy'n anelu at yr ansawdd bywyd gorau posibl i'w defnyddwyr, roi pob anogaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth i wneud penderfyniadau yngl^yn a'u bywydau eu hunain.

Er bod gwaith allweddol yn rhan hanfodol o swyddogaeth gweithiwr gofal, gall defnyddwyr y gwasanaeth eu hunain gyflawni tasgau o'r fath.

Mae'r BSA wedi gosod safonau caeth ynglyn â lefelau 'aflatoxin' mewn cnau ar gyfer adar gwyllt, ac wedi lansio 'Sêl Cymeradwyaeth' a arddangosir ar gnau 'diogel', i sicrhau y bydd defnyddwyr yn eu hadnabod.

Gall defnyddwyr eraill y gwasanaeth rannu profiad a deallusrwydd nad yw staff o bosibl yn medru ei werthfawrogi.

Mae'r gyllideb hon yn agored i gynigion gan y grwpiau cleient/defnyddwyr, yn ogystal â'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Awdurdod Iechyd a'r sector annibynnol.

Mae'n rhaid i weithwyr gofal wneud yn siwr fod defnyddwyr y gwasanaeth yn gallu datblygu syniad clir o hunan-ymwybyddiaeth a gwerthoedd personol.

Dim ond pan wneir hynny y caiff defnyddwyr y gwasanaeth eu galluogi i fyw bywyd yn ol eu gwerthoedd personol eu hunain.

Ategu gwaith awdurdodau tai trwy ddarparu cartrefi o safon i bobl leol sydd ar incwm isel ar gost y gallant ei fforddio, boed ar rent neu ar gyfer prynwyr tro cyntaf, ynghyd ag ateb angen pobl sydd ag anghenion arbennig gan geisio gwneud hynny o fewn stoc bresennol yr ardal, yn y dull mwyaf effeithiol, efo gwasanaeth sydd yn atebol i'r defnyddwyr a'r cymunedau lleol gan rannu'r adnoddau'n deg rhwng gwlad a thref.

Cyngor Defnyddwyr Cymru yw'r corff cenedlaethol i ddefnyddwyr yng Nghymru.

Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Uned Defnyddwyr i grynhoi gwybodaeth berthnasol i'r Cynllun Gofal.

O gymharu â deddfwriaeth yn erbyn hiliaeth, gwahaniaethu ar sail rhyw neu anabledd, mae trefn gwyno Deddf yr Iaith Gymraeg wedi ei llwytho o blaid y corff cyhoeddus ac yn erbyn y defnyddwyr.

Wrth baratoi Cynllun Gofal Cymdeithasol y Cyngor Sir ceisiwyd sicrhau bod dymuniadau'r grwpiau gwirfoddol a defnyddwyr yn cael sylw.

Mae Zola hefyd yn dadlau y dylai rheolaeth cymorth, yn yr achos hwn offer technolegol, fod yn nwylo defnyddwyr offer o'r fath.

Y rhain oedd yr Uned Defnyddwyr a'r Cynllun Gofalwyr a dderbyniodd gyllid hefyd trwy Ymddiriedolaeth y PRINCES ROYAL i Ofalwyr.

Fodd bynnag, fedrwn ni ddim cael gwasanaeth da os nad yw'r defnyddwyr yn cael cyfle i ymuno mewn trafodaethau ac yn y broses o wneud penderfyniadau yn ymwneud a'r gwasanaeth ei hun.

Mae'n gweithio i gynrychioli buddiannau prynwyr a defnyddwyr domestig nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru.

Hysbysodd y swyddog eu bod yn barod i werthu'r cyfan neu ran o'r maes parcio yn amodol bod llecynnau yn cael eu cadw ar gyfer defnyddwyr y trenau.

Cofiwch, prif nod gwaith allweddol yw galluogi defnyddwyr y gwasanaeth fel y gallant gael y cyfle i ymgymryd a thasgau gwaith allweddol.

Diau fe welir datblygu grwpiau gofalwyr a defnyddwyr yn y dyfodol.

Er mwyn cyrchu at ein nodau gorgyffwrdd yn y modd mwyaf effeithiol posib, ymroddwn i weithio'n egniol tuag at greu rhwydwaith effeithiol o ddarparwyr, er lles y defnyddwyr a darpar-ddefnyddwyn.