Mi weles hefyd aberthu geifr dirifedi mewn puja i'r dduwies kali yn Shillong, a'r gwaed yn tasgu'n goch ar gnawd a dillad defosiynol gwþr a gwragedd a phlant ac aml-freichiau nadreddog y duwies ei hun.
'Roedd Pengwern yn ŵr tra defosiynol; cadwai y morning watch a pherthynai i gadwyn weddi oedd yn estyn i bellafoedd India.
Iddi hi yr oedd Y Groglith yn fwy defosiynol o lawer a byddai rhaid i ni aros bob amser pan ddeuai'n dri o'r gloch brynhawn Gwener y Groglith i geisio meddwl am Iesu Grist ar y groes rhwng y ddau leidr.
Y mae'r Beibl Cymraeg yn gyfieithiad rhagorol a cheir clasuron diwinyddol a defosiynol yn yr iaith.
Mae ei gynnyrch yn gyfartal hefyd o ran natur y gwaith a gyhoeddodd yn y ddwy iaith: ceir barddoniaeth, emynau, pregethau, ysgrifau, cofiannau, trafodaethau hanesyddol, gweithiau defosiynol, gwaith golygu, oll yn y Gymraeg a'r Saesneg.