Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

degau

degau

Yr oedd yn deyrnged haeddiannol, wrth gwrs, i weinidog Wesleaidd ac i'w statws fel Cymro a llenor ar ddiwedd y tri degau.

Chlywais i ddim gair pellach oddi wrtho, ond mae'n debyg fod degau yn gofyn am waith iddo bob dydd.

Wedi'r cyfan, fyddai hi ddim yn wleidyddol gymeradwy i America gythruddo yn ormodol Siapaneaid 2001 gydag anrhaith a ddigwyddodd ddechrau pedwar degau y ganrif ddiwethaf.

Gallai'r bachgen weld ei wyneb yn y golau gwyrdd a deflid gan y degau o ddeialau bychain.

Yr arwisgiad hwnnw, yng nghanol bonllefau'r Cymry ac ymgreinio archesgobion ac esgobion ac arweinwyr yr holl enwadau crefyddol Cymreig, oedd yr awr dduaf yn y chwe-degau.

Gwelwyd dirywiad enbyd yn y brwdfrydedd hwn yn y chwe degau am amryw resymau, nid y lleiaf ohonynt ddatblygiad y cyfryngau.

Roedd yn llawn o drysorau - breichledau o aur, canhwyllbrennau o arian, modrwyau di-ri a gemau gwerthfawr yn wincio arnynt, cwpanau arian a degau o watsys aur pur.

Ar adran honno yw'r llinyn syn rhedeg cysylltur coleg a sefydlwyd yn y cabanau ar y Waun ac a symudodd i adeiladau newydd yng Nghyncoed ddechraur chwe-degau.

Cofiaf dripiau diwedd y tri degau ac un yn arbennig pan aethpwyd i New Brighton.

Chwaraeodd Gordon Brown 30 o weithiau i'r Alban ac aeth ar dair taith gyda'r Llewod yn y saith-degau.

Roedded nhw wedi cael trafferth efo llygod y gaeaf cynt, a chawsai nythaid ohonynt wledd Nadolig flasus: degau o sanau gwlân.

Bydd degau o grwpiau a djs yn ymddangos mewn o leiaf saith canolfan gan gynnwys Dempseys, Toucan Club, Queens, Vaults , Oz Bar, Sams Bar, Jumping Jacks a Clwb Ifor.

Cefais gyfle yn y saith degau i ymweld a'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth gyda'r g^wr (OE Roberts) pan oedd ef ar fin cyhoeddi hanes bywyd y Dr John Dee.

Gosodwyd tair cystadleuaeth i gyd ac yr oedd degau o gynigion i'w gweld ar dudalennau'r Annedd o fewn ychydig ddyddiau i lansio'r Rhestr Testunau.

Fe fu'r ddau waith hyn yn gyfrwng i roi cyflogaeth i gannoedd o lowyr hyd dri-degau'r ganrif bresennol heb i lawer o ddrwg ddigwydd.

Mae degau o fân frychau'n britho'r teipysgrif.

ac i'r Royal Court yn y pum degau a'r chwe degau, yn gweithio gydag Olivier, Gielgud a mawrion y theatr Saesneg ar gyfnodau allweddol yn natblydiad y cyfrwng.

Fe fu peiriant felly yn gweithio yn y Muriau yn nechrau'r tri degau, ond am gyfnod byr y bu hynny.

Yn niwedd y pedwar-degau prynodd ffermwr Bryscyni, Capel Uchaf, Clynnog, geffyl a oedd wedi arfer gweithio yn Chwarel Dorothea, Dyffryn Nantlle, ar gyfer y cynhaeaf gwair.

Yr oedd yn grefftwr campus fel y tystia'r degau o gabanau, gelltydd a chobiau a welir yma ac acw hyd wyneb y chwarel heddiw.

Tyfodd degau o fudiadau a grwpiau bychan, oll â syniadau gwahanol ynglŷn â sut i barhau'r frwydr.

Fe ddeuair arolygwyr heibio yn flynyddol i fygwth caur lle, meddai Syd Aaron, prif-ddarlithydd addysg gorfforol yr hen goleg hyfforddi pan oeddwn i yno, ddiwedd y pum-degau a dechraur chwe-degau.

Mae'r Sefydliad wedi bod yn gweiddi ildiwch ar Gymdeithas yr Iaith yn gyson ers degau o flynyddoedd.

Ar yr un pryd, mae ysbytai ar hyd a lled Cymru'n gwario degau o filoedd o bunnoedd ar drefniadau diogelwch, o dagiau i'w clymu am goesau'r babanod i gamerâu a drysau diogelwch.

Bu dyfodiad teledu yn y pum- degau'n ddaeargryn ddiwylliannol fwy nag a ddychmygodd neb ar y dechrau.

Mae'n rhaid gen i bod degau os nad cannoedd o asynnod wrthi ynglŷn â'r gwaith hwnnw." "Neu ychydig yn llai os mai ychen oedden nhw," oedd ymateb cellweirus yr ych cryf.

Mae rhai degau o ffeiliau sy'n ymwneud â gwersyll Comin Greenham o ddiddordeb arbennig.

O gwmpas y ddinas i bob cyfeiriad mae'r corsydd mawr, a bayou ar ôl bayou wrth y degau, a rhain yn rhywbeth rhwng afon a chors.

Yn y chwe-degau, â'r Arlywydd Kennedy yn diodda anhwylder i'w gefn, trefnodd y meddyg iddo fynd i nofio'n gyson.

Wrth gerdded ar ei ôl ar hyd yr ysgol, doeddwn i'n gweld neb, ond mi wyddwn fod llygaid degau o blant arnaf, a theimlwn fy wyneb yn llosgi'n dân gan swildod.

Isaac Jones, Prifathro Coleg Madryn, drachefn, yn pwysleisio mai'r ffermwyr a ddaliodd i wrteithio ac edrych ar ôl eu tir a ddaeth allan orau o ddirwasgiad mawr y dau a'r tri degau.

Nid nepell o ysblander y farchnad y mae un o ardaloedd tlotaf y ddinas, lle mae degau o filoedd o bobl yn byw ar ben ei gilydd mewn cartrefi pridd.