Ond nid yw'r beirniaid wedi condemnio Gŵr Pen y Bryn am beidio a mynd i'r afael a'r Rhyfel Degwm fel y cyfryw.
Teimlid bod yr Eglwys (er gwaethaf eithriadau megis 'yr hen bersoniaid llengar') wedi ymbellhau oddi wrth y werin Gymraeg, ac felly bod talu degwm i gynnal y sefydliad eglwysig yn anghyfiawn.
Go brin fod Tegla chwaith wedi manteisio'n llawn ar bosibiliadau dramatig y Rhyfel Degwm.
Yr oedd brwydr Datgysylltiad yn anochel ac yn brif nod Anghydffurfiaeth a Radicaliaeth, a'r degwm yn sbardun.
Adeg Rhyfel y Degwm dyna ysgogodd erthygl olygyddol y Times, sy'n crybwyll '...'
Brwydr gymdeithasol a gwleidyddol oedd y Rhyfel Degwm, a chynigiai bwnc gwirioneddol rymus i nofelydd Cymraeg fynd i'r afael ag ef.
Treulir braidd ormod o amser ar ddechrau'r bennod hon i gyfleu ymateb diddeall y plant i'r degwm, a hynny i raddau helaeth er mwyn creu digrifwch, sydd yn tanseilio difrifwch y digwyddiadau a ddisgrifir wedyn.
Yr oedd y Rhyfel Degwm yn frwydr economaidd yn y bon, wrth gwrs, oherwydd y sbarc a gynheuodd y tan oedd y dirwasgiad amaethyddol ar ddechrau wythdegau'r ganrif ddiwethaf.
Wrth ddewis ymdrin a llipryn o brif gymeriad, clwtyn llestri o ragrithiwr a neidiodd ar wagen y Rhyfel Degwm er mwyn taflunio delwedd arwrol ohono'i hun i dwyllo cymdeithas hygoelus a ffug-barchus, yr oedd Tegla fel petai'n ensynio'n anuniongyrchol mai tan siafins oedd y frwydr wleidyddol, ac nad oedd yr holl helyntion ond rhyw ddrama ddisylwedd.
Cofiaf am rai o'r darlithoedd gwych a gaem yn achlysurol, fel darlith AOH Jarman ar Iwerddon, a darlith H.Francis Jones ar W^yr Llangwm a'r Rhyfel Degwm.
Go brin i'r terfysgoedd fod yn ddi-drais, fodd bynnag, oherwydd ai pethau'n reit boeth yn yr arwerthiannau a gynhelid ar ol atafaelu eiddor rhai a wrthodai dalu'r degwm.
Ond pam y dylai stori am y Rhyfel Degwm fod yn stori gyffrous o'r teip Saesneg poblogaidd?
Bron nad yw dwy ran y disgrifiad yn gwrthdaro yn erbyn ei gilydd, ac yn wir fe deimlir bod hollt yn y nofel ei hun rhwng cyd-destun gwleidyddol y Rhyfel Degwm a'r droedigaeth ysbrydol arallfydol sy'n ddeffroad enaid i W^r Pen y Bryn.
Er i rai helyntion godi yn y De - yn hen siroedd Penfro a Cheredigion ac yn Nyffryn Tywi, er enghraifft - gyda'r ardaloedd o gwmpas Dinbych (cartref Thomas Gee) y cysylltir y Rhyfel Degwm yn bennaf.
Rhan gymharol fechan o Gŵr Pen y Bryn sy'n ymwneud a'r Rhyfel Degwm, a hyd yn oed yn y rhan honno ni phortreedir ef mewn goleuni ffafriol.
Bu gwrthgymreigrwydd esgobion a phersoniaid yr Eglwys Wladol a'u gelyniaeth i'r Gymraeg yn rhan fawr o'r ddadl o blaid Datgysylltiad, yn rhan hefyd o ddadl y Degwm.
Tanlinellwyd y pwynt, ond mewn modd cymeradwyol, gan Ifor Williams yn ei 'Ragair': Os eich amcan yn prynu'r gyfrol hon oedd cael stori anturiaethus, 'o gyfnod y rhyfel degwm', a chwithau i ddal eich hanadl wrth ruthro drwy ei digwyddiadau cyffrous, ha wŷr, ewch yn ol i ffeirio Gŵr Pen y Bryn am gyfieithiad o chwedl Saesneg.