Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dehongli

dehongli

Artist yn dehongli sydd yma, nid hanesydd.

Os yw anghyfarwyddo a dieithro yn rhan o arddull Robin Llywelyn ni ddylai hynny fod yn esgus pam y mae'r un sy'n dehongli ei waith yn gwneud hynny hefyd.

Yr ydym yn meddu ar wareiddiad, ebe George Steiner (a'i drosi'n llythrennol), am ein bod wedi dysgu cyfieithu allan o amser, neu (a dyma'i ystyr) am ein bod wedi dysgu dehongli'r gorœennol a gedwir mewn geiriau.

At hynny, rhaid dehongli geirfa'r Dyneiddwyr.

Gan amlaf byddem yn dehongli hynny fel arwydd gobeithiol, yn hytrach nag fel awgrym fod pethau'n mynd ar gyfeiliorn.

roedd y gweithgor yn argymell parhau gyda'r canllawiau asesu, gyda rhybudd i athrawon eu dehongli yn ôl eu barn broffesiynol.

Ers dechreuad gwareiddiad mae'r dynolryw wedi edrych ar y sêr ac wedi ceisio dehongli eu safle yn y greadigaeth.

ei oes i'r gorchwyl o geisio dehongli - ac amddiffyn - gorffennol ei genedl'.

Anodd yw eu dehongli ar brydiau ond mae'n werth bustachu uwch eu pennau er mwyn sicrhau'r wybodaeth a geir ynddynt.

Yr oedd y cynnig arall yn y pegwn arall: gan nad oedd yn manylu, yr oedd yn ymddangos fel petai'n gorseddu egwyddorion y byddai pawb y tu allan i'r Blaid yn eu dehongli'n wrth-sosialaidd ac yn wrth-werinol.

Gellid dehongli eu mawreddd hwy mewn cyd- destun ehangach nag ysblander a rhwysg llysol a pholisiau cymen a derbyniol i'r bobl yn gyffredinol.

Rhaid gofyn yn greulon: a yw cerdd mor astrus yn werth y drafferth o geisio ei dehongli?

Nododd sawl athro bwyntiau canmoliaethus a manwl: ...wedi llwyddo dehongli `jargon' y CC mewn termau dealladwy a chlir.....`themau trawsgwricwlaidd', `deimensiynau traws- gwricwlaidd' a `cymwyseddau trawsgwricwlaidd' yn enwedig...; dyma un o'r pecynnau mwya ymarferol a defnyddiol a dderbyniwyd gan yr adran erioed...

Mae'r polisi hwn hefyd ar hyn o bryd mewn cul-de-sac, ond mae hygrededd ariannol y polisi hwn yn ddibynnol ar benderfyniad gan y Swyddfa Gymreig ar y fformiwla gyllido h.y. a ddylid dehongli 'ffederasiwn' fel un ysgol, neu fel nifer o ysgolion at bwrpas cyllido.

Ymddengys y gellid dehongli symudiadau llyswennod a drigai yn nþr y ffynnon er mwyn proffwydo ynglŷn â materion serch.

Nofelau yn dilyn hynt yr enaid unigol yw'r ddwy nofel am Leifior yn hytrach na gweithiau sy'n dehongli'n wrthrychol wleidyddol strwythur ein cymdeithas.

Fodd bynnag, efallai y bydd y nofwyr tanddwr yn dehongli'r Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau fel dull o'u hamddifadu hwy o elfen gyffrous i'w hobi ac o greu monopoli i'r proffesiynol (sydd yn broffesiynol yn rhinwedd eu cymwysterau academaidd yn unig a heb fawr o brofiad o waith tanddwr).

Fe arferid edrych arni fel cyfrwng diddanwch munud awr yn unig, ond gan fod teledu'n cynnig y diddanwch hwnnw bellachd wedi mynd heibio er pan enillo, gall y nofel fentro plymio i'r dwfn a dehongli pethau yn ogystal ag adrodd stori.

Hawdd i ni fod yn ysmala ynglŷn â phlastro posteri, dim ond i ni gofio y gellir dehongli gweithredu o'r fath fel terfysgaeth yn y dyfodol agos iawn ar ôl i'r llywodraeth gael ei ffordd.

* Darparu gwybodaeth * Dehongli gwybodaeth * Cynghori ar sail gwybodaeth * Annog gweithredu ar sail y wybodaeth

Yn y Traethawd dadleuai Newman nad oedd yr erthyglau, o'u dehongli'n gywir, yn wrth-Gatholig nac yn wrth-Babyddol.

Os yw'r awdur yn gallu creu darlun digon cryf o ofnau mewnol dyn, yna mae hi'n bosibl dehongli'r myth hwnnw yn berthnasol i bob cenhedlaeth.

O geisio ei dehongli yn gysact fel y gwna'r Athro Dewi Z.

Cais llawn - adeiladu 'booster' i gronfa ddŵr presennol Cais llawn - lolfa haul yng nghefn tŷ rhes Cais llawn - estyniad i swyddfeydd Cais llawn - newidiadau mewnol ac allanol i Neuadd y Dref a chreu canolfan dehongli ar y llawr isaf Cais adeilad rhestredig - newidiadau mewnol ac allanol i Neuadd y Dref a chreu canolfan dehongli ar y llawr isaf (ii) Hysbysu'r Bwrdd Trydan nad oedd gwrthwynebiad i'r cais canlynol am linellau trydan:- Cais llawn - ail-leoli llinellau trydan

Ceisia'r awdur hefyd dynnu ar amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol, nifer ohonynt yn rhai llenyddol, megis yr Anterliwt, a phob un o'r rhain yn dangos y mod y mae llenyddiaeth yn adlewyrchu amgylchiadau cymdeithasol y cyfnod ac yn eu dehongli.

Dehongli Cyfrifon

Y mae'n bosibl fod cydolygyddion Hughes wedi'i rybuddio yn erbyn gwrthweithio cryfder ei achos drwy ymarfer iaith a ellid ei dehongli yn hunangyfiawn ac â naws sarhau-er-mwyn-sarhau iddi yn yr ysgrifau hyn.

Beth am ei dehongli fel alegori rydd, hynny yw fel darlun o gyflwr meddwl sydd yn agored i sawl dehongliad am fod y llun yn taro tant yn ein meddyliau i gyd a bod ein meddyliau i gyd yn wahanol er bod yr ofnau a'r pryderon mawr yr un?

Hynny yw, disgrifio ac nid dehongli yw swyddogaeth y Gwyddonydd.

A'r nofelydd ati i ddarlunio a dehongli perthynas pobl â'i gilydd o fewn y teulu, y gymuned, ac yn ac os Islwyn Ffowc Elis, yng nghyd-destun ehangach Cymru fel endid cenedlaethol.

Mae'r delwedd ar eich retina hefyd ar ei phen i lawr, ond mae'r ymennydd yn dehongli hyn a gwybodaeth arall ar ein cyfer, ac yn dweud wrthym pa mor fawr yw pethau a pha mor bell i ffwrdd y maent.

Gellir dehongli Ifans yr Wythdegau a'r Punk (Dafydd Emyr) fel rhai yn cael eu rheoli gan agweddau caled masnachol, a'r ddau yr un mor ofnus a chythryblus eu meddwl ac ar drugaredd newidiadau cymdeithasol.

Yn yr un modd, gellir dehongli Ifans yn y Chwedegau yn ofni'r bachgen mewn siaced ledr, Teddy Boy y cyfnod.