Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deillio

deillio

Ar gyfer nodweddion o'r fath mae angen dulliau ystadegol i ddadansoddi faint o amrywiaeth sydd i'w weld mewn nodwedd, a faint o'r amrywiaeth yma sy'n deillio o'r amgylchedd a faint sy'n cael ei reoli gan enynnau'r anifail.

Ond mae yna ffactorau dyfnach hefyd sy'n deillio, yn eironig ddigon, o gyfnod yr Archentwr enwocaf oll - arwr Menem a sylfaenydd y blaid y daeth yn arweinydd arni - sef Juan Pero/ n.

Honnwyd bod cyflwr anfoddhaol addysg yng ngogledd Cymru yn deillio yn arbennig o'r camddefnydd o waddoliadau mewn nifer o ardaloedd.

Prin y derfydd gyda'r genhedlaeth hon y chwerwedd sydd wedi deillio o'r fath fwnglera anffodus'.

Ar sail y cyfoeth sy'n deillio o ddwy iaith hynafol, rhydd addysg Gymraeg gyfle iddynt ehangu eu gorwelion a dyfnhau eu profiadau.

Daw'r un diffyg manylder a chysondeb i'r amlwg pan drafodir y safbwyntiau sy'n deillio o dro%edigaeth wleidyddol Harri.

Gan ei bod yn bosibl mesur y pelydriad a oedd yn deillio o'r elfen ymbelydrol, gwelwyd posibiliadau defnyddio'r elfen fel modd i ddilyn metabolaeth gwahanol sylweddau o fewn y corff dynol.

Mae rhyw gynllwyn anymwybodol i yrru i'r ymylon weithgareddau diwylliannol nad ydynt yn deillio o'r canolfannau pwysig dylanwadol hyn.

Roedd y cynefindra'n deillio o ddylanwad dwfn cenhadaeth Presbyteriaid Cymru ar bobol y tir hwn yn y ganrif ddwetha a hanner cynta'r ganrif hon.

Felly gwelir fod y Testament Newydd yn defnyddio amrywiaeth o drosiadau, bron bob un ohonynt yn deillio o syniadau yn y grefydd Iddewig, i ddisgrifio gwirionedd canolog iachawdwriaeth drwy Grist.

Gor-Yfed, Rheibio, Lladrata, pob un yn deillio o ddallineb yr 'arbenigwyr'.

Beth bynnag yw'r anferthwch yma, credaf ei fod yn deillio o'r fan honno.' 'Fe ddof, os na fydd Tad-cu'n waeth,' addawodd Seimon.

Ond fe ddywedodd Owain Williams, cadeirydd Cymru Annibynnol, y bydden nhw'n cadw golwg ar y sefyllfa yn y dyfodol, ac y byddai rhagor o brotestio pe bai yna fwy o broblemau yn deillio o'r defnydd o'r iaith Gymraeg.

Er mai gwirion iawn fyddai dadlau nad oes yna unrhyw berygl yn deillio o'r defnydd a wneir o'r fath belydriad, dylid tanlinellu'r ffaith fod yna ochr arall i'r stori.

Er bod pedwar deg wyth wedi marw allan o bron i bymtheg can o garcharorion, morwyr a milwyr a gludwyd mewn un ar ddeg o longau, roedd Capten Arthur Phillip wedi cyflawni un o fordeithiau enwocaf hanes y mor, dros bymtheng mil o filltiroedd heb golli'r un llong.Roedd y marwolaethau'n llawer mwy yn y llyngesau a'i dilynodd oherwydd gorlwytho, prinder bwyd, creulondeb annynol ac afiechydon a oedd yn deillio'n anorfod o'r sefyllfa ar y llongau, a'r ffaith bod y fordaith mor hir.

Ei gyfraniad mawr i lywodraeth yr Eisteddfod oedd ei allu i edrych ar broblem o sawl cyfeiriad, o safbwynt ariannol, o safbwynt trefniadol, ac o safbwynt celfyddydol, ac arwain ei gydgynghorwyr yn y diwedd at benderfyniad y byddai'r budd mwyaf ohono yn deillio i'r eisteddfodwr cyffredin.

Yn deillio o'r ymchwil ceir i.

Newydd-hen, fd y mudiad ei hun, oedd y llenyddiaeth, newydd ei phwys a'i phwyslais a'i Dais, ond Ryda llawer o'i chynnwys yn deillio o'r Beibl, o w~ith clasurwyr yr Eglwys, o waith Milton a Bunyan a Phiwritaniaid eraill, ac awduron y mudiadau efengylaidd cyfoes yn Lloegr, yr Alban, a Lloegr Newydd.

Ac os yw lluniau Dick Chappell yn deillio i raddau helaeth o ddiddordeb manwl mewn daeareg, mae a wnelo rhai Bert Isaac yn fwy uniongyrchol â'r hyn sy'n weladwy i'r llygad, er nad oes dim oll yn ffotograffig yn eu cylch.

Cen Williams Yn y bennod hon cyflwynir y casgliadau eang sydd yn deillio o'r ymchwil, casgliadau a fydd o werth i athrawon a gweinyddwyr addysg yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Dywed Raymond Williams fod tuedd wedi bod i ystyried yr is-ffurfiant mewn modd cul, fel rhywbeth unffurf a statig, tra bod syniad Marx ohono'n llawer ehangach: Proses yw'r is-ffurfiant, meddai, nid rhywbeth statig , ac mae'n broses sy'n cael ei nodweddu gan ddeinamig y gwrthdaro sy'n dod o wrthddywediadau y cysylltiadau cynhyrchu, a'r cysylltiadau cymdeithasol sy'n deillio ohonynt.

Roedd hyn hefyd yn thema amlwg yng ngwaith BBC Cymru yn ystod y flwyddyn wrth i'w dimau cynhyrchu ddenu'r nifer mwyaf erioed o gomisiynau gan rwydweithiau radio a theledu'r BBC. Mae'r gostyngiad ymddangosiadol mewn cynyrchiadau rhwydwaith yn deillio o amseru cyflwyno'r cynyrchiadau a dylai'r flwyddyn nesaf fod yn un llewyrchus iawn.

Fel ail reswm cyffredinol dywedir bod y cyfnod llewyrchus yma'n deillio o'r datblygiadau yn ein gwybodaeth am weithgarwch yr economi: fod syniadau Keynes, a'r datblygiadau mewn polisi%au a adeiladwyd ar y seiliau damcaniaethol hynny wedi galluogi'r Llywodraeth i gadw'r economi ar lwybr cul, heb ormod o chwyddiant na thyfiant.

b Tarddu o'r ferf 'gorchuddio' neu 'sychu ymaith' a wna kpr (a'r ffurfiau yn deillio ohono: kippêr, kophêr, kaphâr etc.) a chyfeiriai at ddefod aberthu er mwyn symud ymaith bechod: 'Offryma bob dydd fustach yn aberth dros bechod, i wneud cymod' (Ex.

Diau fod aml denant yn methu cysgu gan y llawenydd sydd yn deillio iddo o'r ymwybyddiaeth hon o rinwedd ar ei ran.

Mae aelodau'n derbyn cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn ac mae gwahoddiad iddyn nhw ddod i'r cyngherddau a'r cyflwyniadau sy'n deillio o weithgarwch gyda chymunedau lleol.

A thro ar ôl tro awgrymir bod rhyw arbenigrwydd rhyfeddol yn perthyn i deulu Lleifior, rhyw foneddigeiddrwydd, yn ystyr ehangaf y gair, sy'n amheuthun ac yn deillio o'u tras fel gwyr bonheddig cyfoethog ym Mhowys.

Ac yn hynny y mae 'mawr lonyddwch' a chysur, nid annhebyg eto i'r hyn sy'n deillio o ystyried (yn yr ystyr o meditatio) nirfana.

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Cynllunio mewn ymgynghoriad â Chyfreithiwr y Cyngor i erlyn mewn achosion clir o droseddu dan y ddeddf uchod i'r dyfodol ac i gymryd unrhyw gamau angenrheidiol ar ran y Cyngor yn deillio o hynny.

Yn ôl y brifathrawes, Gladys Hernandez, 'Mae hyn yn dangos i'r plant fod popeth sy gynnon ni mewn bywyd yn deillio o ymdrech dyn.

Adroddiad yn pwysleisio'r afiechydon a oedd yn deillio o dlodi yng Nghymru.

'Yn yr ornest ddigymar hon darganfyddwn ddwy ffaith sy'n dwn lles i'n heneidiau: sef bod ffyddlondeb a thynerwch i'w cael ymhlith y gelynion a bod y brofediagaeth i gyd yn deillio o'r sarhad a roddodd Pwyll ar Wawl fab Clud.

I Ieuan Gwynedd a'i gyd-wirfoddolwyr, yr oedd y brad, fel yr amlygwyd ef yn nisgrifiadau Symons, yn deillio, yn y lle cyntaf, o du'r Llywodraeth.

Un o argymhellion y Comisiwn Brenhinol ar Gyfiawnder Troseddol yw y dylid cwtogi ymhellach ar hawl diffinydd i ddewis rheithgor i glywed ei achos - hawl sydd yn deillio o'r Magna Carta.

Y mae rhai o'r amheuon ynglŷn â gallu'r llywodraeth i ymyrryd er mwyn sicrhau cyflogaeth lawn yn deillio o'r ddwy dybiaeth sydd yn weddill sef (vi) a (vii).

Ceir ynddi ddigonedd o hiwmor cynnil a nobl sy'n ysgafnhau'r digrifwch ac yn deillio ohono.

Tybir bod y llithro rhwng ffibrilau sy'n gysylltiedig a'i gilydd yn deillio o weithgaredd y breichiau dynein.

Nid yw'r meddwl anianol yn agored i ystyriaethau a chymhellion sy'n deillio o'r ffydd Gristnogol.

c Trwy'r go'êl (yn deillio o g'l) y gellid naill ai adfeddiannu eiddo aelod o'r tylwyth a gipiwyd gan wrthwynebydd neu elyn, neu brynu rhyddid ar gyfer aelod a gymerwyd yn gaethwas (Lef.

Nodwyd nifer o wendidau yn deillio o:

(a) Rheolaeth Datblygu o ddydd i ddydd yn gyffredinol gan gynnwys (ond nid er cyfyngu ar hawliau'r Pwyllgor mewn unrhyw fodd) ymdrin â'r rhelyw o geisiadau unigol am ganiatâd cynllunio neu dystysgrif defnydd sefydlog neu faterion o'r fath a phob gweithrediad yn deillio o'r cyfryw a hefyd pob mater ynglŷn â gorfodaeth yn codi o'r Deddfau Cynllunio ac unrhyw Is-ddeddfau a Rheoliadau a wneir dan y Deddfau hynny gan gynnwys rheolaeth ar hysbysebion, coed, adeiladau rhestredig a materion o'r fath.

Ceir ef yn y gair ysgubor "barn" sy'n deillio o ysgubawr hen ffurf luosog ysgub "sheaf".

Egwyddor arall o gryn bwys, sy'n deillio o'r holl drafodaethau, yw hawliau'r llwythau brodorol.

Wrth edrych yn ôl, bach iawn hyd yn gymharol ddiweddar oedd y newidiadau o flwyddyn i flwyddyn yn y Gyllideb: ac y mae'n annhebyg felly fod y rheiny wedi dylanwadu ryw lawer y naill ffordd neu'r llall ar gwrs yr economi, yn arbennig o gofio am y sefydlogrwydd cynhenid sy'n deillio o system trethiant esgynraddol, budd-daliadau diwaith, a sefydlogyddion tebyg.