Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deimladau

deimladau

Teimlai Mam yn flin wrth Modryb, a daeth yr hen deimladau frwg a fu'n ei chorddi ganol y pnawn, i'w phlagio eto.

Mae ei hangen arno i fynegi ei anghenion a'i ddyheadau, ei brofiadau, ei deimladau a'i freuddwydion ac yn sgîl hynny fe ddaw yn gyfrwng i rannu'r meddyliau hynny.

Oherwydd, yn y pen draw, adlewyrchu y mae gweithiau a rhagymadroddion y dyneiddwyr Cymraeg deimladau ac agweddau meddwl a oedd yn cyniwair drwy Orllewin Ewrop i gyd.

Nid yw'r bardd yn awyddus i Ddwynwen gael gwared ar ei deimladau trachwantus.

A dyna'r tro cyntaf i gymysgedd o deimladau fynd ar draws ei gilydd ū siom a hiraeth, ac yn fwy na'r cwbwl tosturi am fod breuddwyd rhywun arall wedi'i ddinistrio ū er mai dim ond berfa oedd o.

Fel disgyrchiant anochel y byddai'i deimladau wrth eu boddau'n gogwyddo tuag at y gwaelod rywfodd.

Mae soned ganddo â'r teitl 'Madrondod' sydd yn mynegi ei deimladau wrth ddarllen, fel y dywed yntau mewn nodyn ar y dechrau, 'yn llanc, lyfr o delynegion Cymraeg newydd'.

Yna sylweddolodd mai ei hunanoldeb hi a barai iddi hi goleddu'r fath deimladau a dywedodd wrth ei Duw mewn gweddi fer, "Arglwydd, Ti sydd biau'r plant a'u cwrls.

mae'n esgor ar deimladau cryfion a gweithredodd byrbwyll.

Gwyddai o'r gorau fod y tristwch mawr a oedd yn ei oddiweddyd y dyddiau hyn yn bygwth troi Meg oddi wrtho, ond doedd ganddo ddim rheolaeth ar ei deimladau.

Nid oedd gan Gordon Wilson esboniad am ei deimladau.

Ymrestrodd amryw o wŷr amlwg yn y Brifysgol tu ôl i Newman, fel William Palmer, a fu'n llugoer ei deimladau tuag ato er pan gyhoeddwyd Remains Hurrell Froude, a Dr Pusey, a apeliodd am amser a chyfle i Newman gael ei amddiffyn ei hun, er nad oedd yn cytuno â rhai adrannau o'r Traethawd.

Ceisia gyfleu ei deimladau i aelodau eraill y grūp ond eu hunig ymateb yw mynnu bod yr amser am emosiwn heibio ac mai'r hyn sydd ei angen yn awr yw strategaeth a chanllawiau pendant ac astudiaeth o wleidyddiaeth, nid datganiadau o dristwch neu ddicter na hyd yn oed o lawenydd.

Deffrodd yr ymgyrch deimladau dwfn trwy Gymru oll, lawn cymaint yn yr ardaloedd diwydiannol ag yn y Gymru wledig.

Elfen arall ym mhrofiad a myfyrdod y nofelydd na chafodd lawer o sylw yw ei deimladau ynghylch merched fel y'u datguddir yng nghymeriadaeth y nofelau - mewn gair, rhywioldeb Daniel Owen, Ar yr olwg gyntaf, pwnc go anaddawol yw hwn.

Mae pwyslais ar y ferf gyflawn - 'Aeth' - ac y mae'r wybodaeth am ei deimladau wedi'i chyflwyno fel petai'n ddibynnol ar y weithred: 'Aeth .

Oherwydd nid ar gred y mae eich pwyslais, ond ar gredo; nid ar deimladau a meddyliau personol ond ar fformiwla amhersonol; nid, os mynnwch, ar yr hyn a genfydd dyn ond ar yr hyn a ddywedir wrtho gan ei eglwys.

Wedi darllen y gyfrol hon o ddeuddeg stori fer gan Marlis Jones, bûm yn ystyried a roddwyd i mi unrhyw brofiadau a adawodd argraff arnaf; a gynhyrfwyd ynof unrhyw deimladau neu emosiynau a fydd yn aros gyda mi.

Bydd ymarfer corff o gymorth i gael gwared o deimladau o dyndra ac yn eich helpu i ymlacio.

Ac am smocio, 'waeth iti ladd rywun un blewyn yn y byd." Ail-oleuodd fy nghyfaill Williams ei bibell, a adawsai i ddiffodd yn nwyster ei deimladau.

Pa feddyliau bynnag a fartsiai drwy ben y milwr y diwrnod hwnnw, ni fedrai byth ddirnad ymlyniad y gwladwr wrth ei fro, na mesur dymder ei deimladau wrth glywed fod rhaid iddo ei gadael.

Ei fwriad oedd ei holi ynglŷn â'i weithredoedd, mewn ymgais i geisio deall pam y'u cyflawnodd, ond roedd Josef Mengele yn gyndyn o drafod Auschwitz mewn unrhyw fanylder, heb sôn am ddangos unrhyw deimladau.