Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deinamig

deinamig

Hoffwn gydnabod ein dyled i weledigaeth a medrusrwydd ein Cyfarwyddwr, Siôn Meredith ac i'r Swyddog Cyswllt deinamig, Andrea Jones, am eu hymroddiad cadarn i'r mudiad.

Yn yr un modd mewn ardaloedd di-Gymraeg, gallasai'r peuoedd hyn weithredu fel sylfaen i ail-sefydlu rhwydwaith o gymdeithasau Cymraeg allasai greu impetws ieithyddol deinamig.

I grynhoi, felly, gwelir fod y newidiadau sy'n digwydd o fewn yr economi yn effeithio ar yr uwch-ffurfiant, gan greu deinamig ac achosi newidiadau i'r ffurfiant cymdeithasol.

Y goeden sy'n llenwi'r rhan fwyaf o ddigon o'r gofod ac eto mae'r awyr y mae'n ei chuddio hefyd yn llawn nerth deinamig.

Ceir deinamig cyson wrth i'r diwylliant dominyddol adgynhyrchu ei hun, ac i'r diwylliant sy'n is-raddol iddo ei wrthwynebu a'i wrthsefyll, gan ffrwyno'r datblygiadau posib.

Ym 'Melin Adda, Amlwch' mae paent yr awyr wedi ei osod yn ffyrnig â chyllell balet nes bod y cymylau'n edrych fel petaent wedi eu cerfio, eu ffurfiau deinamig yn cau am y felin a'r beudai, yn gymheiriaid i ffurfiau'r tir.

Byddai'r fforymau yma yn cynnwys cynrychiolaeth eang ac amrywiol o'r sector statudol, gwirfoddol ac o'r gymuned er mwyn sicrhau deialog deinamig rhwng aelodau'r Cynulliad â phobl cymunedau Cymru yn ôl eu profiad o ddydd i ddydd yng Nghymru.