Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deio

deio

Rhedodd y geifr i lyfu llaw Deio, ac yr oedd hyd yn oed y defaid yn ddigon dof i Cadi roi ei llaw ar eu pennau.

"Dos di yn syth i nôl Cymro, ac i ddweud yr hanes am Dad wrth Mr Bassett, Idris," meddai Cadi, "ac fe aiff Deio a minnau i'r tŷ i gynnau tân ac i hwylio swper." "O'r gore," meddai Idris, ac i ffwrdd ag ef.

Rhoddodd ddillad gorau Idris a Deio allan hefyd, rhaid bod yn dwt i fynd i weld Dad yn yr ysbyty.

"Neidia ar ei gefn, Deio," meddai Idris, "i ti gael marchogaeth i'r Cwmwd." "Na wnaiff wir," meddai Cadi yn yr un llais yn union â'i mam, "ddim yn ei ddillad gorau." Gafaelodd Deio ym mwng Llwyd a cherdded ymlaen felly.

"Deio, mae rhywun wedi bod yma !"

Dyna i ti pwy fu yma!" gwaeddodd Deio, "does yna neb arall." Geneth ddewr oedd Cadi, ond fe aeth llaw oer ofn am ei chalon o feddwl fod rhywun wedi bod mor hy â mynd trwy'r tŷ tra oeddynt i ffwrdd.

Beth sy?" Eglurodd Cadi a Deio.

Mi gewch ddod yn ôl hefo mi ar y cwch, os liciwch chi, ac mi fedraf ddod â chi'n ôl hefyd." Yr oedd llygaid y plant yn disgleirio, a dechreuodd Deio ddawnsio o gwmpas.

Pwysodd Deio arni i ddod i'w gweld i'r ynys.