Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

delfryd

delfryd

Amlwg iawn yw'r elfennau sylfaenol hynny yng nghyfansoddiad y teulu sy'n adlewyrchu delfryd bonheddig yr oes yn Lloegr ac ar y Cyfandir.

Ar ôl 1536 fe beidiodd y syniad o Gymru'n genedl, yn undod hanesyddol, â bod yn atgof na delfryd na ffaith.

Ac wedi cyfaddef bod agendor rhwng delfryd ac ymddygiad yn fy arferion bwyta, megis mewn llawer o bethau eraill, rhaid imi ganmol y bacwn a'r wy a gawsom i frecwast bob bore cyn cychwyn ar y daith, a'r bara toddion bras nad yw dietegwyr heddiw yn ei gymeradwyo, y brechdanau ham, a'r caws, a'r tomatos a'r afalau a baciwyd beunydd ar ein cyfer.

Trefn wir gydgenedlaethol yw'r delfryd y mae'n rhaid ei sylweddoli yn y byd.

Trwy wneud delfryd ohono, fe gafodd yn y diwedd ei droi'n gymeriad 'pathetig' ac fe fethodd y Cymry Cymraeg â sylweddoli beth oedd ar droed pan gafodd yr hen undebaeth ryddfrydol ei disodli gan undebaeth ffyrnig newydd.

Delfryd Cymdeithas Ddrama Cymru yw cofrestru pob cwmni drama yng Nghymru a sefydlu rhwydwaith gref o gysylltiadau trwy'r wlad.

Delfryd Tom Ellis oedd sefydlu senedd i Gymru, ond dan gochl Rhyddfrydiaeth Brydeinig.

Branwen yn hiraethu am Gymru a geir yn yr awdl, a'r môr yw'r ffin ynddi, y ffin rhwng Branwen a Chymru, y ffin rhwng dyhead a delfryd.

Dyna'r delfryd a bortreadid dro ar ôl tro yng ngweithiau'r beirdd - yr ymdeimlad o lywodraeth deuluol yn ystyr gyfyng yr endid hwnnw.

Siawns nad oedd Crwys yn ddigon o realydd i wybod ei fod fel bardd yn ffalsio'n ddengar yng ngwasanaeth delfryd genedlaethol arobryn.

Canfyddir y delfryd yn eglur iawn yn Il Cortegiano gan Castiglione lle y disgrifir prototeip y gŵr bonheddig perffaith, sef y cortegiano amryddawn ac eang ei gyraeddiadau a fagodd chwaeth at ddysg, celfyddyd, a bywyd cyhoeddus.

Ymgais i ymddangos yn wâr eu hymddygiad ymhob agwedd ar fywyd oedd 'delfryd' y bonedd, ac er mwyn meithrin hynny, ymfudent yn raddol o'r wlad i'r dref neu'r ddinas, sef canolfannau'r cwrteisi llysol a'r ffasiwn.

Mae hyn yn peri peth syndod, oherwydd gallasai Parry-Williams fod wedi dod o hyd i lawer o syniadau yng ngwaith yr hen feirdd a oedd yn gyson â'i syniadau ef ei hunan - yr amheuaeth ynglŷn â materion crefyddol neu athronyddol, y weledigaeth lem o flinder y cyflwr dynol, a'r cariad tawer at ddyn a natur heb wneud delfryd rhamantus o'r naill na'r llall.

Maent i gyd wedi rhoi llythyren y traddodiad uwchlaw'r ysbryd a chymryd delfryd yn lle realiti cyflawn.

Rhoddir dyfnder ychwanegol i'r cyfeiriadau hyn gan gyfeiriadau eraill sydd o gryn bwysigrwydd, sef i'r ardd-winllan sydd wedi'i sefydlu fel delfryd diwydiannol gan awdur Buchedd Garmon.

O ran delfryd, llysiau fwytawr ddylwn i fod, nid bwystfil ysglyfaethus.

Ac nid breuddwyd rhiant ddylai hynny fod, na delfryd gwleidyddol, ond nod realistig a hawl naturiol plant y presennol a'r dyfodol.

Calon y delfryd gwyddonol oedd rheoli Natur.