Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

delfrydau

delfrydau

Hwy oedd yn cyfryngu safonau, gwerthoedd a delfrydau eu heglwysi yn y byd o'u cwmpas.

Mudiad o blaid un o'r delfrydau mwyaf yw'r mudiad senedd.

Yr oedd Penri, mae'n amlwg, yn tyfu'n ffigur a wnâi fasgot rhagorol i bleidwyr Datgysylltiad a chefnogwyr delfrydau rhyddid y Blaid Ryddfrydol!

Nid oedd y delfrydau na'r gwerthoedd uchaf yn ddieithr iddi.

I'r ychydig a weithiai yn y Blaid, wrth gwrs, yr oedd ei helynt a'i delfrydau yn llanw eu bryd yn llwyr o ddydd i ddydd.

Oherwydd heb rym gwleidyddol i reoli'n dyfodol fel cenedl does dim modd yn y byd y gallwn wir 'hyrwyddo' ein dyheadau a'n delfrydau mwyaf gwerthfawr.

Rydw i wedi gweld rhai tebyg ichi o'r blaen, yn llawn delfrydau a syniadau rhamantus, ond wyddoch chi beth, erbyn iddyn nhw gyrraedd y canol oed parchus, y nhw ydi'r bobl fwyaf crintachlyd y gwn i amdanyn nhw, ac mi werthen nhw eu ffermydd i ladron tase'r pris yn iawn." "Ac felly, rhag ofn mai yr un fath y byddaf innau, dyma fi'n gwneud penderfyniad ynglŷn â Maes y Carneddau tra ydw i'n dal yn ifanc.

Ond ar ôl y cam annisgwyl cyntaf hwn y mae'r cyfraniadau'n dod yn nes at gynnal delfrydau'r maniffesto, yn enwedig trwy gyfraniadau'r golygydd ei hun.

Dyna lle bu system Freud yn gymaint o bandy ac o sgwrfa didrugaredd i'm delfrydau brau Pa ryfedd nad oedd dim o'm carpiau ar ôl wedyn ond ambell gydyn o ridens cyfroda na fyddai fyth mwy yn dda i ddim?) Roedd blwyddyn goleg newydd yn dechrau ym mhen ychydig iawn o wythnosau ar ôl y Cyfarfod Misol hwnnw A'r peth cyntaf bron a wnes wedi cyrraedd Aberystwyth oedd mynd â'm "hymddiswyddiad" (maddeuer y gair ymddiswyddiad!) i Brifathro Coleg Diwinyddol y Methodistiaid Calfinaidd.

Yr oedd gormod o ysbryd ymladd er mwyn ymladd yn eu plith, meddai ef, ac aberthwyd delfrydau i'r blys hwnnw ar brydiau.

Dyma gyfnod y delfrydau cyn cyrraedd hunanoldeb yr wythdegau, y cyfnod pan oedd yr ifanc yn poeni am bethau'r byd.

Gan amlaf casglai Williams ei wybodaeth oddi wrth ffynonellau printiedig, gan adlewyrchu syniadau neu ragfarnau a delfrydau cymdeithasol y rhan fwyaf o'i wrandawyr.