Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

delw

delw

Trefnasant eu bywyd yn y cymoedd poblog ar lun a delw y bywyd gwledig a'r capel yn ganolfan iddo.

Pan ymgnawdolodd Mab Duw a'i wneud yn ddyn, ailadroddodd ynddo'i hun linell hir y ddynoliaeth, gan roddi inni oll achubiaeth lwyr, fel y derbyniem yng Nghrist yr hyn a gollasom yn Adda ( sef i ni fod ar lun a delw Duw).

Creodd Duw Adda o'r ddaear forwynol, yn un a allai ddwyn delw Duw, ac yn llawn potensial ar gyfer dynoliaeth.

Aeth yn ei flaen yn ddidaro nes dod at garn fach o gerrig llwydion ac yna oedodd yn wyliadwrus a llygadrythu ar rywun a eisteddai fel delw yno.

Plas Pren, medde nhw, oherwydd mai o bren y'i gwnaed o - ac y mae hynny yn gwneud rheswm gan mai ar lun a delw plasdai saethu Sweden ei hadeiladwyd.

Ond roedd pob un yn berffaith lonydd, fel delw garreg.

Mewn un frawddeg portreadir Arthur fel amddiffynnydd y Ffydd Gristnogol trwy honni ei fod wedi dwyn delw y Forwyn Fair ar ei ysgwyddau, a'i fod wedi gwneuthur lladdfa enfawr o'r paganiaid trwy rym Ein Harglwydd Iesu Grist a'i Fam.