Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

delweddau

delweddau

Roedd gan yr hen Lloyd y ddawn ddiamheuol o hoelio sylw'i gynulleidfa gyda dywediadau a delweddau cofiadwy, megis "Mae'r diafol fel y clacwydd, pan fyddwch chi'n meddwl eich bod chi wedi ei goncro, mae e'n troi 'nol ac yn eich brathu chi." Ar un achlysur fe gyhuddodd ei braidd o fod "mor gul a whilen racer".

Byddai'n ddigon hawdd llunio beriniadaeth weddol arwynebol ar y ffilm hon a'i gadael hi ar hynny: miwsig nostalgaidd Michael Storey; actio gafaelgar Iola Gregory a Dafydd Hywel; adeiledd carcus-dynn y ffilm a delweddau canolog y madarch a'r rhosod; y garreg fedd glyfar ar ddiwedd y ffilm ar ddelw sgrin sinema a'r geiriau THE END yn cloi'r llun yn daclus thematig...

Gan mai Jungiad oedd yr awdur, teg disgwyl mai'r hyn a wêl yn bennaf mewn llenyddiaeth, yn enwedig chwedlau, ydyw delweddau sy'n cyfleu byd a bywyd mewnol, anymwybodol y seici neu'r enaid.

Ar y llaw arall, ame seiciatryddion a seicolegwyr wedi hen arfer â throi i fyd chwedloniaeth i fynegi a chyflwyno eu syniadau a'u delweddau.

Flynyddoedd yn ôl, cerddi A.A.Milne yn y gyfres When We Were Very Young oeddwn i yn eu darllen a chael fy hudo gan y geiriau a'r delweddau hyfryd.

Mae un sector o'r diwydiant yn darparu ar gyfer y 'Farchnad Dwristiaid', gan lunio tirluniau traddodiadol sy'n ail-wampio technegau a delweddau o dramor ac o'r gorffennol...

Defnyddio camerâu electronig Yn y degawd diwethaf mae camerâu electronig wedi disodli platiau ffotograffig fel y ffordd mae seryddion yn cofnodi'u delweddau.

Prin yw delweddau felly - ond yn ystod yr žyl y mae'r cyfle i chwilio am ddelweddau yn adderchog gan fod y dewis mor eang ac yn gyfoethog, yn syfrdanol o amrywiol ac yn wirioneddol ryngwladol, ac eto'n Gymreig yn yr ystyr orau; yn fodern; yn gyffrous, yn gyfeillgar, yn barod i groesawu diwylliant pentre'r byd.

Mae'n arwyddocaol fod y rhyfel yn cael ei gyflwyno mewn delweddau rhamantus o fyd natur: Fel llanw y mor...

A yw ei seiniau mor swynol, ei mydryddiaeth mor gampus, ei delweddau mor gain, fel nad yw ei hastrusi yn wendid difrifol iawn ynddi?

Beth bynnag, wn i ddim yn union ar ba gangen o'r goeden achau dwi'n sefyll ar hyn o bryd, os newch chi faddau i mi am gymysgu delweddau am eiliad; wn i ddim os ydw i yng nghorlan y defaid gwynion neu'r defaid duon ('da chi'n gweld, roedd hi'n anodd gosod dafad ar goeden, neu frigyn, neu mewn nyth, yn doedd?).

Bu wrthi'n brysur yn creu delweddau am ein nawddsant er mwyn dyrchafu esgobaeth Ty Ddewi.

Nid wyf yn siwr ai hwn fydd portread mwyaf poblogaidd John Ogwen - peth anodd yw cracio delweddau a luniwyd gan gynhyrchiad blaenorol - ond mae ymhlith ei oreuon.

DELWEDDAU'R MUDIAD HEDDWCH - Hefin Williams

Delweddau negyddol sy'n ein pledu yn ystod hanner cynta'r ffilm: yn wir, golygfa lom sy'n agor y ffilm wrth i Mona'r 'fenyw eis-crim' frasgamu drwy'r glaw fin nos i dŷ sinema'r Rex sydd a phoster uwch ei fynedfa yn hysbysebu'r ffilm nesaf a ddangosir: Coming Soon: Raiders.

Nod BBC Cymru ers tro yw sicrhau bod delweddau Cymru, ei llais a'i chalon, yn cael eu gweld a'u clywed trwy'r DG. Roedd y flwyddyn a fu, pan ddenwyd y nifer mwyaf erioed o archebion radio a theledu rhwydwaith, felly, yn hynod galonogol.

Dyna ergyd y cyfeiriadau a delweddau o faes y canu serch, megis y cyfarchiad i Ddwynwen (nawddsantes y cariadon), y 'cae Esyllt' (torch flodau'n arwydd o serch), a galw Siôn 'fy nghusan' a 'fy serch'.

Gyda chamera digidol a sgiliau technegol ei staff, mae'r Llyfrgell wedi creu'r delweddau electronig gorau posibl, o bob tudalen o'r llawysgrif hynod hon.

Sylwant ar y dinistr sy'n digwydd ym mywyd Cymru heddiw, ac ar yr esgeuluso ar gymunedau a'r gwrthwynebiad i'r iaith Gymraeg, a defnyddiant yr iaith Gymraeg a delweddau Cymreig yn eu gwaith.

Drylliwyd delweddau ystrydebol o'r Cymoedd gan y ddrama angerddol Belonging, gydag Owen Teale a Gwen Taylor.

Nid ychwanegiadau i ddenu'r llygad mo'r cymariaethau a'r delweddau a'r darluniau geiriol.

Cystal i mi gydnabod yn awr mai creadigaethau ein dychymyg ydynt; delweddau i ddisgrifio'r hyn mae'r gwyddonydd wedi sylwi arno yn ei labordy.

Ynddo defnyddid gweledigaethau hynod, arwyddion a delweddau dirgel, rhifau cyfrin, a disgrifiadau nerthol i ddynodi chwerwder y frwydr rhwng y wladwriaeth a phobl Dduw; a'r sicrwydd hefyd mai gan Dduw oedd yr oruchafiaeth ac mai Iesu a gyhoeddid yn y diwedd Yn Frenin brenhinoedd ac Arglwydd arglwyddi.

Y peth sy'n drawiadol am Lyfr y Tri Aderyn yw absenoldeb delweddau'r Bumed Frenhiniaeth.

annog darlledwyr a gwneuthurwyr rhaglenni i bortreadu delweddau cadarnhaol tuag at ddefnyddio'r iaith.

Mae nifer helaeth o'r cymariaethau a'r delweddau yn gymaint rhan o'r cartref ag ydyw'r tân a'r cwrdd yr eisteddai'r teulu o'u hamgylch.

Erbyn hyn, nid oes prinder beirniaid i dynnu sylw at y gwahaniaeth dolurus rhwng y delweddau rhamantaidd a'r realiti llwm a oedd ohoni fynychaf, yng Nghymru fel ymhob gwlad arall y rhamanteiddiwyd ei gwerin.

Delweddau eraill - Stee Buscemi yn ymdrochi yn ei faddon y tu ôl i ddrws ffrynt ei fflat flêr, yn ateb y ffôn.

Dyma rai o'r delweddau o ffilmiau'r žyl y byddaf yn eu cario yn fy meddwl o hyn ymlaen.

Ond roedd gan William Owen Roberts lawer mwy yn ei ddrama na phroblemau teuluol ac roedd delweddau i'w gwled i'r gwyliwr oedd yn chwilio amdanynt.