Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

democratiaeth

democratiaeth

Democratiaeth, neu ymladd dros ryddid, oedd yr achos hwnnw.

Felly, meddai, rhaid adfer democratiaeth leol.

Yn y cyfamser, rhaid byw yn Nhir y Cwango a gweld democratiaeth ac atebolrwydd yn chwalu'n chwilfriw o'n cwmpas, a'r gwasanaethau sy'n cwrdd ag anghenion sylfaenol ein cymdeithas yn cael eu gwasgu o bob tu.

Yn y cynnig yna mae'r seiliau ar gyfer dymchwel y Quangos, seiliau ar gyfer datblygu democratiaeth yng ngwir ystyr y gair, a seiliau i ddangos ein bod yn barod am hunan-lywodraeth.

'Democratiaeth wedi mynd yn wallgof, 'ddyliwn i.' Pwysodd yn ôl yn erbyn y silffoedd a oedd bron â chyrraedd y nenfwd, gan sipian ei goffi.

Meddai Raymond Williams eto, wrth drafod y diwylliant dominyddol: Mae o fewn y gymdeithas, felly, wahanol ffurfiau ar yr hyn a ystyrir yn 'synnwyr cyffredin', ac o fewn democratiaeth, rhaid i'r wladwriaeth gael ei gweld i fod yn cynnwys y rhain, hyd yn oed os ydynt weithiau yn sefyll mewn gwrthwynebiad i'w gwerthoedd hi.

Dim ond dwy enghraifft yw'r rhain o blith llawer o genhedloedd sydd yn rhoi gwerth ar eu hieithoedd yn sgil democratiaeth. 08.

Roedd y syniad ddinist yn gryf ym myd celf y chwedegau, ac yn hytrach na chreu cerfluniau 'hierarchaidd' a gâi eu gosod ar bedestal neu lwyfan gwell ganddo oedd creu 'democratiaeth o wrthrychau' a fedrai gyfleu teimlad tuag at ddarnau o natur, pren, haearn, pridd, unrhyw weddillion dienw y gallai eu defnyddio.

Yn ail mae'r frenhiniaeth yn arwydd o'r diffyg democratiaeth yn ein gwlad, yr annhegwch cymdeithasol ac amharodrwydd y drefn wleidyddol i addasu a moderneiddio.

Er mai ganddo ef mae'r hawl cyfreithiol i benderfynu y mae ei bendderfyniad yn gwneud nonsens o ddatganoli a democratiaeth.

Mae democratiaeth ynghlwm â rhoi'r grym yn ôl yn nwylo cymunedau.

Yn ogystal bydd Siân Howys, Cadeirydd Grwp Democratiaeth Cymdeithas yr Iaith, yn cynnal sesiwn ar ddwyieithrwydd yn y Cynulliad.

Twf democratiaeth yng Nghymru'r 19eg Ganrif.

Er mwyn hybu democratiaeth gynrychioladol rhaid i'r Cynulliad sicrhau ffyrdd o gynnal deialog real a pharhaus gyda mudiadau pwyso sydd am lobio aelodau'r Cynulliad a gyda'r sector gwirfoddol.

Mewn democratiaeth, caiff y rhain eu cynnwys gan y diddordebau dominyddol cyn belled ^a'u bod yn cadw o fewn ffiniau derbyniol, ac nad ydynt yn creu bygythiad i'r drefn ddominyddol.

Does na ddim anghysondeb yn y ffaith 'mod i'n aelod o Bwyllgor Democratiaeth o fewn Cymdeithas yr Iaith.

Oddi ar hynny yr ydym wedi cael nifer o drafodaethau adeiladol gyda'r weinyddiaeth Lafur ar bob lefel yn dilyn ail ddyfodiad rhannol democratiaeth ar ôl 1997.

Democratiaeth ydi hawl cymunedau i reoli eu dyfodol eu hunain.

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Democratiaeth, bu Alun Llwyd yn siarad yn y Cyfarfod Cyffredinol am weledigaeth Cymdeithas yr Iaith o Ryddid i Gymru.

Serch hynny, y mae'r nod o sefydlu democratiaeth ddiwylliannol a chyfiawn i gwrdd â chyfrifoldeb yr unigolyn tuag at draddodiadau ei genedl yn nod y dylid brwydro i'w chynnal hyd eithaf ein gallu, a thrwy ennill calonnau ac ewyllys y bobl y mae unrhyw beth, dybiwn i, yn bosibl.

Oddi ar hynny yr ydym wedi cael nifer o drafodaethau adeiladol gyda'r weinyddiaeth Lafur ar bob lefel yn dilyn ail ddyfodiad rhannol democratiaeth ar ol 1997.

Franco yn dienyddio pump aelod o fudiad ETA o Wlad y Basg, ond yn marw ddau fis yn ddiweddarach a'r Brenin Juan Carlos yn dod yn ben ar y Llywodraeth, hyn yn arwain at ailsefydlu democratiaeth yn Sbaen.

Cyfres o raglenni yn targedu pobl ifanc o 16 oed i'w helpu i ddeall democratiaeth yng Nghymru a dod yn ddinasyddion gweithredol oedd Your Assembly - the Ultimate Guide.

Fel y gwyddys, gadawodd Bebb y Blaid oherwydd iddo anghytuno â'i Niwtraliaeth - safbwynt tra gwahanol i eiddo ei feistr 'athrylithgar', Charles Maurras, a ddarganfu ei fod yn casa/ u Iddewon, Bolsieficiaeth a Democratiaeth yn fwy, hyd yn oed, nag y casâi'r Almaen.

Dydi democratiaeth ddim yn golygu cael yr hawl i anfon Cynog i Gaerdydd yn lle Llundain.

Yno yr oedd awelon hunanlywodraeth a democratiaeth yn chwythu'n gryf.

Am genedlaethau bu eu capeli ymreolus yn feithrinfa democratiaeth ac yn fagwrfa arweinwyr undebau llafur a'r Siartiaid a'r pleidiau gwleidyddol.

O ran democratiaeth, mae'r mudiad yn dal i ystyried athroniaeth Jefferson yn ddilys, ac mae'n cytuno'n llwyr â fformwla Lincoln o lywodraeth y bobl, gan y bobl, ar gyfer y bobl'.

Â'r Cynghorau Unedol newydd wrthi'n paratoi ar gyfer grym, cyhoeddodd y Pwyllgor Democratiaeth restr o ofynion iddynt i sicrhau eu bod yn gweithredu'n gadarn dros y Gymraeg, gan gynnwys cyflwyno polisi iaith cadarn; llunio Cynllun Addysg Cymunedol; creu strategaeth dai a chynllunio; sefydlu Pwyllgor Datblygu Economaidd; ffurfio Fforwm Ieuenctid i'r Sir; a sicrhau cydweithio ymhlith y Cynghorau i greu Fforwm Cenedlaethol i ddwyn gwir bwysau ar y Llywodraeth Ganolog mewn meysydd tebyg i addysg a thai, ac yn y pen draw i gymryd lle'r Quangos.

Fel y dywedodd yr Arglwydd Devlin - "Y rheithgor yw'r llusern sydd yn dangos fod democratiaeth yn fyw%.