Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

denau

denau

Meic, Christy... ond Steve sydd ar y blaen eto bron yn ddieithriad Mae ehangder y sbectrwm o Viva Reveloution Galesa i Croen Denau yn rhyfeddol.

Deallwn i wyl Seilo gael cyfarfod y prynhawn i'r plant, eitha' llewyrchus ond braidd yn denau mewn cynulleidfa a chystadlu oedd cyfarfod yr hwyr.

R'on i'n gwrando ar lais profiad a sylweddoli ar yr un gwynt fod y ffin yn denau a niwlog rhwng cofnodi darlun gwrthrychol o'r erchyllterau a chofnodi darlun oedd wedi'i osod yn ofalus i roi argraff wrthrychol.

Ac, ymhob man, cþn, rhai erchyll o denau, strae.

Yr un fwyaf egr lC amrwd ei bygythiad a'i hanogaeth ydyw Ltais y Priodfab Howell Davies, lle traethir yn ebydllon am of nadwyaeth uœern, ac yna am erfyniad y Mab am le yn y galon; ond mewn print, ymddengys ei dannod a'i dyhead yn hynod denau.' O'u cym~ru ~ hon, mor aeddfed, mor rhesymegol, mor flasus ydyw pregethau Rowland !

Yn enedigol o'r ardal - fe'i magwyd yn Nhalysarn - dywed i'r holl bwyllgorau fod yn eithriadol o weithgar ac er fod llai o "ddwylo'' i'w cael nag mewn ambell ardal arall oherwydd poblogaeth denau ni fu pall ar eu brwdfrydedd, meddai.

Gorwedda'r ddau pollinium sy'n llawn paill ar ffurf pedol uwchben, ac mae'r ddisg ludiog ym môn y goes denau sy'n cynnal y pollinium yn glynu'n dyn yn llygaid mawr y gloyn.

Roedd Grenville ar ben ei hun ym Mhorthmelgan ger Ty Ddewi - roedd o'n denau ac efo problemau ar ei lygaid.

Dyna pam y mae cymaint o bobl denau yn cael eu gyrru i redeg a loncian.

Pan oedd y cydio maes wrth faes yn digwydd, nid colli'r teuluoedd oedd yn byw yn y ffermydd yn unig yr oedd y gymdeithas; roedd y gweithwyr a'u teuluoedd yn gadael hefyd, ac yr oedd y crefftwyr yn mynd yn brin ac yn diflannu, ac nid oedd angen gwasanaethau ar boblogaeth denau oedd yn nychu i'w thranc.

Safwn o flaen y dyn pen moel yn y siaced law denau, trywsus brown golau, crys brown golau; edrychai fel pawb a neb, meddyliais, a dim.

Lle'r oedd Emli'n fyr ac yn dew, yr oedd hon yn dal ac yn denau; os oedd dwyfron Wmli'n llawn ac yn amlwg, prin y gwyddech chi bod gan y llall fronnau o gwbl; lle'r oedd Emli'n bendant ei cherddediad a phenderfynol yr olwg arni, edrychai'r llall yn swil a diymhongar a di-ddweud.

'Roedd y cawl yn denau, ond gallem weld fod yna gig ynddo.

Roedd siâp anarferol iddo, yn denau a chul fel bys ychwanegol, heb unrhyw dro yn y cymal cyntaf.

Hefyd, gellir rhoi mwls, sef haen denau o ddeunydd organig o amgylch eu bonion Tail pydredig fyddai orau ond, os nad yw ar gael, gellir defnyddio compost.

Gwelai hogiau'r sied, eu capiau i lawr yn isel am eu pennau, a golwg denau, lwyd arnynt, yn sgythru yn yr oerni wrth sefyll yn nrysau'r sied yn disgwyl caniad.

Un denau a thryloyw yw'r amrant hon.

Tyrd yma am funud." LLanc ifanc, tlodaidd ei wisg, oedd Aled Owen, yn edrych yn dal am ei fod mor denau.

Roedd y milgi yn fawr ac yn denau ac yn heglog.

"Canu carolau wir, a Ffrainc yn gwaedu." Wrth i'r ddau gerdded hyd strydoedd cefn culion yr hen dref, roedd haen denau o eira yn sefyll dros y cerrig crynion ar ganol y ffordd ac yn prysur orchuddio toeau'r tai.

Yn wir roedd o mor denau roeddech chi'n gallu cyfrif ei asennau o ac er ei bod hi wedi tantro gymaint yn erbyn ei gael o, roedd gan Mam biti drosto.

Dywed fod pobl denau, ar y llaw arall, yn llawn tyndra ac anniddigrwydd parhaus syn ei gwneud yn amhosib bron iddyn nhw ymlacio.

Hyd yn oed heddiw, mae'r llinell rhwng gohebydd rhyfel a gohebydd tramor yn un denau iawn - yn unol â natur ddiffygiol newyddiaduraeth, dim ond pan fydd pethau wedi mynd yn wirioneddol ddrwg y bydd y byd yn cymryd diddordeb.