Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deniadol

deniadol

Trewir y darllenydd yn syth gan ddiwyg deniadol y llyfr.

Wel yn y tymor byr y briodwedd fwyaf deniadol yw'r un electronig.

Er hynny, ni chofiaf erioed i mi ddarllen dim di-werth a ddaeth o'i law; i'r gwrthwyneb, gallai ysgrifennu am yr hyn a ymddangosai'n ddi-werth mewn ffordd mor fyw a deniadol fel na ellid ymatal rhag myfyrio ar ei gyfansoddiadau drosodd a thro, gan droi cylchgrawn dros amser yn drysor parhaol i'w anwylo.

Roedd adeiladau hen, prydferth, y dref yn adlewyrchu haul y bore ac roedd arogleuon deniadol coffi ffres yn yr aer.

Mae shiap bwa'r plu yn torri ar hirsgwar y ffenestr, ac ochr potel ar grymedd powlen, ac yna trwy'r ffenestr a'r cip o gwmwl mae awgrym am ryw dirwedd deniadol tu draw.

Yr oedd ei chartref bach yn glud, a destlus, a deniadol.

Amheuai eu gogwydd tuag at Gatholigiaeth a'u gwrthwerinoldeb, bid siwr; eithr yr hyn a barai'r anesmwythyd mwyaf iddo oedd parodrwydd digwestiwn eu hadwaith: 'Nid wyf yn hoffi ffolineb y Sais; ond nid wyf yn hoffi ychwaith ffolineb Ffrainc, ac ni all haeriadau Ffrainc fod ddim mymryn mwy deniadol i'm twyllo na haeriadau Lloegr.' Yn ei hanfod, ymryson oedd dadl Gruffydd a Lewis ynghylch pwy oedd gwir gynheiliad 'yr hen ddiwylliant Cymreig.' Yr oedd diffiniadau ehangach o'r cychwyn yn iswasanaethgar i Gymreigrwydd y ddwy estheteg a bleidiwyd.

Er gwaethaf hynny, roedd yn amlwg fod y merched yn edrych flynyddoedd yn ieuengach ac yn fwy deniadol gyda phob cegiad o gwrw Higsons.

Y broblem oedd, ac yw efallai, fod y gwerthoedd hynny yn gallu bod yn fwy deniadol, ac weithiau gyda mwy i'w gynnig beth bynnag.

Parseli deniadol yn sach amser yw tymhorau pysgota i mi.

Y môr a'i drysorau fydd y thema a ddefnyddir ac fe'i cyflwynir mewn modd lliwgar, hwyliog a deniadol.

Mae gwir angen cynnal ymchwil bwrpasol i ddarganfod ffyrdd deniadol ac effeithiol a fydd yn ysbrydoli a symbylu pobl ifanc i ddefnyddio'r iaith yn fwy naturiol.

Ei hamcan oedd ceisio datrys y problemau a wynebai'r pentref, ac yn fwy na dim, ceisio ei gwneud yn fwy deniadol ac ymarferol i bobl if ainc fod eisiau aros a setlo yn yr ardal.

Mi glywais i fod o'n ddigartref." Ar hyn o bryd mae Densil John yn aelod o bwyllgor 'ambarel' sy'n ceisio cofleidio nifer o'r asiantaethau sy'n gweithio gyda'r digartref yn y ddifleidio n "Mae Caerdydd yn fwy deniadol na Merthyr ac yn ganolfan i'r Cymoedd.

I'r tadau Methodistiaid Calfinaidd ym Mon, ac yn wir ym mhob ardal yng Nghymru bron, roedd Gwyddelod a Phabyddion i'w hosgoi ar bob cyfrif, ac felly roedd llongau Cymreig yn perthyn i Fethodistiaid Calfinaidd Cymraeg, gyda chapteiniaid a swyddogion a oedd yn aelodau o'r un enwad, yn llawer mwy deniadol na llongau porthladdoedd Lloegr a oedd yn llawn o Wyddelod tlawd, afiach.Dyma pam y daeth llongau Davies Porthaethwy mor boblogaidd a chawsant lwyddiant ysgubol yn y fasnach i Ogledd America, gyda'u llongau'n cludo llechi ac ymfudwyr i Quebec, Efrog Newydd a New Orleans, ac yn dychwelyd gyda llwythi gwerthfawr o goed Gogledd America i adeiladu tai a llongau yn yr hen wlad.

Lleddir y morloi bach ar yr adeg yma oherwydd pe baen nhw'n cael byw yn hwy fe fuasai eu cotiau yn troi'n lliw brown llai deniadol.

Mae hyn yn arwydd arall bod de Cymru'n yn lle deniadol ar gyfer cwmnïau yn y sector ariannol.

Llawlyfr lliwgar yn dangos sut i greu patrymau Celtaidd deniadol.

Yn ôl disgrifiad manwl Iolo mae'n amlwg fod Sycharth yn llys deniadol iawn.

Rown i'n un o bedwar a fu'n gollwng gollwng coffin Madog i'r pridd ac rwy'n cofio taflu cipolwg ar Luned wrth i fi neud hynny a gweld 'i bod yn dra deniadol mewn du.

Mae is-ddiwylliant yr ifanc yn eithriadol o gyfoethog a deniadol, ac felly'n rymus.

Wrth i'w cynulleidfaoedd chwyddo, tyfai'r gweinidogion yn fwyfwy dylanwadol, a daeth yr ardal ddiwydiannol yn faes cenhadaeth deniadol i ŵyr brwdfrydig a dysgedig megis Thomas Rees, Cendl, Noah Stephens a Robert Ellis (Cynddelw), Sirhywi, John Jones (Ioan Emlyn), Glynebwy a William Roberts (Nefydd), y Blaenau.