Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

derbyniodd

derbyniodd

Derbyniodd athrawon sir Aberteifi y 'gwrthod' fel sialens bersonol.

Derbyniodd ein cyngor a chadwodd draw.

Derbyniodd erfyniadau Jack Bevan, Thomas Jones ac eraill ymateb oeraidd iawn gan y mil a hanner o bobl oedd wedi ymgynnull erbyn hynny.

Gan mor rymus yw arferion cymdeithasol a gallu'r dosbarth breiniol i ddylanwadu ar y sawl a dybiant sy'n isradd iddynt, derbyniodd y Cymry Cymraeg y drefn hon heb fawr brotest.

Ufuddhaodd y bachgen a derbyniodd y gosb.

Dridiau cyn iddo gychwyn derbyniodd Hector lythyr, rhyw brofiad anghyffredin yn ei hanes llwm.

Derbyniodd Mam ei gair, debyg iawn.

Fel y mwyafrif a wynebai'r crocbren, derbyniodd Smith bardwn a'i alltudio.

ar ôl concro ffrainc, aeth ymlaen i'r eidal, ac o fewn chwe mis yr oedd wedi eu concro hwythau ; yno derbyniodd urdd st.

Derbyniodd Ali'r esboniad nes i'r heddlu alw chwarter awr yn ddiweddarach gan ofyn a oedd popeth yn iawn.

Yn rwgnachlyd, derbyniodd yr athro'r disgybl newydd i'r dosbarth, ac ymfwriodd yntau'n frwd i'w astudiaethau.

Y mae'n cael ei ddisgrifio fel argraffydd a derbyniodd ei hyfforddiant yn y maes hwnnw gan Isaac Clarke.

Yr wyf yn cofio mai'r Parchedig Eric Grey, rheithor Brechfa, Abergorlech, a Llanfihangel Rhos-y-corn ar hyn o bryd, a'n derbyniodd i'r maes parcio ceir, ac imi lawenhau o sylweddoli ei fod yn ŵr mor gyfrifol yn ei berthynas â'i dreftadaeth genedlaethol.

Derbyniodd yr aelodau newydd eu cymun cyntaf yn ystod y gwasanaeth.

Derbyniodd Huw Lewis (20 oed) a Hedd Gwynfor (20 oed), y ddau yn fyfyrwyr yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, rybudd swyddogol gan yr heddlu cyn cael eu rhyddhau.

Daeth ei yrfa yn y fyddin i ben ar ôl 15 mlynedd, y cyfnod hiraf y gallai aros yno, a derbyniodd bensiwn o £17.

Derbyniodd ei addysg yng Nghaernarfon ac yno y'i trwythodd ei hun am y tro cyntaf yn y clasuron.

Yng ngolwg llaweroedd, dychmygol yn unig oedd y rhagfuriau rhwng Lambeth a'r Fatican, a derbyniodd Esgob Bagot, Rhydychen, lu o lythyrau yn galw am ddiswyddo Newman.

Derbyniodd argae Pergau gymorth oddi wrth Brydain o dan y llwyodraeth Dorïaidd, er gwaetha'r dadleuon am effaith amgylcheddol y cynllun oherwydd fod llywodraeth Malaysia yn prynu arfau Prydeinig.

roedd amryw o gyfeillion henry richard yn ei edmygu'n fawr am ei waith a'i safiad dros heddwch parhaol a byd-eang, ac fel arwydd o'u hedmygedd derbyniodd rodd o bymtheg cant o bunnoedd, ynghyd â beibl.

Derbyniodd Harri Gwynn y telerau hynny.

Derbyniodd y ddwy ddedfryd o saith mlynedd tu hwnt i'r moroedd.

Derbyniodd y Llys gyfraniad, oherwydd yr elw ym Mhwllheli, a oedd ymhell y tu hwnt i'w ddisgwyliadau ddwy flynedd yn gynharach.

Fydd rhaid i chi ddim cael bws o Sir Fôn felly." Felly y derbyniodd y tri gynnig caredig Huw.

derbyniodd y gol- geidwad y cyfrifoldeb am y gôl.

I ychwanegu sen at sen, derbyniodd Rhys ffurflenni uniaith Saesneg gan Lys Ynadon Caernarfon.

"Diolch yn fawr," derbyniodd ei gynnig yn gwrtais ond yn bell ac oeraidd.

Derbyniodd yn ysbrydol ac yn feddyliol drwy dy weithred di.

Rowlands ddod i'r cyfarfod hwn ond derbyniodd y gwahoddiad i annerch y cyfarfod ym mis Mawrth.

Astudiodd yn Ysgol Gerddoriaeth Chethams, y Conservatorio di Francesco Morlacchi, Perugia a Phrifysgol Caergrawnt, lle derbyniodd ysgoloriaethau corawl ac academaidd ill dau (yn ogystal â bod yn lesyn pêl-droed), cyn cychwyn ar Ysgoloriaeth Arwain yn y Coleg Cerddoriaeth Brenhinol, o dan Norman del Mar.

Doedd Rhian ddim yn y llys ond derbyniodd adroddiad manwl gan Ben.