Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

derbynnir

derbynnir

Os derbynnir y modd y crewyd ac y cychwynnwyd bywyd yma ar y Ddaear yn ol tystiolaeth ddiweddaraf seryddwyr a biolegwyr, yna rhaid inni hefyd dderbyn y gosodiad hwn: sef, os yw'r un amodau yn bod yn rhywle arall yn y gofod yna mae posibilrwydd fod bywyd yno yn ogystal.

Derbynnir ymgeiswyr yn aelodau drwy arholiad sydd bum gwaith yn haws nag arholiad isaf Prifysgol Cymru'. Achosodd ei sylwadau rwyg enfawr rhwng y Brifysgol a'r Orsedd.

Yn unol â hyn cawn yr Athro W J Gruffydd yn maentumio fod tri chyfnod yn hanes barddoniaeth pob gwlad, sef, i ddechrau, gyfnod barddoniaeth lwythol, yn ail, cyfnod ymledu pryd y derbynnir dylanwadau allanol, ac yn drydydd, cyfnod ymdeimlad cenedlaethol dwys, megis cyfnod Shakespeare yn Lloegr a chyfnod Goethe yn yr Almaen.

Os derbynnir y ddadl honno, rhaid derbyn yn ogystal mai pris mynediad ar y telerau hynny oedd stad o israddolder andwyol sy'n dal i grawnu yn ein bywyd cenedlaethol gan 'dorri mas yn achlysurol yn gornwydydd piws.

Nid heb gryn betruster y derbynnir y masnachwyr newydd.