Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

derfynol

derfynol

Galwn ar i'r Cynulliad Cenedlaethol i ymddiheuro ac i ddatgysylltu ei hun yn llwyr oddi wrth y geiriau uchod gan wneud yn siwr na fyddant yn ymddangos yn y fersiwn derfynol o'r ddogfen a anfonir i Ewrop.

Voltchkov, o Belarus, yw'r dyn cynta ers John McEnroe yn 1977 i gyrraedd y rownd gyn-derfynol ar ôl chwarae yn y rowndiau rhagbrofol.

Awdurdodwyd y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd yr Is-bwyllgor Staff neu Gadeirydd y Pwyllgor Rheoli a'r Prif Swyddog perthnasol neu Reolwr y Gwasanaethau Uniongyrchol i ddelio'n derfynol ag achosion o'r natur hwn.

Chwaraeir y gynta o rowndiau cyn-derfynol Pencampwriaeth Euro 2000 - sef honno rhwng Ffrainc a Portiwgal - yn Rotterdam heno.

Abertawe a Wrecsam fydd yn cystadlu am y Cwpan Cenedlaethol y tymor hwn, ar ôl i'r ddau ennill eu gemau rownd gyn-derfynol yn eitha cyffyrddus neithiwr.

Daeth Cymru mor agos i guro'r Goliath o dîm o Awstralia yn rownd gyn-derfynol Cwpan Rygbi Cynghrair y Byd yn Stadiwm McAlpine yn Huddersfield, neithiwr.

Mae Rioch yn dod yn lle John Benson, a ymddiswyddodd ar ôl i'r tîm golli yn rownd derfynol gemau ail-gyfler Ail Adran.

Yn hytrach na synio am Siôn fel un sydd wedi ymadael â'r byd hwn yn derfynol (fel yr awgrymir gan yr ystrydeb 'yr ymadawedig'), mae'r gerdd yn ei ddarlunio fel petai'n dal i fodoli.

Ffrainc sydd drwodd i rownd derfynol Euro 2000 ar ôl i Zinedine Zidane sgorio o'r smotyn ym munudau ola yr hanner awr ychwanegol.

Yn y rownd gyn-derfynol arall bydd pencampwraig y llynedd, Lindsey Davenport yn wynebu Jelena Dokic.

Mae Lerpwl trwodd i rownd gyn-derfynol Cwpan UEFA ar ôl curo Porto o ddwy 2 - 0 yn Anfield - a 2 - 0 dros y ddau gymal.

Mae angen tair ffrâm arall ar Williams i gyrraedd y rownd gyn-derfynol.

Llongyfarchwyd Cangen Caernarfon yn gynnes iawn ar ennill y rownd derfynol o'r Cwis Llyfrau yn Llanbedr Pont Steffan.

Bu raid i Gymru chwarae amser ychwanegol cyn curo Georgia 38 - 33 yn y rownd derfynol.

'Bydde Mai 5 yn anodd achos bod gêm derfynol Cwpan yr FA yr wythnos wedyn.

Cawsom gynnwrf rowndiau cyn-derfynol a therfynol y gystadleuaeth Choir of the Year yn ystod penwythnos yr Wöyl.

Mae Cymru wedi gwneud popeth oedden nhw'n moyn wneud - sef cyrraedd y rownd gyn-derfynol.

Llongyfarchwyd y ddwy aelod o Gaernarfon a gyrhaeddodd y rownd gyn-derfynol yn Y Drenewydd.

Yn rownd derfynol Rhanbarth y De ar y Vetch neithiwr, fe gollon nhw o dair gôl i ddwy yn erbyn Brentford.

O'r digwyddiad hwnnw ymlaen, un tîm oedd ynddi, ac ar y diwedd, Llanelli aeth drwyddo i'r rownd gyn-derfynol, gyda sgôr o ddeg pwynt ar hugain i dri, a'r hawl i wynebu sialens tîm arall o gryse duon--ond cryse duon o Gastell Nedd y tro hwn, a'r gêm yn cael ei chware ar faes San Helen yn Abertawe.

Y sgôr derfynol oedd 46 - 20, gyda'r capten Craig Quinnell yn sgorio dau o'r chwe chais.

'Byse'n well 'da ni gwrdd â nhw yn y rownd derfynol.

Cafodd y Saeson eu bowlio allan am 182 yn eu gêm rownd go-gyn-derfynol yn erbyn De Affrica.

Abertawe, felly, sydd trwodd i'r rownd gyn-derfynol - ond clod hefyd i'w golwr Jason Jones.

mae'r trydydd detholyn, Magnus Norman, drwodd i rownd derfynol Pencampwriaethau Tenis Agored Ffrainc yn Paris ar ôl curo Franco Squillari o dair set i ddim.

Am y rownd gyn-derfynol arall, mae Portiwgal wedi creu argraff fawr arna i.

Yn rownd gyn-derfynol y dynion yfory bydd Andre Agassi yn wynebu Patrick Rafter am yr ail flwyddyn yn olynol a phencampwr chwech o'r saith mlynedd ddiwetha, Pete Sampras, yn wynebu Vladimir Voltchkov.

Mae Serena Williams eisoes trwodd i'r rownd gyn-derfynol ar ôl curo ei chyd-Americanes, Lisa Raymond, 6 - 2, 6 - 0, y prynhawn yma.

Methodd y gwibiwr o Gasnewydd, Christian Malcolm, a chyrraedd rownd derfynol y 60 metr ym Mhencampwriaethau Athletau Dan-do y Byd yn Lisbon.

Yr eilydd Michael Blackwood rwydodd y drydedd wedi 64 munud, a hynny efo'i gyffyrddiad cynta yn y gêm, a roedd y deiliaid gam yn nes at rownd derfynol arall yn y Cwpan Cenedlaethol.

Yn ail gymal y rownd gyn-derfynol, curodd Bayern enillwyr y gystadleuaeth llynedd, Real Madrid, 2 - 1, sef 3 - 1 ar gyfanswm goliau.

Maen nhw wedi cymryd cam bras tuag at y rownd derfynol a gêm debygol yn erbyn Wrecsam sydd hefyd â dwy gôl o fantais dros Y Barri ar ôl eu gêm cymal cynta' nhw.

Yn y rownd derfynol y tymor cynt, roedd blaenwyr Castell Nedd wedi llwyddo i roi crasfa go iawn i ni, ac wrth gwrs, roedd

Mae gemau'r rownd gyn-derfynol dros 33 ffrâm ac yn para am dridiau.

Ymhlith y chwaraewyr ifanc sydd ar y daith mae Gavin Henson (Abertawe) a Robin Sowden-Taylor (Caerdydd). Roedd y ddau yn aelodau o garfan dan 19 Cymru gyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Cwpan Ieuenctid y Byd yn Chile.

(ch)Pob gwaith arolwg a ffurfio polisi%au ar gynlluniau statudol ac anstatudol megis y cynlluniau lleol a'r Cynllun Fframwaith cyn belled ag y mae angen gwneud hynny i baratoi'r cynlluniau neu'r polisi%au neu sylwadau drafft mewn ffurf derfynol i'w mabwysiadu gan y Pwyllgor er mwyn eu hargymell i'r Cyngor yn unol â (d) isod.

Heno chwaraeir ail gymal yr ail gêm gyn-derfynol.

Bu'r flwyddyn a aeth heibio yn un gofiadwy i genedl y Cymry: agor y Cynulliad Cenedlaethol a, llai na deuddeg mis wedyn, ymddiswyddiad dramatig y Prif Ysgrifennydd Alun Michael; y gêm agoriadol yn Stadiwm y Mileniwm ac, wrth gwrs, Cwpan Rygbi'r Byd a drodd Caerdydd yn un parti mawr ar ddiwrnod y gêm derfynol.

Gyda'r canlyniad yna, pell iawn oedd y gobeithion am gyrraedd y rownd derfynol, ond fe'n tynnwyd i wynebu Pen-y-bont yn rownd yr wyth ola, a hynny ar y Strade.

Cyhelir dwy gêm rownd gyn-derfynol Cwpan Rygbi'r Principlity yn Stadiwm y Mileniwm yfory.

Disgwylir cadarnhad cyn bo hir y cynhelir rownd derfynol Cwpan Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm.

Mae Mark Williams wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol Pencampwriaeth Snwcer China.

Mae'n Rownd Derfynol Cwpan Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm yfory, a llygaid y byd ar Gaerdydd.

Fe gurodd hi Sara Mountford yn y rownd gynderfynol cyn ennill o ddau dwll ac un yn weddill yn erbyn Sarah Jones o Abertawe yn y rownd derfynol.

Chwaraewyd rownd derfynol Cwpan Gilbert yn Aberystwyth ddoe.

Doedd y gêm gyn-derfynol rhwng Ffrainc a Portiwgal ddim cystal âr disgwyl ond roedd hi'n ddadleuol.

Am nad oedd o wedi penderfynu'n derfynol ar y math o gi roedd am ei gael, doedd o ddim wedi dewis enw.

Mae gobeithion Leeds United o le yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr wedi'u chwalu - ar ôl iddyn nhw golli 3 - 0 yn Valencia.

Tipyn o drip - o'r stafell newid, lle bu tîm Ffrainc cyn eu gêm derfynol yng Nghwpan Rygbi'r Byd, i'r seddau Brenhinol.

Mae Clwb Rygbi Harlequins yn bygwth gwrthod chwarae eu gêm rownd gyn-derfynol gyda Newcastle yn Nharian Ewrop.

Atebodd Idris hi'n bendant ac yn derfynol nad oedd am ildio'r Afal Aur, ond nid cyn i'r Ffantasia ffug afael ynddo gerfydd ei fraich i ddwyn yr afal hud.

Mae Lerpwl trwodd i rownd gyn-derfynol Cwpan Worthington ar ôl curo Fulham 3 - 0 neithiwr.

Yn y Cwpan Cenedlaethol heno bydd Y Barri a Wrecsam yn chwarae cymal cynta'u gêm nhw yn rownd gyn-derfynol y gystadleuaeth.

Wedir tor-calon o golli i Sir Gaerloyw yn rownd derfynol Cwpan Benson & Hedges ddydd Sadwrn, daeth newydd calonogol i Robert Croft ddoe.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Pêl-droed Cymru, David Collins, wedi dweud eu bod nhw wedi gwneud cais i UEFA, i gynnal rownd derfynol un o brif gystadleuthau Ewrop yn y stadiwm ymhen dwy flynedd.

Mae Abertawe'n ffefrynnau i gyrraedd rownd derfynol y Cwpan Cenedlaethol ar ôl iddyn nhw guro Merthyr 2 - 0 ar Barc Penydarren neithiwr.

Bedwyr Lewis Jones) gyda chynnwys hefyd y delyneg yn ei ffurf 'derfynol' ar y pryd.

Chwaraeir y rownd derfynol ddydd Sul.

A wedyn dwad yn ôl i'r cnebrwng.' Yn ei ffordd ryfedd ei hunan, roedd y meddyg wedi cyhoeddi'r ddedfryd derfynol ar gyflwr Mam.

Eisoes mae golygon pawb yn troi tua'r penwythnos a rownd derfynol Cwpan y Principality ddydd Sul - Casnewydd yn erbyn Castell Nedd.

Yn rownd gyn-derfynol y merched yn Wimbledon heddiw, bydd y chwiorydd Williams, Venus a Serena, yn wynebui gilydd ac enillydd y llynedd Lindsay Davenport yn chwarae yn erbyn Jelena Dokic - sydd ddim ymhlith y detholion.

Am yr amrywiaeth derfynol rwyf am fynd yn ol at dagell y Deufalfiaid.

Caersws fydd yn chwarae yn erbyn Y Barri yn rownd derfynol Cwpan Gilbert fis nesa ar ôl ennill 4 - 0 yng Nghroesoswallt yn ail gymal y rownd gyn-derfynol.

Gyda Rownd Derfynol Cwpan Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm dridiau i ffwrdd, roedd Lerpwl neithiwr yn dal i drïo sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesa.

Bolton a Preston fydd yn rownd derfynol gemau ail gyfle'r Adran Gyntaf yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd wythnos i ddydd Llun.

'Pan ddaeth y newydd gynta am gynnal y rownd derfynol yng Nghaerdydd roedd pobol yn fy ffonio, ddim yn gwbod sut bydde'r chwaraewyr yn ymateb i chwarae yno.

Gwnaed hynny cyn setlo'n derfynol beth fyddai galluoedd y Senedd arfaethedig.

Mae Pencampwriaeth y Byd yn dal heb ei phenderfynu'n derfynol.

'Bydd y rownd derfynol yn erbyn Alaves bedwar diwrnod wedi Cwpan FA Lloegr - mi fydd yn dipyn o ddiweddglo i'r tymor.

Bydd Caerdydd yn wynebu Merthyr am le yn rownd gyn-derfynol y Cwpan Cenedlaethol heno.

Rhyw fras nodiadau a fyddai ganddo, ac wrth ei thraddodi y rhoed i'r ddarlith ei ffurf derfynol.

Ni fydd Jason Jones Hughes, canolwr Cymru sy'n enedigol o Awstralia, yn chwarae i Gasnewydd yn erbyn Castell Nedd yn rownd derfynol Cwpan y Principality brynhawn Sul.

Ond yn y rownd gyn-derfynol mae'n cyfarfod y chwaraewr sydd ar dân, Ronnie O'Sullivan, sy eisoes wedi ennill dwy bencampwriaeth y tymor hwn a cholli'n y rownd derfynol mewn un arall.

Wrecsam yw'r ffefrynnau i gyrraedd rownd derfynol y Cwpan Cenedlaethol - ar ôl iddyn nhw ennill cymal cynta'r gêm gyda'r Barri, 3 - 1, ar Barc Jenner.

Yna, cafwyd camgymeriad gan Paul Giles ac ergyd Michael Keegan yn curo Neil Thomas a sicrhau lle i Abertawe yn y rownd derfynol ar y Vetch nos Lun.

Dyna drefn gemau rownd gyn-derfynol Euro 2000.

Daeth mwy o newyddion da i Gaerdydd yn dilyn rownd derfynol y Cwpan ddydd Sadwrn.

Mae Casnewydd yn sâff o'u lle yn Ewrop y tymor nesaf, a bydd eu meddyliau nhw'n troi at rownd derfynol Cwpan y Principality wythnos i ddydd Sul.

'Ond rydyn ni wedi paratoi'n dda - ni wedi ymarfer yn galed - a rwyn credu bod cyfle da gyda ni i fynd trwodd i'r rownd derfynol.

Mae'r Gymraes Hayley Tullett drwodd i rownd derfynol y râs 3,000 metr ym Mhencampwriaethau Dan-do y Byd yn Lisbon.

Ar ôl llwyddiant rownd derfynol Cwpan Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn, mae gobaith y gellir denu rhagor o brif rowndiau terfynol pêl-droed iddi.

A hwythau wedi colli o ugain rhediad yn erbyn Indiar Gorllewin ddoe, bydd yn ddiwrnod mawr arall i Forgannwg yfory - rownd derfynol Cwpan Benson & Hedges yn erbyn Sir Gaerloyw.

Yn amlach na pheidio, âi pob gofyniad o eiddo'r gweithwyr i rownd derfynol y gyfundrefn, lle 'roedd y cymrodeddwyr yn grintachlyd iawn eu dyfarniad oherwydd y dirwasgiad masnachol.

Mae Caerdydd wedi methu cyrraedd rownd gyn-derfynol y Cwpan Cenedlaethol.

Barn derfynol y dadansoddwr craff hwn yw:

Bydden ni'n disgwyl i Gymru fynd trwodd i'r rownd gyn-derfynol ond wedyn byddan nhw'n whare Awstralia.

Mae Llanelli yn gyfarwydd iawn â'r Cwpan Heineken ar ôl cyrraedd y rownd gyn-derfynol y llynedd.

Martina Hingis yn erbyn Mary Pierce ac Arantcha Sanchez-Vicario yn erbyn Conchita Martinez fydd gemau rownd gyn-derfynol y merched ym Mhencampwriaeth Tenis Agored Ffrainc ym Mharis.

Hefyd heno chwaraeir ail gymal rownd gyn-derfynol Cynghrair y Pencampwyr.

Mae cyn-flaenasgellwr Cymru, Kingsley Jones, yn disgwyl bod ar y fainc ar gyfer gêm Caerloyw gyda Chaerlyr yn rownd gyn-derfynol Cwpan Heineken ddydd Sadwrn.

Yng nghymal cynta rownd gyn-derfynol Cynghrair y Pencampwyr neithiwr curodd Bayern Munich Real Madrid 1 - 0.

Ond gyda dwy gôl o fantais y cochion ydy'r ffefrynnau clir i gyrraedd y rownd derfynol.

Gobaith Robert Croft yw y gall Morgannwg ailadrodd camp llynedd a chyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth.

Rwan mi fyddan nhw'n wynebu tîm arall o Sbaen - CD Alaves - yn y rownd derfynol.

Dyna ni drwyddo i'r rownd derfynol am yr ail dymor o'r bron.

Mae Lerpwl wedi cyrraedd eu rownd derfynol gynta yn Ewrop er 1985 ar ôl curo Barcelona yn Anfield neithiwr yn ail gymal Cwpan UEFA 1 - 0 neithiwr.

Yn y rownd gyn-derfynol bydd Lerpwl yn chwarae Wycombe ac Arsenal yn wynebu Tottenham.

Chwaraeir dwy gêm ail gymal rownd gyn-derfynol y Cwpan Cenedlaethol heno - Wrecsam yn erbyn Y Barri ar y Cae Râs, ac Abertawe yn wynebu Merthyr ar y Vetch.

Bu ymosodwr Cymru, John Hartson, yn chwarae gyda Arsenal rhwng 1995 ac 1997 ac fe chwaraeodd e mewn rownd derfynol gyda'r Gunners - Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop.

Mae enillwyr Cwpan Gilbert y llynedd, Y Barri, drwodd i rownd derfynol eleni ar ôl curo Llanelli 4 - 1 yn ail gymal y rownd gyn-derfynol ar Barc Stebonheath.