Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

derw

derw

Rhwymwyd y llyfr mewn cas derw du.

Aeth i lawr y llwybr troellog at lan yr afon a thoc, arhosodd wrth hen foncyff derw gorweddog gan ddringo'n araf a gofalus i'w ben.

Felly hefyd y mes wedi eu rhostio a'u cadw mewn dysgl o bren derw.

Felly dydi hi ddim yn syndod o gwbwl fod y mwafrif o'r baeddod yn byw ar ynys Morko oherwydd y ffaith syml fod yma goedwigoedd yn llawn o goed derw sy'n rhoi digonedd o fes i'r baeddod, ond hefyd fod yr arfordir yn lle da i'r anifeiliaid hyn ddod o hyd i bryd o fwyd ymysg yr hesg yno a hefyd wrth ddwyn wyau adar gwylltion sy'n nythu yn llu wrth ochr y mor.

Llosgid darnau o goed megis ffawydd, gwern, helyg a derw yn araf ac yn fud mewn pyllau mawr caeedig dros amser hir yn yr haf i gynhyrchu tanwydd ar gyfer y diwydiant haearn a diwydiannau eraill.

Yna, agorwyd drws mawr derw a hyrddiwyd y ddau i mewn i ryw ystafell ym mhen ucha'r castell, a bolltio'r drws ar eu holau.

Ceir coed derw sy'n cochi - y Quercus rubra a'r Quercus coccinea - mae rhai o'r rhain wedi eu plannu yn ein fforestydd ni i ni gael mymryn o liw.

Ynddo ceisiodd egluro sut y ffurfiwyd yr ynys wedi'r Dilyw, a holai beth oedd iaith y trigolion, ai o'r Hebraeg y tarddodd y Gymraeg: disrifiodd gyfraith a chrefydd gynnar yr ynys, athroniaeth a defodau'r Derwyddon, eu tamlau, eu hallorau a'u canolfannau yn y llwyni derw, gan atgynhyrchu'r lluniau o'r henebion derwyddol a gynhwysodd yn ei atebion i Queries Lhwyd.

Pan ddaw'r barrug cyntaf, a dail derw a ffawydd glan yr afon fel creision yd, a sgerbydau'r coed yn cyhoeddi cilio o'r haf a'r hydref - dyna pryd y bydd y ddau bysgodyn yma ar eu gorau.

Trowyd ffriddoedd serth a'r ucheldiroedd yn borfeydd bras, traenwyd y corsydd, plannwyd miloedd o erwau o goed bytholwyrdd felly collwyd cynefinoedd gwyllt, - y coedlannau derw a'r rhosydd a'r grug, a hefyd yr arferion hynafol a ganiataodd i laweroedd o blanhigion ac anifeiliaid ffynnu mewn cydberthynas â dyn.

Os byddai planhigfa o goed derw neu ffawydd neu gyfuniad o'r ddau ar dir y plas elem yno gyda phartner i ogrwn y deilbridd addas fyddai yn drwch danynt a'i storio mewn adeilad ar gyfer amser o angen.

"Rydw i'n cofio'r hen geubren derw yna yn sefyll yn hardd a gosgeiddig ar lan yr afon.

Gellid gwneud cwrw derw oedd yn neilltuol o dda at gryfnau r rhannau hynny o'r corff.

Bu am fordaith yn yr Owen Morris, un o sgwneriaid Porthmadog, ac mae'n ei chanmol fel llong gref wedi ei hadeiladu o goed derw.

Y dewis cyntaf fyddai casglu dail derw a ffawydd ar ôl idddynt ddisgyn, eu storio am ddwy neu dair blynedd ac yna eu gogrwn (rhidyllu) trwy ogr (rhidyll) gyda thyllau chwarter modfedd, a byddai yn barod i'w ddefnyddio.

Mae wedi'i wneud yn gelfydd ar siâp llyfr agored o bren derw a rhai o gymeriadau gweithiau Mary Vaughan Jones (rhai fel Tomos Caradog, y llygoden unigryw) wedi'u llunio mewn arian yn sefyll ar lwyfan o'i flaen.

Ar waelod y grisiau derw llydan safai Hywel Vaughan a'i wraig Lowri.

Aeth yn syth at y drws a churodd yn drwm ar y paneli derw.

Yn y gwanwyn a'r haf fe welir nifer o chwyddau ar ddail a blagur y dderwen.Gelwir y rhain yn farblis coed neu afalau derw.

Derw bob amser oedd defnydd bwl cert yng nghanolbarth Aberteifi.

Mi ddown ni â'n hanifeiliaid i mewn y tu ôl i'r waliau a chau'r drysau derw.