Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

detholion

detholion

Mae swyddogion Pencampwriaethau Tenis Wimbledon wedi cyhoeddi nad pwyllgor fydd yn penderfynu trefn y detholion yng nghystadlaethau senglau'r dynion o hyn allan.

Wel, tebyg fy mod yn geidwadol, ond rhywsut ni fedraf yn fy myw fodloni ar y detholion 'ma; y mae'n rhaid i mi gael y Llyfr i gyd, yn Lefiticus ac yn Gronicl ac yn bopeth.

Gorffennodd y Cymro Phil Price yn wythfed yn rhestr y detholion - ei berfformiad gorau erioed.

Yn rownd gyn-derfynol y merched yn Wimbledon heddiw, bydd y chwiorydd Williams, Venus a Serena, yn wynebui gilydd ac enillydd y llynedd Lindsay Davenport yn chwarae yn erbyn Jelena Dokic - sydd ddim ymhlith y detholion.

Mae Mark Williams wedi sicrhau'i le ar frig rhestr detholion snwcer y byd am dymor arall.

Heddiw, hefyd, bydd Lerpwl yn gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr nhw ym mhedwaredd rownd Cwpan UEFA. Dydy Lerpwl ddim ymhlith detholion y gystadleuaeth, felly medran nhw ddisgwyl y byddan nhw'n chwarae un o fawrion Ewrop, naill ai Barcelona, Roma, Celta Vigo neu Porto.

Ffarweliodd saith o'r detholion âr gystadleuaeth - yn eu plith Leyton Hewitt o Awstralia.