"Tydi hi'n anodd deud y dyddia ma a phawb yn gwisgo'r un fath?
mi geuson nhw row wedyn - Mrs Robaits yn deud y basa hi wedi medru tagu i farwolaeth - ond doeddan ni ddim yn medru peidio chwerthin, roedd o mor ddoniol.
Paid â deud dy fod wedi anghofio 'rhen Leila .
Maen' nhw'n deud imi fod arian da iawn i cael yn y Sywth yna." "Gobeithio 'wir, ond mae cimint yn cael i lladd yn y pyllau glo yna." "Mae digon o hynny yn y chwareli yma, petai hi'n mynd i hynny, a digon o bobol yn marw o'r diciâu." "Oes, digon gwir." "A dyna i chi siopau'r dre yna wedyn.
Daeth chwarelwr if anc go uchel ei gloch i mewn, ac meddai, er mwyn cael tipyn o hwyl ar draul Francis, 'Mae nhw'n deud i mi, Francis, fod pob carreg sydd yn y twr 'na wedi costio punt i Assheton Smith.'
"A'r hogyn bach wedi deud dim byd o'i le!" Y gwragedd!
'Roedd Enoc yn deud .
Ydi Cen ddim wedi deud wrthych chi?' Gollyngodd Bilo ei afael a throdd Dei ei ben i edrych am gadarnhad gan Cen.
Yr unig elfen sydd ddim yn apelio ydi trymder y gitars a'r drymiau ar Deud Celwyddau a Ritalin.
"Deud yr oeddwn i wrth Snowt," meddai Rees wrthyf, "mai er mwyn y darlun y trefnais i'r arddangosfa.
'Mae'n amlwg 'i fod o'n gwybod rhwbath, ond mae'n anodd deud fase hynny'n ein helpu ni a i peidio.
Mae hi'n fyd sobor." "'Dydw i ddim yn cofio byd cyn sobred, er y bydd mam yn deud i bod hi'n waeth pan oedd hi'n ifanc." "Felly y bydd mam yn deud hefyd.
Be' wnaethoch chi?' 'Mi afaelais yn y procar, ac mi es yn ddistaw yn nhraed fy sana', y tu ôl i'r drws a gofyn, "What do you want?" a dyma lais dyn yn deud, "Let me in.
Dydw i ddim yn meddwl y bydd neb yn galaru rhyw lawar ar f'ôl i." "Paid â deud y fath beth." "Mae'n ddigon gwir i ti.
Roedd hi'n deud mae'n siŵr bod gen i fwy o nerth na hi wrth 'mod i'n ifanc, a wedyn mi fues i'n troi handl y mangl rownd a rownd a rownd.
Ar Deud Dim, serch hynny, mae'r pwyslais wedi newid.
Dyden ni ddim yn deud popeth wrthyt ti.
Pridd y wadd, a deud y gwir.'
Os ydi cynhyrchydd yn dweud 'Dwi isio cadair yn fama', rydach chi'n deud 'Pam?' Mae o neu hi'n deud wrthoch chi; iawn, dyma'r fath o gadair wnawn ni'i rhoi - oherwydd mae hi o fewn yr iaith weledol o'n i'n sôn amdani gynnau...
Deud wrthi mai trwsgwl oeddan ni tro dwytha, trwsgwl a blêr, glaw ifanc oeddwn i, yn goesau i gyd fel ebol newydd, doeddwn i heb arfer wrth bwrdd - cofia ddeud wrthi bod yn ddrwg gen i am y llestri - a beth bynnag, chdi oedd y drwg yn y caws go iawn, chdi ddaru droi'r byrddau a chwalu'r lluniau a chwythu'r tân i fyny'r simdde.
Gruffydd Parry, 'rydwi'n deud yn glir ac ar ei ben.
Fedra' i ddim deud yn iawn be' 'roeddwn i'n deimlo." Roedd yn hawdd gweld ar wyneb Snowt fod ateb Aled wedi ei blesio.
Jeans a'r hen gotia peilot yna, fel tasan nhw'n ysu am ryfel" "Fedrach chi ddim deud wrth y llais?" Roedd yn bwysig ei bod yn cael gwybod.
Deud wrthi na wnawn ni ddim llanast.
A deud wrtha chdi am beidio'u maeddu nhw, ia?
Ma' nhw'n deud wrtha i na twyt ti tdim yn gall--ond dydw i ddim yn 'u coelio nhw'.
A deud y gwir Glyn fy mrawd canol, oedd y drwg, fo yn ddieithriad oedd cychwyn pob drygioni yn tŷ ni, wn i ddim am neb sy'n gallu tynnu coes ru'n fath â fo 'Odd Wili mrawd hyna', yn hogyn call distaw, ond efo cyhyrau mewn llefydd nad oedd gen i ddim llefydd.
'Dydw i ddim yn deud nad ydi o'n gwybod rhyw ffeithiau anffafriol am Hogan ond dydi hynny ddim yn helpu'n hachos.
'Anodd deud, achan.' 'Wel, triwch graffu, bendith y nefoedd i chi.' 'Ifan Ifans?' 'Ia?' 'Ma' rwbath yn deud wrtha' i bod ni wedi pasio'r lle...
Wel, cyn i mi gychwyn o'r Penmorfa hwnnw mi es i ati hi, i drio deud wrthi hi bod ddrwg gin i glywad am 'i chollad hi, a ...
'Dwi'n deud wrtha chi rwan, isio'u ffrog- martsio nhw i gyd i'r ffrynt lein sy, i'r Jyrmans gal practis saethu.'
Mi o'n i wedi meddwl cael mynd am dro i weld y dre, ond mae hi wedi deud na cha i ddim mynd os na fydd hi ne' rhywun arall hefo fi, rhag on i mi fynd ar goll.
'Mae'r Beibl yn deud, 'Trwy eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt', ond trwy eu motos yr ydw i wedi 'nabod rhan fwya', meddai.
A deud y gwir yn blaen, mae 'na lai yn 'i ben o nag yn y pennau defaid mae o'n werthu yn 'i siop.
Yr unig opsiwn, felly, ydi rhoi'r CD yn y peiriant, eistedd yn ôl a deud dim... wel, hyd nes bydd y nodyn olaf wedi ei daro beth bynnag.
'Glywist ti?' 'Be?' 'Mae o wedi boddi.' 'Pwy?' 'Ne' wedi marw.' 'Ond pwy, Leusa?' 'Y Captan 'te...Captan Timothy.' ''Rioed?.' 'Cyn wiried â'r efengyl i ti.' 'Pwy oedd yn deud?.' 'Sydna, y forwyn fawr, hi ddeudodd, gynna, pan o'n i yn mynd â'r lludw allan.' 'Raid i mi bicio i'r stabla rwan, i ddeud wrth Robert 'y mrawd.
"Oeddat ti'n deud rhwbath?" meddai Ger.
Tra bod La-La yn werinol dros ben, mae dylanwad sawl grwp cyfoes yn amlwg ar Deud Dim.
Doedd hi ddim rhyw fodlon iawn chwaith - deud nad oedd hi ddim digon cynnas o hyd i ni feddwl 'drochi, ond mi gytunodd i ni fynd, wrth bod Mrs Robaits, Cae Hen yn mynd â ni.
Beth wyt ti'n feddwl o'r darlun?" "A deud y gwir yn onest," meddai Sam, "dydw i'n gweld fawr ddim yno fo.
Mae'n wir deud fod plant bychan yn hoff o anifeiliaid ond mae stori yn bwysicach i'w harwain drwy lyfr.
Byddai'i modryb yn deud fod Syr Simon yn arfar cael 'i sgwrio cyn brecwast bob dydd hefo brws sgwrio, gymra fy llw y byddai raid i minna fynd trwy'r un oruchwyliaeth.
Os byddi di wedi cael y profiad fyddi di ddim yn gallu ei gelu, ond mi fyddwn ni'n gwybod yn syth os byddi di'n deud celwydd.' Galwodd Bilo ar Dan Din i osod y dasg nesaf.
Tenor ardderchog oedd Ivor Thomas, ac rwy'n cofio ei glywed yn canu mewn cyngerdd a arferai fod yn rhan o Eisteddfod Mon, gyda Madam Rosina Buckman (a gafodd ei chladdu yn Sir Fon, lle mae Atomfa'r Wylfa, a lle y buont yn deud i rywrai clywed canu).
'Deud y bydda i nad oes a wnelo cyfreithiwr ddim â'r cwestiwn a ydi person yn euog ai peidio, dim ond â dilysrwydd y dystiolaeth ymhob achos.'
'Cystal i ti ddeall nad oes yr un mygiwr yn y sir, yn y wlad a deud y gwir sy wedi cael cymaint o lwyddiant â Jaco.
'Dwi'n cofio unwaith mam wedi gwneud cwstad wy, a thrwy rhyw anffawd disgynnodd matsian i'r cwstad, heb i mam sylwi, fe gyrhaeddodd y fatsian ar blât 'y nhad, ac yntau'n troi at Glyn, fy mrawd, a deud 'Gymi di hanner y fatsian 'ma efo fi Glyn?' Os bydda ni'n digwydd mynd i rywle i gael bwyd wedyn, tŷ ffrindia' neu gaffi, ac os bydda rhywun yn cynnig cwstard, mi fydda ni i gyd fel un yn dweud, "Oes 'na fatsian yno fo?" 'Roedd nhad yn ddoniol pan oedd o wedi gwylltio hyd yn oed, dyma ddwy enghraifft sy'n dod i'r cof.
Pedair amod â deud y gwir.
Ac wedi iddi fynd i'r hwyl, dyma hi'n deud peth fel hyn: "Os y bydd rhywun yn trio'ch treisio chi, dydy o ddim yn beth doeth i wrthwynebu gormod." Wrth gwrs, mae cyfla yn beth mawr, chwadal nhwtha, ac mi sylwais ar y diwadd, pan oedd pawb yn ei holi hi, na ddarfu neb feddwl gofyn a oedd hi wedi cael y profiad ei hun.
Yna, ildiodd yr handlen i Rhys, 'Cofia beth dw i 'di deud wrthot ti a chymer ofal ohoni.' Anwesodd Mali cyn camu'n ôl i'r tŷ a sefyll yn y drws.
Deud wrtho fo am fynd yn ôl i'w nyth yn y gogledd lle mae wyau'r glaw yn deor fel ffynhonnau gwynion, tydan ni ddim isio'i fath o ffordd hyn.
Cofiwch, y cyfan sy isio ydi deud y gwir.
Yn yr un modd mae'r prif drac yn achosi penbleth yn ogystal, gan fod Deud Dim yn agoriad annisgwyl i'r albym.
dydw i ddim wedi meddwl am y peth a deud y gwir.' 'Mi fydd yn rhaid i ti ddechrau meddwl.
Byddai'r hen bobol yn deud y gallasai Owain orchfygu mil o wþr wrth iddynt geisio dod i'r ogof.
Roeddwn i'n gweld yr Iraniaid yn edrych arnon ni, a chyn bo hir dyma un ohonyn nhw'n dweud: 'Chi deud stori ysbryd.
"Deud celwydd wrth Laura Elin," medda hi'n chwareus.
Ac mi roeddwn i wedi ypsetio cymaint, mi es at ryw blisman oedd yn cyfeirio traffig ar gongl Pendis yn y fan yna, a dyma fi'n deud wrtho fo: "Maddeuwch i mi," medda fi.
'Dwi'n cofio Glyn yn deud wrth nhad, "Ew ma' hon yn hen dad." "Yndi," medda nhad, "Hon oedd gan Noa yn yr Arch
Wel rŵan, i mi ga'l deud wrthach chi ble i ddwad.
Deud rhyw fath o stori-ddoniol neu jôc oedd y gystadleuaeth stori fer yma.
Deud wrtho fo am fynd i ganol anialwch tywod y de lle mae'r haul yn boeth a sychad yn cau gyddfau'r nadroedd, mi gâi groeso'n fanno.
'Wnes i ddim ond cydio yn fy nghap a deud, "Dyna dy eitha' di'r uffar," ac allan a fi'.
Gyda llaw, ydi Morus y bwtlar yn 'i bantri?' 'Sydna yn deud bod o 'di picio i Blas Llandygwnning hefo'i fasgiad wellt, ar ryw negas neu'i gilydd.' 'Bicia inna i'w bantri ynta i nôl gwydriad bach o'r rum hwnnw ddaeth i Borth Ceiriad pan aeth llong 'rhen Gaptan Huws Barrach Fawr yn sownd yn y creigia.
Doedd deud hynna ddim yn gneud synnwyr i lawer, fel roedd hi'n sylweddoli, ond roedd o iddi hi, o leia.
"A pheth arall," medda fi, ar ôl iddo fo gael cyfla i ddþad i lawr o ben ei gawall, "lle mae'r lechan las honno oedd yn y clawdd yn deud fod yna dros hannar cant o filltiroedd dros ddeugant i Lundan?" Wydda fo ddim, a doedd dim gwahaniaeth gynno fo chwaith.
"Ti'n sylweddoli dwad, gwaith cofio sy' 'na, camras, goleuada, meicraffons, a chei di ddim deud dy lein yn rhywla, rhywla sdi, rhaid i chdi ddeud dy linellau yn yr un lle bob tro, neu mi fydd y cyfarwyddwr.